Tag: Ynys Môn

Llais Cryfach i Gymru mewn Prydain sy’n Newid

Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr cyfansoddiadol i gael dweud eich dweud ar faterion cyfansoddiadol.

Mae Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn edrych ar sut y mae Cymru yn gweithio gyda seneddau a llywodraethau eraill: y berthynas rhyngddynt, pa mor dda y maent yn cydweithio ac yn rhannu syniadau. Drwy ddeall y berthynas bresennol a’r berthynas yn y gorffennol, byddai’r Pwyllgor yn gallu argymell y model gorau o ran gweithio yn y dyfodol.

Different legislature buildings

Ond pa fath o berthynas y mae pobl Cymru am i’n sefydliad ei chael â seneddau a llywodraethau eraill?

Bydd Huw Irranca-Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor, yn cynnal trafodaeth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn canolbwyntio ar yr heriau cyfansoddiadol mwyaf dwys, yn ei marn ef, mae pobl Cymru wedi eu hwynebu ers sawl cenhedlaeth, fel gwlad – Cymru – ac fel teulu o wledydd yn y Deyrnas Unedig. Bydd y ffordd mae Cymru yn ymateb i’r heriau hynny yn brawf diffiniol o’n cenhedlaeth ni.

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol, wrth gwrs, yn ddathliad o ddiwylliant Cymreig traddodiadol, y celfyddydau a’r iaith, ond mae hefyd yn fan lle caiff hunaniaeth Cymru a’i phobl ei dychmygu dro ar ôl tro. Mae hefyd yn fan lle mae gwleidyddiaeth a chyfansoddiad Cymru – a Chymru o fewn y Deyrnas Unedig – wedi cael eu trafod a’u dadlau’n frwd dros y degawdau, ar y Maes ac oddi arno.

Mae’r Deyrnas Unedig yn ceisio trafod ffordd allan o’r Undeb Ewropeaidd. Mae Lloegr wedi drysu ynghylch ei hunaniaeth – neu’r sawl hunaniaeth sydd ganddi – ac maen arbrofi â ffurfiau gwahanol o ddatganoli yn Llundain a bellach yn ei dinasoedd metropolitan a rhanbarthau mawr. Pleidleisiodd yr Alban mewn un refferendwm i aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig, mae ei llywodraeth yn chwarae â’r syniad o gael ail refferendwm, ond wedi rhoi’r syniad i’r neilltu – am y tro o leiaf. Ac mae sefydliadau Gogledd Iwerddon yn ei hunfan yn stond ac yn wynebu’r bygythiad o Reolaeth Uniongyrchol. Mae gan Gymru Fodel Cadw Pwerau yn debyg i’r Alban o’r diwedd, ond mae rhai sylwebwyr arbenigol – ac yn wir, Llywodraeth Cymru ei hun – yn dadlau bod perygl y bydd Deddf Cymru, ynghyd â Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), yn gam yn ôl i’r broses ddatganoli.

‘Ni ddylai Cymru ofni arwain y ffordd o ran datblygu cyfraith glir, gryno a dealladwy’

Yn yr amgylchedd tymhestlog a newidiol hwn, mae’n gwbl briodol i ofyn y cwestiwn sylfaenol: sut y gallwn sicrhau llais cryf i Gymru nawr, a llais cryfach yn y dyfodol? Ymysg yr holl stŵr, mae’n gwbl angenrheidiol sicrhau’r llais cryfaf posibl i Gymru yn yr undeb hon o wledydd.

Ymunwch â ni yn yr Eisteddfod eleni

Dydd Llun 7 Awst

Pabell y Cymdeithasau 2

11.30 – 12.30

Bydd Huw Irranca-Davies AC, Cadeirydd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn sôn am ymchwiliad y Pwyllgor, sef ‘Llais Cryfach i Gymru’.

Yna, bydd cyfle i gyfarfod ag aelodau’r Pwyllgor i drafod y materion hyn a fydd yn arbennig o bwysig wrth i’r DU baratoi i adael yr UE.

Buddsoddi ar y cyd a sbarduno gweithlu cynhyrchiol a medrus yng Nghymru

Yn Ebrill 2015 gwelwyd Llywodraeth Cymru’n dechrau gweithredu ei fframwaith ar fuddsoddi ar y cyd mewn sgiliau. Mae’r fframwaith hwn yn newid y ffordd y mae hyfforddiant, sgiliau a phrentisiaethau yn cael eu hariannu yng Nghymru.

Mae’r dull newydd o fuddsoddi mewn sgiliau yn golygu bod cyfanswm y gost o hyfforddi, mewn termau arian parod, yn cael ei rhannu rhwng dau neu fwy o bobl. I fusnesau neu unigolion sy’n cyflogi prentisiaid neu’n cynnig hyfforddiant ar waith, mae’r newid yn golygu bod rhaid cynyddu eu cyfraniadau ariannol i dalu’r gost o hyfforddiant sgiliau yn eu gweithle.

William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes
William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes

Wrth ddisgwyl cael eu gweithredu’n llawn erbyn 2017, roedd y Pwyllgor Menter a Busnes am ddarganfod sut byddai hyn yn effeithio busnesau Cymru a darparwyr hyfforddiant. Byddai’r fframwaith newydd yn helpu cyflawni nôd Llywodraeth Cymru o “sicrhau bod Cymru’n datblygu mantais gystadleuol wrth sbarduno gweithlu cynhyrchiol a medrus”?

Cynhaliodd y Pwyllgor cyfarfodydd busnes brecwast yng Ngogledd a De Cymru er mwyn archwilio’r materion hyn ymhellach. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ym Mragdy Brains, Caerdydd gydag amrywiaeth o gynrychiolwyr o’r sectorau academaidd, hyfforddiant a busnes.

Dyma Gwawr Thomas, o Creative Skillset Cymru, yn sôn am gymryd rhan yn y digwyddiad ac yn egluro pwysigrwydd buddsoddi ar y cyd mewn sgiliau o fewn y diwydiannau creadigol.

Trafododd cyfranogwyr yr angen i ystyried y gwahanol lefelau o gymorth ariannol ar gael i amrywiaeth o fusnesau all fod yn gweithredu ar wahanol raddfeydd. Gall buddsoddiad cynyddol gan gyflogwyr golygu bod y busnesau hynny yn dewis ymgeiswyr sydd â phrofiad – a allai weld iddynt esgeuluso ymgeiswyr ifanc ac yn gweld y polisi yn gweithio yn erbyn nôd Llywodraeth Cymru.

Dylan's, Porthaethwy - Ynys Môn
Dylan’s, Porthaethwy – Ynys Môn

Cynhaliwyd yr ail gyfarfod busnes brecwast ym mwyty Dylan’s, Ynys Môn gyda darparwyr hyfforddiant a chynrychiolwyr busnes lleol. Iwan Thomas, Arweinydd Sgiliau Rhanbarthol a Chyflogaeth ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru oedd un o’r gwahoddedigion. Un neges allweddol oedd arno eisiau mynegi oedd i Lywodraeth Cymru ystyried dull rhanbarthol o fuddsoddi ar y cyd, a sut dylai cymryd y newid polisi ymlaen.

Ar ôl cynnal y ddau cyfarfod brecwast, mae’r Pwyllgor Menter a Busnes wedi danfon llythyr o argymhellion Julie James AC, Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg i’w hystyried o ran y newid polisi. Mae modd i chi ddarllen y llythyr sydd yn cynnwys yr argymhellion yma: http://bit.ly/1VIM4am

Busnesau’n rhannu eu profiadau o allforio

Mae rhai o fusnesau a masnachwyr Cymru wedi cymryd rhan mewn cyfweliadau fideo’n ddiweddar  gyda thîm Allgymorth y Cynulliad. Cymerodd saith o fusnesau ran mewn cyfweliad pan ofynnwyd i berchnogion busnes roi sylwadau ar y modd y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddiad, gan sôn yn benodol am y canlynol:

-y rhwystrau sy’n wynebu’r rhai sy’n ystyried allforio a pha mor effeithiol yw’r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru (a Llywodraeth y DU)  i leihau’r rhwystrau hynny;

– manteision allforio;

– a oes gan farchnadoedd tramor ddealltwriaeth lawn o’r hyn y gall Cymru a busnesau Cymru ei gynnig.

Roedd y busnesau a gafodd eu cyfweld yn cynnwys amrywiaeth o wahanol ddiwydiannau (gan gynnwys gweithgynhyrchu: Trax JH Limited, bwyd a diod: Brecon Brewing a melysion: Bon Bon Buddies), ac roeddent yn dod o wahanol rannau o Gymru (gan gynnwys Ceredigion: Howies, Ynys Môn: Halen Môn, a Llanelli: WeldWide Solutions). Roedd pob busnes heblaw un yn allforio’u cynnyrch ar hyn o bryd, ac roedd rhai ohonynt wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru i’w helpu i fasnachu dramor, ond nid pob un.

Tom Vousden Design, cwmni dylunio dodrefn o Ynys Môn, oedd yr unig fusnes a gafodd ei gyfweld nad oedd yn allforio ar hyn o bryd, a soniodd am ei ddymuniad i wneud hynny yn y pen draw, er y byddai’n hoffi i Lywodraeth Cymru ei gynorthwyo drwy nodi partneriaid mewn marchnadoedd tramor.

Cafodd pob cyfweliad ei olygu mewn pecyn fideo a rannwyd yn ôl y themâu a gododd yn ystod y trafodaethau, sef:

–          Cymorth gan Lywodraeth Cymru;

–          Canfyddiadau presennol o frand Cymru;

–          Manteision masnachu’n rhyngwladol;

–          Rhwystrau i fasnach ryngwladol; a

–          Meysydd i’w gwella.

Disgrifiodd John Halle, Rheolwr Gyfarwyddwr Trax JH Limited y profiad:

“Rwy’n falch iawn i mi gael y cyfle i sôn am fewnfuddsoddiad a Llywodraeth Cymru …

Yr hyn yr hoffwn ei ddweud wrth bobl sy’n ystyried allforio… gallai Llywodraeth Cymru geisio denu rhagor o bobl sydd â phrofiad ym maes allforio, rhai sydd wedi goresgyn problemau, wedi mentro ac wedi llwyddo… a’u defnyddio nhw i siarad â phobl oherwydd eu bod yn gallu rhoi enghreifftiau o sut y mae pethau yn y byd go iawn”.

Dangoswyd y pecyn fideo i’r Pwyllgor Menter a Busnes fel rhan o’u hymchwiliad i fasnach a mewnfuddsoddiad mewn
cyfarfod yn y Senedd.

Gallwch wylio’r fideo cyfan yma:

Bydd y Pwyllgor yn awr yn ystyried cynnwys y fideo ynghyd â’r wybodaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd, a’r cyfarfodydd a gafwyd gyda chyrff a busnesau perthnasol yn y Senedd. Bydd y Pwyllgor yn cael cyfle i holi tystion gan gynnwys cyfrifoldeb y Gweinidog, arbenigwyr polisi a chynrychiolwyr eraill.

Y Cynulliad yn eich ardal chi – cyflwyniad i Gymdeithas Ddiwylliannol Capel Lôn y Felin

Yn ddiweddar, ymwelodd Lowri Williams, Rheolwr Allgymorth Gogledd Cymru Cynulliad Cenedlaethol Cymru, â Chymdeithas Ddiwylliannol Capel Lôn y Felin i sgwrsio â’r aelodau am waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cafodd yr ymweliad ei drefnu ar ôl i Lowri gael sgwrs gydag un o aelodau’r Gymdeithas ar fws y Cynulliad yn Sioe Môn y llynedd.

 

Rhoddodd Lowri gyflwyniad byr a gwrando ar farn y gynulleidfa. Rhoddwyd gwybodaeth am sut y gellir dylanwadu ar waith y Cynulliad a gwneud yn siŵr bod eu llais yn cael ei glywed.