#GofynPrifWein– Cyfle i holi Carwyn Jones, y Prif Weinidog
Hoffai’r Pwyllgor glywed gan sefydliadau, busnesau a chi – mae rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan ar-lein ar gael isod.
Mae’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cyfarfod yn Abertawe am 10.30 ar 16 Hydref yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Y prif bwnc trafod fydd ‘Cymru yn y Byd Ehangach’. Dyma enghreifftiau o’r materion y bydd yn cael eu trafod:
Beth yw strategaeth gyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer marchnata a hyrwyddo Cymru i’r byd? | Beth yw brand Cymru? Pa mor llwyddiannus yw ymdrechion i hyrwyddo atyniadau yng Nghymru i dwristiaid? | A yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i ddenu buddsoddwyr? |
A yw Llywodraeth Cymru yn llwyddo I gyfleu delwedd o Gymru sy’n apelio i dwristiaid o’r DU ac o dramor? | A yw diwylliant Cymreig yn ddigon gweladwy y tu allan i Gymru? | Pa farchnadoedd neu nwyddau ddylid eu blaenoriaethu? |
Caiff agenda lawn ei llwytho i dudalen y Pwyllgor ar y we unwaith iddi gael ei chadarnhau.
Mae’r rhan fwyaf o Bwyllgorau’r Cynulliad yn cyfarfod yn wythnosol i graffu ar waith Llywodraeth Cymru yn fanwl, ond mae’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn canolbwyntio ar bynciau eang ynghylch unrhyw weledigaeth strategaeth ganolog yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.
Sut ydw i’n cymryd rhan ar-lein?
Gallwch gyflwyno eich cwestiwn neu sylw i’r Pwyllgor ynghylch ‘Cymru yn y Byd Ehangach’ fel a ganlyn:
![]() |
Ar Twitter – Dilynwch @CynulliadCymru ar Twitter ac ymatebwch i unrhyw negeseuon ynghylch y pwnc hwn gan ddefnyddio’r hashnod #GofynPrifWein. Hefyd, mae croeso ichi anfon neges uniongyrchol os hoffech i’ch neges fod yn gyfrinachol. |
![]() |
Ar Facebook – ‘Hoffwch’ dudalen y Cynulliad ar Facebook a gadewch neges ar unrhyw ddiweddariad statws perthnasol. Os nad ydych yn gweld diweddariad statws perthnasol, gallwch ysgrifennu neges ar y dudalen gyda’r hashnod #GofynPrifWein. |
![]() |
E-bost– Gallwch ddweud eich dweud drwy anfon e-bost at: Craffu.PW@Cynulliad.Cymru |
![]() |
Ar YouTube – Beth am ffilmio eich hun yn gofyn eich cwestiwn ac anfon linc i’r fideo drwy unrhyw un o’r sianeli uchod? |
![]() |
Ar Instagram – Os gallwch fynegi’ch barn mewn ffordd greadigol weledol, carwn weld eich cyflwyniadau. Tagiwch gyfrif Instagram y Senedd yn eich llun neu ddefnyddiwch yr hashnod #GofynPrifWein. Fel arall, gallwch wneud sylwadau ar unrhyw un o’n cyflwyniadau ar Instagram, eto gan ddefnyddio’r hashnod #GofynPrifWein. |
![]() |
Sylwadau – Beth am adael neges ar y blog hwn yn awr? |
Beth sy’n digwydd nesaf?
Byddwn yn coladu’r ymatebion a’u trosglwyddo at David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor. Bydd y Pwyllgor wedyn yn eu cynnwys yn ei gwestiynau i Carwyn Jones, y Prif Weinidog. Gallwch ddod i wylio’r cyfarfod yn fyw, ei wylio ar-lein ar Senedd.TV neu ddarllen y trawsgrifiad. Byddwn yn rhoi gwybod ichi os atebwyd eich cwestiwn. Cynhelir y cyfarfod yn Abertawe am 10.30 ar 16 Hydref yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Edrychwn ymlaen at glywed eich barn!
“You can see the extraordinary beauty, the wonderful people and great hospitality, so I’d encourage everybody in the States to come and visit Wales.”
– Yr Arlywydd Barack Obama
Ymchwilio i’r pwnc – ‘Cymru yn y Byd Ehangach’
Gallai’r pwnc hwn ymddangos yn gymhleth, ond gall cymryd cam yn ôl i ystyried mater yn ei gyfanrwydd fod yn werthfawr. Hoffwn glywed syniadau arloesol a sylwadau o safbwyntiau gwahanol gan bobl o wahanol gefndiroedd. Continue reading “#GofynPrifWein – Hoffai’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog glywed gennych”