Ar 13 Mawrth, cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant AC, y Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) gerbron y Cynulliad. Nod y Llywodraeth ar gyfer y gyfraith arfaethedig yw diogelu’r cyflenwad o dai cymdeithasol yng Nghymru drwy roi diwedd ar bob amrywiad o’r hawl i brynu a’r hawl i gaffael.
Beth mae’r newidiadau arfaethedig yn ei olygu?
Byddai’r hawl i brynu ar gyfer tenantiaid awdurdodau lleol a landlordiaid cofrestredig yn cael ei ddiddymu ar ôl cyfnod o flwyddyn o leiaf ar ôl cyflwyno’r gyfraith. Drwy gyflwyno’r gyfraith arfaethedig, nod Llywodraeth Cymru yw diogelu stoc tai cymdeithasol Cymru rhag gostwng ymhellach, gan sicrhau y darperir tai diogel a fforddiadwy i bobl nad ydynt yn gallu cael mynediad i’r farchnad dai i brynu neu rentu cartref.
Mae rhai awdurdodau lleol, gan gynnwys Sir y Fflint, Sir Gaerfyrddin ac Ynys Môn eisoes wedi atal y cynllun hawl i brynu. Byddai’r gyfraith arfaethedig yn rhoi diwedd ar y cynllun hawl i brynu yn holl awdurdodau lleol Cymru.
Sut gallai’r newidiadau effeithio arnaf i?
Wrth sicrhau bod tenantiaid presennol yn ymwybodol o’r newidiadau, mae’r gyfraith arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi gwybodaeth am ei heffeithiau cyn i’r diddymu ddigwydd, ac mae hefyd yn rhaid i landlordiaid cymdeithasol yn eu tro ddarparu’r wybodaeth honno i’r holl denantiaid y mae hyn yn effeithio arnynt o fewn dau fis wedi i’r gyfraith arfaethedig ddod i rym. Ar ôl cyfnod o flwyddyn o leiaf wedi i’r gyfraith ddod i rym, bydd yr holl hawliau’n cael eu diddymu. Mae hyn yn golygu y gall pob tenant y mae hyn yn effeithio arno arfer ei hawl i brynu o fewn y cyfnod hwnnw, ond nid wedi hynny.
Yr hawl i brynu ar draws y DU
Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi rhoi terfyn ar yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig yn yr Alban, ond mae Llywodraeth y DU yn gweithredu’n wahanol yn Lloegr. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno ei chynlluniau ei hun i ymestyn y polisi hawl i brynu i fwy o gartrefi.
Gwaith y Pwyllgor
Mae Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn grŵp o wyth Aelod Cynulliad o bob cwr o Gymru sy’n cynrychioli cyfansoddiad gwleidyddol y Cynulliad. Ein gwaith ni yw craffu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru ar faterion yn ein cylch gwaith i sicrhau eu bod er budd gorau Cymru a’i chymunedau.
Gan fod pwnc y gyfraith arfaethedig yn dod o fewn cylch gwaith y Pwyllgor, gofynnwyd inni edrych ar ei ‘egwyddorion cyffredinol’ neu’r prif nodau. Gelwir hyn yn ‘Gyfnod 1’, ac rydyn ni’n defnyddio’r rhan hon o’r broses i glywed tystiolaeth ac i lunio adroddiad a fydd yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru am newidiadau i’r gyfraith arfaethedig os oes angen. Mae gennym tan 7 Gorffennaf i wneud hyn.
Cymryd rhan
Ym mis Mai, mae’r Pwyllgor yn bwriadu cynnal sesiynau ymgysylltu â’r cyhoedd ledled Cymru i glywed barn tenantiaid am y gyfraith arfaethedig a’r goblygiadau iddyn nhw. Bydd y safbwyntiau hyn yn helpu i lywio ymchwiliad y Pwyllgor, ynghyd â’r dystiolaeth ysgrifenedig a llafar a ddaw i law.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y sesiynau hyn, neu os hoffech i ni ymweld, anfonwch e-bost at celyn.cooper@cynulliad.cymru.
Mae tudalen wê DialogueApp hefyd ar agor i chi gael mynegi eich barn a rhannu eich syniadau ar y Bil.
Y wybodaeth ddiweddaraf
I gael yr holl wybodaeth a’r datblygiadau diweddaraf, gallwch:
Yn gyffredinol, roedd y dystiolaeth a glywsom yn dangos bod cefnogaeth i amcanion cyffredinol y Bil, yn enwedig o ran symleiddio’r gyfraith bresennol am rentu. Ond, clywsom bryderon penodol am nifer o rannau o’r Bil, ac mae ein hargymhellion i’r Gweinidog yn adlewyrchu’r pryderon hyn.
Ymhlith materion eraill, mae ein hargymhellion yn ymwneud â:
chyflwr eiddo ar rent – h.y. y gofyniad ar landlord i sicrhau bod yr eiddo y mae’n ei gynnig i’w rentu yn ‘addas i bobl fyw ynddo’ ac mewn cyflwr da;
y cynigion ar gyfer pobl ifanc 16 neu 17 mlwydd oed er mwyn gallu cynnal ‘contract meddiannaeth’ (y term newydd am denantiaeth);
y cynigion sy’n caniatáu i landlordiaid wahardd rhywun sydd â chontract safonol â chymorth o’u cartref am hyd at 48 awr heb orchymyn llys.
Mae’r manylion llawn am ein holl argymhellion, gan gynnwys y rhai y cyfeiriwyd atynt uchod, i’w gweld yn ein hadroddiad.
Y cam nesaf o ran cynnydd y Bil yw’r ddadl Cyfnod 1. Trefnwyd y ddadl hon ar gyfer 7 Gorffennaf yn Siambr ddadlau’r Cynulliad, a bydd yn cynnwys trafodaeth ar y Bil gan yr Aelodau, a chytuno ynghylch a fydd y Bil yn mynd ymlaen i gam nesaf y broses ddeddfu.
Cadwch lygad ar #RentingHomesBill i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Sut i gymryd rhan a chael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor
Dilynwch @SeneddCCLlL i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Hafan y Pwyllgor i gael gwybodaeth am ymchwiliadau cyfredol a Biliau
Rydym bellach wedi gorffen cymryd tystiolaeth lafar gan dystion. Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i’n cynorthwyo wrth ystyried y Bil hyd yn hyn – mae wedi bod yn broses ddiddorol iawn.
Yn ein cyfarfod yr wythnos hon clywsom gan y Gymdeithas Ymarferwyr Cyfraith Tai. Rydym hefyd wedi holi’r Gweinidog am y Bil am yr ail dro – hwn fydd y tro olaf. Roedd hwn yn gyfle i ni holi’r Gweinidog am y prif bwyntiau sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod ein sesiynau tystiolaeth. Yn olaf, buom yn trafod yr holl dystiolaeth a glywsom yn ystod ein hymchwiliad a chytunwyd ar y materion sydd i’w cynnwys yn ein hadroddiad Cyfnod 1. Byddwn yn awr yn paratoi ein hadroddiad, ac yn ei gyhoeddi erbyn 26 Mehefin.
Rydym bellach dros hanner ffordd drwy’r broses o gasglu tystiolaeth. Cychwynnwyd y broses hon ar 22 Ebrill, pan gynhaliwyd sesiwn gyda’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil. Yn ystod yr wythnos ganlynol, ar 30 Ebrill, clywsom gan Gymdeithas y Cyfreithwyr, Tenantiaid Cymru, UCM Cymru a Let Down in Wales.
Yr wythnos diwethaf, ar 6 Mai, daeth y Sefydliad Tai Siartredig, Tai Cymunedol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymorth Cymru, Tai Pawb a’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl i’n cyfarfod i roi sylwadau ar y Bil.
Yr wythnos hon, byddwn yn clywed gan gynrychiolwyr landlordiaid ac asiantaethau gosod tai, yn ogystal â Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, Cyngor ar Bopeth Cymru a Shelter Cymru.
Bydd y broses o gasglu tystiolaeth yn dod i ben ar 20 Mai, pan fyddwn yn clywed tystiolaeth gan y Gymdeithas Ymarferwyr Cyfraith Tai ac yn clywed tystiolaeth am yr ail dro gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.
Yn ogystal â’r dystiolaeth lafar a geir yn ystod ein cyfarfodydd pwyllgor ffurfiol, wrth ffurfio barn ar y Bil byddwn hefyd yn ystyried y 41 o ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad cyhoeddus, a’r safbwyntiau a’r sylwadau amrywiol a fynegwyd yn ystod y digwyddiad a gynhaliwyd i randdeiliaid ym mis Mawrth.
Bydd ein cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ddydd Iau 14 Mai. Gallwch wylio’r cyfarfod yn fyw ar Senedd.tv.
Sut i gymryd rhan a chael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor
Dilynwch @SeneddCCLlL i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Fy enw i ydy Claire Blakeway a fi ydy Is-lywydd Campws Parc y Mynydd Bychan yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Ddydd Mercher 18 Mawrth, cymerais ran mewn digwyddiad ymgynghori i graffu ar y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru). Roedd hyn yn golygu bod Aelodau’r Cynulliad yn siarad ag amrywiaeth eang o denantiaid am eu profiadau yn rhentu eiddo gan y cyngor, cymdeithasau tai a landlordiaid preifat. Cafodd tenantiaid o wahanol sectorau rhentu eu rhoi mewn grwpiau ffocws o dan arweiniad Aelodau’r Cynulliad. Yn fy grŵp ffocws i, roeddwn i’n cynrychioli barn myfyrwyr ynglŷn â tenantiaeth.
Ar y cyfan, roeddwn yn cytuno a syniadau’r Bil Cartrefi newydd, ond fod angen rhagor o fanylion ynghylch cytundebau atgyweirio. Er enghraifft, mae angen amserlen fanwl yn y cytundeb sy’n amlinellu pa mor gyflym y bydd landlordiaid yn ymateb i gydnabod ac anelu at gyflawni atgyweiriad y mae tenant yn tynnu sylw ato. Dwi’n teimlo y gall tenantiaid aros yn hir iawn ar hyn o bryd cyn i atgyweiriadau gael eu gwneud, ac maent, felly, yn talu rhent ar eiddo nad yw o’r safon y gwnaethant dalu rhent amdano’n wreiddiol. Drwy weithredu cytundeb atgywirio gydag amserlen benodol, bydd y landlord a’r tenant yn gwybod yn union beth fydd y disgwyliadau arnynt o ran atgywiriadau, a gall y landlord weithio tuag at gyflawni’r atgyweiriad o fewn amser y cytunwyd arno, a bodloni disgywliadau eu tenant.
Dyma gyfweliad a wnaeth Claire ar ôl y digwyddiad:
Siaradais gyda’r grwp ffocws hefyd am fy syniadau ynghylch sut mae angen gweithredu cosbau gadarnach yn erbyn landlordiaid a thenantiaid sy’n torri eu contractau. Y mwyaf llym yw’r cosbau, y mwyaf tebygol yw y bydd y contractau yn cael eu cadw a’u parchu.
Wnes i wir fwynhau cymryd rhan yn y grwpiau ffocws, ac roeddwn wrth fy modd clywed Aelod oedd â chymaint o ddiddordeb mewn clywed barn myfyrwyr. Dwi’n edrych ymlaen at pan gaiff y Bil Cartrefi ei ryddhau, a gobeithio y bydd fy marn yn cael ei hystyried. Diolch i Gynulliad Cymru am y gwahoddiad!
–
Y cam nesaf fydd i’r Pwyllgor glywed barn pobl eraill am y Bil, mewn cyfarfodydd ffurfiol yn y Senedd. Cynhelir y cyfarfod cyntaf ddydd Mercher, pan fydd y Pwyllgor yn siarad â Lesley Griffiths AC, sef Gweinidog Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y Bil. Gallwch wylio’r cyfarfod hwn yn fyw ar Senedd TV.
Yn ystod wythnos olaf mis Mawrth bu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Wrecsam yn cynnal wythnos o ddigwyddiadau #SeneddWrecsam. Yma, mae Lowri Lloyd Williams, Rheolwr Allgymorth Gogledd Cymru yn rhedeg drwy ddigwyddiadau’r wythnos.
Dydd Llun 23 Mawrth 2015
Mi ddechreuodd #SeneddWrecsam gyda bws y Cynulliad wedi ei pharcio yn Sgwâr y Frenhines, ble cafwyd nifer o ymwelwyr yn ystod y dydd. Mr Pugh oedd ein hymwelwr cyntaf, galwodd heibio ar ei ffordd i nôl llaeth i’w wraig i nodi materion yn ymwneud a thrafnidiaeth. Roedd Mr Pugh yn poeni am gyflwr arwynebedd y ffordd yn ogystal ag effeithiau’r gwaith ar yr A55 ar yr ardal. Roedd costau parcio hefyd yn bwynt yr hoffai Mr Pugh ei godi gyda’r Cynulliad.
Materion eraill a nodwyd yn ystod y dydd oedd cyflymder band llydan, codi ymwybyddiaeth o waith y Cynulliad a materion yn ymwneud ag iechyd, yn benodol gwasanaethau cancr y fron.
Yn ogystal daeth Andrew Atkinson a Alex Jones o Grŵp Busnes Wrecsam i’r bws i drafod materion ynglŷn â threthi busnes. Dyma fideo a gynhyrchwyd yn nodi eu pryderon.
Yr ail ddiwrnod o #SeneddWrecsam ac roedd bws y Cynulliad yn ôl yn Sgwâr y Frenhines, a phobl Wrecsam yn manteisio ar gael y Cynulliad yn eu hardal, ac yn parhau i ymweld â ni gyda digon o gwestiynau, sylwadau a materion i’w codi.
Roedd iechyd unwaith eto yn bwnc poblogaidd gydag amseroedd aros, gwasanaethau trawsffiniol a phresgripsiwn am ddim yn bynciau a drafodwyd. Cyfeiriwyd y bobl a chododd y materion hyn at eu Haelodau Cynulliad i drafod y materion ymhellach ac i edrych ar waith y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Roedd yn bleser cael ymweliad gan fyfyrwyr Bagloriaeth Cymru St Christopher’s School, Wrecsam yn ystod y bore. Yn dilyn cyflwyniad byr ynglŷn â’r Cynulliad, fe gafwyd dadl ynglŷn â gostwng yr oedran bleidleisio i 16 mlwydd oed fel rhan o ymgynghoriad Pleidleisio@16? Gellwch ddarganfod mwy am yr ymgynghoriad yma. Roedd y bobl ifanc yn credu y dylai pobl ifanc gael mwy o gyfle i ddysgu am wleidyddiaeth a dylai Aelodau Cynulliad ymrwymo i gael pobl ifanc yn eu cysgodi.
Pobl ifanc St Christopher School, Wrexham yn mwynhau ar y bws.
Yn dilyn hyn, daeth Lynn Morris a Yvonne McCarroll o Grŵp Tenantiaid Wrecsam ymlaen ar y bws i holi ynglŷn â ffyrdd y gallai tenantiaid gymryd rhan a dweud eu dweud ar faterion sydd yn effeithio arnynt. Fel aelod o’r tîm allgymorth yng Ngogledd Cymru, mi roddodd hyn gyswllt newydd i ni yn ardal Wrecsam y gellir cysylltu wrth weithio ar ymgynghoriadau gyda Phwyllgorau’r Cynulliad yn y dyfodol.
Tra roedd rhai o’r tîm ar fws y Cynulliad, roedd eraill yn y Foyer Wrecsam yn siarad ag aelodau’r clwb brecwast. Roeddynt yn awyddus i glywed pwy sy’n eu cynrychioli a sut y gallant fynegi eu pryderon. Roeddynt hefyd yn awyddus i ddysgu am y broses bleidleisio a sut i gofrestru i bleidleisio. Gellwch glywed Courtney ag Amy yn siarad amdano yma:
Nos Fawrth aethom i weld bobl ifanc yn y Vic yn Wrecsam i gynnal sesiwn oedd yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â beth yw’r Cynulliad, pwy yw eu Haelodau Cynulliad a sut maent yn eu cynrychioli. Roedd aelodau eraill o’r tîm gyda Dynameg Wrecsam yn cynnal sesiwn ryngweithiol debyg.
Dydd Mercher 25 Mawrth 2015
Roeddem wedi trefnu i gael presenoldeb y Cynulliad yn adeilad Galw Wrecsam ar gyfer #SeneddWrexham dydd Mercher ac fe gymerodd pobl y cyfle i siarad â staff y Cynulliad wrth iddynt ymweld â Chyngor Wrecsam ar gyfer materion eraill.
Rydym gennym hefyd bresenoldeb yn siop Info Wrecsam i roi cyfle i bobl ifanc gwblhau’r Ymgynghoriad Pleidleisio@16. Cawsom gyfarfod gyda phobl ifanc hynod ddiddorol oedd a safbwyntiau a barn gref am y pwnc. Treuliwyd cryn amser gyda Lacey, 22, o Wrecsam, sydd yn erbyn gostwng yr oed pleidleisio gan nad yw pobl ifanc yn derbyn digon o addysg ac felly nad oes ganddynt ddigon o wybodaeth i bleidleisio.
Ymwelwyd hefyd â BAWSO yn ystod y bore i gynnal sesiwn yn egluro’r meysydd sy’n effeithio ar eu bywyd y mae’r Cynulliad yn gyfrifol amdanynt, pwy sy’n eu cynrychioli a sut y gallant godi materion gyda’r Cynulliad.
Sesiwn gyda BAWSO
Parhau gyda’r sesiynau wnaeth y tîm ar brynhawn dydd Mercher gan ymweld â sefydliad Chymorth i Fenywod Cymru yn Wrecsam gan gynnal sesiwn ar ddealltwriaeth ac ymgysylltu â’r Cynulliad. Roedd yn sesiwn diddorol gyda digon o drafodaeth yn codi o’r pwyntiau a godwyd. Dyma’r hyn oedd gan Alison Hamlington i ddweud yn dilyn y sesiwn:
Dydd Iau 26 Mawrth 2015
Pedwerydd diwrnod #SeneddWrecsam ac roedd y gweithgareddau a’r digwyddiadau yn parhau ym mhob rhan o’r dref. Roeddem yn Coleg Cambriable roedd myfyrwyr yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad Pleidleisio@16 drwy’r dydd. Cafodd dros 300 o holiaduron ymgynghori eu cwblhau yn ystod y dydd. Ewch i’n gwefan Dy Gynulliadam ddiweddariad o ddatblygiad y gwaith hwn.
Yn ogystal, roeddem wedi sefydlu gorsaf ffilmio yn llyfrgell Coleg Cambria, ble roedd myfyrwyr cyfryngau yn cyfweld a’u cyfoedion yn trafod gostwng yr oedran pleidleisio i 16. Roedd y myfyrwyr yn gwneud yr holl ffilmio eu hunain, ac roedd cyfle i drafod materion eraill hefyd, gan gynnwys a ddylid gwneud pleidleisio yn orfodol i bobl ifanc ac yw pobl ifanc yn cael digon o wybodaeth am wleidyddiaeth. Gallwch weld fideos hyn drwy’r rhestr chwarae yma:
Roedd y myfyrwyr yn gyfrifol am gymryd awenau ein gwefan Dy Gynulliad hefyd, gan sicrhau bod cynnwys y wefan sy’n anelu at bobl ifanc. Gallwch weld lluniau o’r diwrnod yn ein halbwm Flickr.
Draw ym Mhrifysgol Glyndŵr yn ystod y prynhawn, roedd Llywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler AC yn cwrdd â phobl ifanc ardal Wrecsam i drafod y sgwrs genedlaethol Pleidleisio@16. Cafodd y digwyddiad ei drefnu mewn partneriaeth â Senedd yr Ifanc Wrecsam.
Mi wnaethom hefyd lwyddo i wasgu mewn dau sesiwn ymgysylltu arall- un ag aelodau staff Cyngor Wrecsam ac un arall gyda grŵp Jig-so Parc Caia ble ymunodd Dirprwy Lywydd y Cynulliad, David Melding AC a ni.
Daeth y diwrnod i ben gyda derbyniad #SeneddWrecsam gyda thua 70 o bobl lleol yn bresennol i ddathlu gwaith Hyrwyddwyr Cymunedol Wrecsam. I sain gerddorion Coleg Cambria fe gafwyd ddigon o rwydweithio rhwng gwleidyddion, arweinwyr dinesig ac arweinwyr cymunedol yn ystod y noson.
Dydd Gwener 27 Mawrth 2015
A dyma gyrraedd diwrnod olaf #SeneddWrexham gyda diwrnod prysur arall i’r tîm.
Dechreuodd Dydd Gwener gydag ein swyddogion addysg yn Ysgol Uwchradd Rhosnesni ble roedd dros 150 o bobl ifanc yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad Pleidleisio@16. Dilynwyd y sesiwn hyn â sesiwn gyda Chyngor yr Ysgol, ble ymunodd y Dirprwy Lywydd David Melding AC â’r cyfarfod i drafod materion yr oeddynt wedi ymdrin â nhw o fewn y cyngor yn ystod y 12 mis diwethaf.
Y Cyngor Ysgol yn nodi eu barn i Pleidleisio@16.
Ar ôl treulio’r bore ar ein stondin ym Mhrifysgol Glyndŵr, treuliais y prynhawn gyda grŵp Hafal yn Wrecsam gan gynnal gweithdy olaf yr wythnos. Yr oedd yn sesiwn ryngweithiol gyda digon o drafodaeth ac ymunodd Aled Roberts AC a ni i siarad am ei rôl fel Aelod Cynulliad.
Criw Hafal ar ôl y cyflwyniad.
Yn y cyfamser, draw ym Mhrifysgol Glyndŵr roedd aelodau o’r Cynulliad Cenedlaethol Cymru a staff Phrifysgol Caerdydd yn cwrdd â myfyrwyr, blogwyr lleol a newyddiadurwyr. Roedd y digwyddiad yn rhan o waith Diffyg Democrataiddy Llywydd, i geisio helpu newyddiadurwyr cymunedol o amgylch Cymru i gael gafael ar wybodaeth am y Cynulliad yn haws.
Mae’r Llywydd, Y Fonesig Rosemary Butler AC wedi ymrwymo i weithio tuag at fynd i’r afael a’r “Diffyg Democrataidd” sydd wedi ei achosi gan y nifer fawr o bobl yng Nghymru sy’n darllen neu’n gwylio newyddion a materion cyfoes gan ddarlledwyr a sefydliadau cyfryngau’r DU sydd yn aml yn anwybyddu’r gwahaniaethau ym mholisi cyhoeddus Cymru o’i gymharu â Lloegr.
Cafodd newyddiadurwyr, gan gynnwys llawer o’r Ysgol Newyddiaduraeth Glyndŵr y cyfle i gyfweld â’r Llywydd a’r Dirprwy Lywydd. Fe gafwyd hefyd gyfle i fynychu digwyddiad ar ffurf arddull gynhadledd i’r wasg gyda’r Llywydd.
Hoffem ddiolch i bawb a wnaeth ymwneud â ni yn ystod yr wythnos ac am y croeso cynnes a gawsom yn Wrecsam.
Mae roedd yn wythnos wych gyda llawer o waith a chysylltiadau da wedi eu gwneud yn yr ardal.
Gallwch weld lluniau o’r wythnos yn ein halbwm Flickr.
Os hoffech chi i ddysgu mwy am waith y tîm allgymorth yng Ngogledd Cymru, yna gallwch gysylltu â’r Cynulliad ar 0300 200 6565 neu cysylltu@cynulliad.cymru.
Yn ôl ym mis Gorffennaf bu i’r Prif Weinidog ein diweddaru, mewn Cyfarfod Llawn, ar raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth â’r 8 Bil fydd yn cael eu cyflwyno yn ystod y flwyddyn yma. Un o rhain oedd Bil Tai (Cymru).
Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru:
“Bydd yn cryfhau deddfwriaeth ddigartrefedd drwy roi mwy o bwyslais ar atal. Bydd yn gwella safonau yn y sector rhentu preifat drwy gyflwyno system drwyddedu ar gyfer landlordiaid ac asiantau gosod.
“Bydd yn caniatáu i awdurdodau lleol godi cyfraddau uwch o dreth gyngor ar eiddo gwag tymor hir a bydd yn cynorthwyo datblygu tai cydweithredol. Bydd y Bil hefyd yn gosod safonau ar gyfer rhenti awdurdodau lleol, taliadau gwasanaeth ac ansawdd y llety. Bydd yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol i ddiwallu anghenion Sipsiwn a Theithwyr, ac, yn dilyn cytundeb gyda’r Trysorlys, bydd y Bil yn diddymu system gymhorthdal y cyfrif refeniw tai, gan roi’r hyblygrwydd i awdurdodau lleol i fuddsoddi mewn cartrefi tenantiaid.”
Bydd y Tîm Allgymorth yn cynnal 2 gweithdy yng ngogledd a de Cymru yn ystod mis Medi a mis Hydref.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Swyddfa’r Gogledd, Bae Colwyn – 1 Hydref 2013, 10:00 – 12:00.
Bydd y gweithdai hyn yn anelu i’ch helpu i ddeall sut mae deddfau yn cael eu gwneud yng Nghymru ac yn fwy pwysig sut allwch chi gael dweud eich dweud ar y Bil Tai (Cymru) gydag awgrymiadau a chynghorion defnyddiol.
I archebu eich lle ar un o’n gweithdai e-bostiwch archebu@cymru.gov.uk neu ffoniwch 0845 010 5500.
I weld y Prif Weinidog yn trafod y rhaglen deddfwriaethol yn ystod y Cyfarfod Lawn ym mis Gorffennaf, cliciwch yma.