Tag: Wrecsam

Blog y Cadeirydd: Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd

DavidReesAM

David Rees ydw i  (@DavidReesAM), Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Ym mis Medi 2014, dechreuodd y Pwyllgor drafod sylweddau seicoweithredol newydd (“NPS”). Erbyn hyn, rydyn ni wedi gorffen ein hymchwiliad, ac rydyn ni wedi ysgrifennu adroddiad (PDF, 1MB) yn gwneud 14 o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Mae crynodeb (PDF, 252KB) ar gael hefyd.

Beth yw sylweddau seicoweithredol newydd (NPS)?

Mae NPS yn cael eu marchnata’n aml fel cyffuriau cyfreithlon, sy’n fwy diogel na chyffuriau anghyfreithlon, ac sy’n cael eu cynhyrchu mewn labordai a’u gwerthu ar y rhyngrwyd neu mewn siopau arbennig ar y stryd fawr (“head shops”). Cyfeirir atyn nhw’n aml fel “cyffuriau penfeddwol cyfreithlon” (legal highs). Mae’r ffordd yma o’u marchnata’n gamarweiniol  – gall eu sgil-effeithiau fod yr un mor ddifrifol â sgil-effeithiau cyffuriau anghyfreithlon, a gallan nhw fod yr un mor gaethiwus hefyd. Yn aml iawn, maen nhw’n cynnwys olion sylweddau nad yw’n gyfreithlon eu gwerthu na’u cymryd.

Pam benderfynodd y Pwyllgor gynnal yr ymchwiliad hwn?

Fe wnaethon ni benderfynu ymchwilio i’r mater hwn oherwydd bod y nifer sy’n defnyddio NPS wedi cynyddu yng Nghymru, a lleoedd eraill, yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bu farw 60 o bobl yng Nghymru a Lloegr yn 2013 oherwydd NPS. Roedd hyn 15 y cant yn uwch na’r flwyddyn flaenorol. Roedd yr Aelodau yn poeni am y niwed y mae NPS yn ei achosi i iechyd pobl ac i’r gymdeithas, ac roedden nhw am dynnu sylw at y camau ymarferol y mae angen eu cymryd er mwyn i bobl allu gwneud penderfyniadau gwybodus am ddefnyddio NPS.

Sut aeth y Pwyllgor ati i gasglu sylwadau gan bobl ar gyfer yr ymchwiliad?

Defnyddiodd y Pwyllgor nifer o wahanol ffyrdd o ofyn barn pobl am NPS, gan gynnwys:

  • gofyn i’r cyhoedd lenwi holiadur.  Aeth 1072 o bobl o bob rhan o Gymru ati i lenwi’r holiadur;
  •  gwahodd cynrychiolwyr o gyrff allweddol i siarad â’r Aelodau mewn cyfarfodydd swyddogol yn y Senedd ym Mae Caerdydd;
  • cynnal grwpiau ffocws ym Merthyr Tudful a Wrecsam i glywed gan staff rheng flaen yn uniongyrchol. Aeth aelodau’r Pwyllgor i ymweld â phrosiect LOTS, Clwb Ieuenctid Forsythia, DrugAid a phencadlys DAN 24/7, llinell gymorth Cymru i helpu pobl sy’n camddefnyddio sylweddau. 

Rydyn ni wedi ysgrifennu blog am yr ymweliadau hyn ac rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi lluniau o Wrecsam a Merthyr ynghyd â rhai fideos byr er mwyn ichi allu gweld beth y mae’r Pwyllgor wedi bod yn ei wneud:

NPS NPS

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi defnyddio Storify.

Beth ddywedodd pobl wrth y Pwyllgor a beth rydyn ni wedi’i wneud?

Beth ddywedodd pobl wrth y Pwyllgor

  • Mae angen gwneud rhagor i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r niwed y mae sylweddau seicoweithredol newydd yn ei achosi.
  • Mae’r term ‘cyffuriau penfeddwol cyfreithlon’ yn gwbl anaddas.  Mae’n awgrymu ei bod yn ddiogel ac yn gyfreithlon i ddefnyddio’r cyffuriau hyn. Mewn gwirionedd, maent yn aml yn niweidiol iawn ac yn cynnwys sylweddau anghyfreithlon;
  • Dylai Llywodraeth y DU, sy’n gyfrifol am y polisi cyffuriau, wahardd cyflenwi sylweddau seicoweithredol  newydd, a gwneud y siopau arbennig ar y stryd fawr, a’r stondinau marchnad sy’n eu gwerthu, yn anghyfreithlon;
  • Ni ddylid rhoi record droseddol i’r rhai sy’n defnyddio sylweddau seicoweithredol newydd – gallai hynny wneud pethau’n waeth i ddefnyddwyr sy’n ceisio ailafael yn eu bywydau;
  • Nid ydym yn gwybod digon am nifer y bobl sy’n cymryd sylweddau seicoweithredol newydd a’r niwed y gall y sylweddau ei achosi.

Beth ddywedodd y Pwyllgor yn ei adroddiad

  • Dylid ailedrych ar fyrder ar y rhaglen addysg cyffuriau mewn ysgolion, i’w gwella, ac i sicrhau cysondeb drwy Gymru, ac i wneud yn siŵr bod y rhai sy’n ei chyflwyno wedi cael yr hyfforddiant a’r cymwysterau priodol.
  • Dylid datblygu rhaglen hyfforddi genedlaethol ar sylweddau seicoweithredol newydd i’r holl staff sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus (e.e. meddygon, nyrsys, yr heddlu, gweithwyr cymdeithasol, swyddogion carchar ac ati);
  • Dylai ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd 2015 Llywodraeth Cymru ar sylweddau seicoweithredol newydd gynnwys gwybodaeth wedi’i thargedu ar gyfer pobl ifanc, a phwysleisio nad yw cyfreithlon yn golygu diogel;
  • Dylai’r rhai sy’n gweithio yn y maes hwn, gan gynnwys y cyfryngau, roi’r gorau i ddefnyddio’r term “cyffuriau penfeddwol cyfreithlon” gan ei fod yn gamarweiniol iawn.
  • Dylai Llywodraeth Cymru annog Llywodraeth y DU i gymryd camau cyn gynted â phosibl i wahardd cyflenwi sylweddau seicoweithredol newydd fel yr awgrymwyd.

I weld yr 14 argymhelliad yn llawn darllenwch ein hadroddiad (PDF, 1MB) neu’r crynodeb (PDF, 252KB).

Beth oedd barn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am ein hadroddiad?

Yn ei hymateb i’n hadroddiad mae Llywodraeth Cymru  (PDF, 295KB) yn derbyn pob un o’n hargymhellion yn llwyr. Mae Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU (PDF, 69KB) hefyd wedi ysgrifennu at y Pwyllgor i nodi ei bod yn croesawu ein gwaith a’i bod yn cefnogi pob un o’r 14 argymhelliad.

Beth nesaf?

Bydd ein hadroddiad yn cael ei drafod gan holl Aelodau’r Cynulliad ar 13 Mai yn y Siambr, prif le trafod y Cynulliad. Dyma gyfle i dynnu sylw at y mater pwysig hwn, ac i ofyn i Weinidog Iechyd Llywodraeth Cymru beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi ein hargymhellion ar waith.

Rydw i am ddiolch i bawb a dreuliodd amser yn rhannu eu profiadau ym maes NPS ac am eu sylwadau ynghylch y camau y mae angen eu cymryd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r niwed y gall NPS ei achosi. Er mai’r cyfan y gall y Pwyllgor ei hun ei wneud yw argymell newidiadau, yn hytrach na gwneud y newidiadau ei hun, bydd yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru ac eraill i roi’r camau y mae wedi’u nodi yn ei adroddiad ar waith.

Sut i gymryd rhan a chael y wybodaeth ddiweddaraf

Blog #SeneddWrecsam: Wythnos prysur iawn yn Wrecsam

Yn ystod wythnos olaf mis Mawrth bu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Wrecsam yn cynnal wythnos o ddigwyddiadau #SeneddWrecsam. Yma, mae Lowri Lloyd Williams, Rheolwr Allgymorth Gogledd Cymru yn rhedeg drwy ddigwyddiadau’r wythnos.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru bws

Dydd Llun 23 Mawrth 2015

Mi ddechreuodd #SeneddWrecsam gyda bws y Cynulliad wedi ei pharcio yn Sgwâr y Frenhines, ble cafwyd nifer o ymwelwyr yn ystod y dydd. Mr Pugh oedd ein hymwelwr cyntaf, galwodd heibio ar ei ffordd i nôl llaeth i’w wraig i nodi materion yn ymwneud a thrafnidiaeth.  Roedd Mr Pugh yn poeni am gyflwr arwynebedd y ffordd yn ogystal ag effeithiau’r gwaith ar yr A55 ar yr ardal.  Roedd costau parcio hefyd yn bwynt yr hoffai Mr Pugh ei godi gyda’r Cynulliad.

Materion eraill a nodwyd yn ystod y dydd oedd cyflymder band llydan, codi ymwybyddiaeth o waith y Cynulliad a materion yn ymwneud ag iechyd, yn benodol gwasanaethau cancr y fron.

Yn ogystal daeth Andrew Atkinson a Alex Jones o Grŵp Busnes Wrecsam i’r bws i drafod materion ynglŷn â threthi busnes.  Dyma fideo a gynhyrchwyd yn nodi eu pryderon.

Ymwelwyd â’r bws hefyd gan Dr Helen Paterson, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam  a John Gallenders, Prif Weithredwr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam a oedd yn annog eu staff i gymryd rhan yng ngweithgareddau #SeneddWrecsam.

Dydd Mawrth 24 Mawrth 2015

Yr ail ddiwrnod o #SeneddWrecsam ac roedd bws y Cynulliad yn ôl yn Sgwâr y Frenhines, a phobl Wrecsam yn manteisio ar gael y Cynulliad yn eu hardal, ac yn parhau i ymweld â ni gyda digon o gwestiynau, sylwadau a materion i’w codi.

Roedd iechyd unwaith eto yn bwnc poblogaidd gydag amseroedd aros, gwasanaethau trawsffiniol a phresgripsiwn am ddim yn bynciau a drafodwyd.   Cyfeiriwyd y bobl a chododd y materion hyn at eu Haelodau Cynulliad i drafod y materion ymhellach ac i edrych ar waith y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Roedd yn bleser cael ymweliad gan fyfyrwyr Bagloriaeth Cymru St Christopher’s School, Wrecsam yn ystod y bore. Yn dilyn cyflwyniad byr ynglŷn â’r Cynulliad, fe gafwyd dadl ynglŷn â gostwng yr oedran bleidleisio i 16 mlwydd oed fel rhan o ymgynghoriad Pleidleisio@16? Gellwch ddarganfod mwy am yr ymgynghoriad ymaRoedd y bobl ifanc yn credu y dylai pobl ifanc gael mwy o gyfle i ddysgu am wleidyddiaeth a dylai Aelodau Cynulliad ymrwymo i gael pobl ifanc yn eu cysgodi.

Ysgol St. Christophers

Pobl ifanc St Christopher School, Wrexham yn mwynhau ar y bws.

Yn dilyn hyn, daeth Lynn Morris a Yvonne McCarroll o Grŵp Tenantiaid  Wrecsam ymlaen ar y bws i holi ynglŷn â ffyrdd y gallai tenantiaid gymryd rhan a dweud eu dweud ar faterion sydd yn effeithio arnynt.  Fel aelod o’r tîm allgymorth yng Ngogledd Cymru, mi roddodd hyn gyswllt newydd i ni yn ardal Wrecsam y gellir cysylltu wrth weithio ar ymgynghoriadau gyda Phwyllgorau’r Cynulliad yn y dyfodol.

Tra roedd rhai o’r tîm ar fws y Cynulliad, roedd eraill yn y Foyer Wrecsam yn siarad ag aelodau’r clwb brecwast.   Roeddynt yn awyddus i glywed pwy sy’n eu cynrychioli a sut y gallant fynegi eu pryderon. Roeddynt hefyd yn awyddus i ddysgu am y broses bleidleisio a sut i gofrestru i bleidleisio.  Gellwch glywed Courtney ag Amy yn siarad amdano yma:

Nos Fawrth aethom i weld bobl ifanc yn y Vic yn Wrecsam i gynnal sesiwn oedd yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â beth yw’r Cynulliad, pwy yw eu Haelodau Cynulliad a sut maent yn eu cynrychioli. Roedd aelodau eraill o’r tîm gyda Dynameg Wrecsam yn cynnal sesiwn ryngweithiol debyg.

Dydd Mercher 25 Mawrth 2015

Roeddem wedi trefnu i gael presenoldeb y Cynulliad yn adeilad Galw Wrecsam ar gyfer #SeneddWrexham dydd Mercher ac fe gymerodd pobl y cyfle i siarad â staff y Cynulliad wrth iddynt ymweld â Chyngor Wrecsam ar gyfer materion eraill.

Rydym gennym hefyd bresenoldeb yn siop Info Wrecsam i roi cyfle i bobl ifanc gwblhau’r Ymgynghoriad Pleidleisio@16.  Cawsom gyfarfod gyda phobl ifanc hynod ddiddorol oedd a safbwyntiau a barn gref am y pwnc.  Treuliwyd cryn amser gyda Lacey, 22, o Wrecsam, sydd yn erbyn gostwng yr oed pleidleisio gan nad yw pobl ifanc yn derbyn digon o addysg ac felly nad oes ganddynt ddigon o wybodaeth i bleidleisio.

Ymwelwyd hefyd â BAWSO yn ystod y bore i gynnal sesiwn yn egluro’r meysydd sy’n effeithio ar eu bywyd y mae’r Cynulliad yn gyfrifol amdanynt, pwy sy’n eu cynrychioli a sut y gallant godi materion gyda’r Cynulliad.

Sesiwn BAWSO

Sesiwn gyda BAWSO

Parhau gyda’r sesiynau wnaeth y tîm ar brynhawn dydd Mercher gan ymweld â sefydliad Chymorth i Fenywod Cymru yn Wrecsam gan gynnal sesiwn ar ddealltwriaeth ac ymgysylltu â’r Cynulliad.  Roedd yn sesiwn diddorol gyda digon o drafodaeth yn codi o’r pwyntiau a godwyd. Dyma’r hyn oedd gan Alison Hamlington i ddweud yn dilyn y sesiwn:

Dydd Iau 26 Mawrth 2015

Pedwerydd diwrnod #SeneddWrecsam ac roedd y gweithgareddau a’r digwyddiadau  yn parhau ym mhob rhan o’r dref.  Roeddem yn Coleg Cambria ble roedd myfyrwyr yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad Pleidleisio@16 drwy’r dydd. Cafodd dros 300 o holiaduron ymgynghori eu cwblhau yn ystod y dydd. Ewch i’n gwefan Dy Gynulliad am ddiweddariad o ddatblygiad y gwaith hwn.

Yn ogystal, roeddem wedi sefydlu gorsaf ffilmio yn llyfrgell Coleg Cambria, ble roedd myfyrwyr cyfryngau yn cyfweld a’u cyfoedion yn trafod gostwng yr oedran pleidleisio i 16.  Roedd y myfyrwyr yn gwneud yr holl ffilmio eu hunain, ac roedd cyfle i drafod materion eraill hefyd, gan gynnwys a ddylid gwneud pleidleisio yn orfodol i bobl ifanc ac yw pobl ifanc yn cael digon o wybodaeth am wleidyddiaeth.  Gallwch weld fideos hyn drwy’r rhestr chwarae yma:

Roedd y myfyrwyr yn gyfrifol am gymryd awenau ein gwefan Dy Gynulliad hefyd, gan sicrhau bod cynnwys y wefan sy’n anelu at bobl ifanc. Gallwch weld lluniau o’r diwrnod yn ein halbwm Flickr.

Draw ym Mhrifysgol Glyndŵr yn ystod y prynhawn, roedd Llywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler AC yn cwrdd â phobl ifanc ardal Wrecsam i drafod y sgwrs genedlaethol Pleidleisio@16. Cafodd y digwyddiad ei drefnu mewn partneriaeth â Senedd yr Ifanc Wrecsam.

Mi wnaethom hefyd lwyddo i wasgu mewn dau sesiwn ymgysylltu arall- un ag  aelodau staff Cyngor Wrecsam ac un arall gyda grŵp Jig-so Parc Caia ble ymunodd Dirprwy Lywydd y Cynulliad, David Melding AC a ni.

Daeth y diwrnod i ben gyda derbyniad #SeneddWrecsam gyda thua 70 o bobl lleol yn bresennol i ddathlu gwaith Hyrwyddwyr Cymunedol Wrecsam.  I sain gerddorion Coleg Cambria fe gafwyd ddigon o rwydweithio rhwng gwleidyddion, arweinwyr dinesig ac arweinwyr cymunedol yn ystod y noson.

Dydd Gwener 27 Mawrth 2015

A dyma gyrraedd diwrnod olaf #SeneddWrexham gyda diwrnod prysur arall i’r tîm.

Dechreuodd Dydd Gwener gydag ein swyddogion addysg yn Ysgol Uwchradd Rhosnesni ble roedd dros 150 o bobl ifanc yn cymryd rhan yn yr  ymgynghoriad Pleidleisio@16. Dilynwyd y sesiwn hyn â sesiwn gyda Chyngor yr Ysgol, ble ymunodd y Dirprwy Lywydd David Melding AC â’r cyfarfod i drafod materion yr oeddynt wedi ymdrin â nhw o fewn y cyngor yn ystod y 12 mis diwethaf.

Ysgol Uwchradd Rhosnesi

Y Cyngor Ysgol yn nodi eu barn i Pleidleisio@16.

Ar ôl treulio’r bore ar ein stondin ym Mhrifysgol Glyndŵr, treuliais y prynhawn gyda grŵp Hafal yn Wrecsam gan gynnal gweithdy olaf yr wythnos.  Yr oedd yn sesiwn ryngweithiol gyda digon o drafodaeth ac ymunodd Aled Roberts AC a ni i siarad am ei rôl fel Aelod Cynulliad.

Cyflwyniad Grwp Hafal

Criw Hafal ar ôl y cyflwyniad.

Yn y cyfamser, draw ym Mhrifysgol Glyndŵr roedd aelodau o’r Cynulliad Cenedlaethol Cymru a staff Phrifysgol Caerdydd yn cwrdd â myfyrwyr,  blogwyr lleol a newyddiadurwyr.  Roedd y digwyddiad yn rhan o waith Diffyg Democrataidd y Llywydd, i geisio helpu newyddiadurwyr cymunedol o amgylch Cymru i gael gafael ar wybodaeth am y Cynulliad yn haws.

Mae’r Llywydd, Y Fonesig Rosemary Butler AC wedi ymrwymo i weithio tuag at fynd i’r afael a’r “Diffyg Democrataidd” sydd wedi ei achosi gan y nifer fawr o bobl yng Nghymru sy’n darllen neu’n gwylio newyddion a materion cyfoes gan ddarlledwyr a sefydliadau cyfryngau’r DU sydd yn aml yn anwybyddu’r gwahaniaethau ym mholisi cyhoeddus Cymru o’i gymharu â Lloegr.

Cafodd newyddiadurwyr, gan gynnwys llawer o’r Ysgol Newyddiaduraeth Glyndŵr y cyfle i gyfweld â’r Llywydd a’r Dirprwy Lywydd.  Fe gafwyd hefyd gyfle i fynychu digwyddiad ar ffurf arddull gynhadledd i’r wasg gyda’r Llywydd.

Hoffem ddiolch i bawb a wnaeth ymwneud â ni yn ystod yr wythnos ac am y croeso cynnes a gawsom yn Wrecsam.

Mae roedd yn wythnos wych gyda llawer o waith a chysylltiadau da wedi eu gwneud yn yr ardal.

Gallwch weld lluniau o’r wythnos yn ein halbwm Flickr.

Os hoffech chi i ddysgu mwy am waith y tîm allgymorth yng Ngogledd Cymru, yna gallwch gysylltu â’r Cynulliad ar 0300 200 6565 neu cysylltu@cynulliad.cymru.