Tag: Rhondda Cynon Taf

See Change

Ar 5 Ebrill 2012, gwnaeth Kevin Davies (y Rheolwr Allgymorth ar gyfer De-orllewin Cymru) ymweld â Chanolfan Gymunedol Glyncoch ym Mhontypridd i gwrdd â phobl o’r gymuned leol. Trefnwyd y sesiwn hwn gan Kelly Daniel a Helen Green o Interlink fel rhan o’r rhaglen See Change. Cymerodd bobl ran mewn gweithdy a oedd â’r diben o geisio egluro’r gwahaniaeth rhwng gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru, pwysigrwydd pleidleisio a pha bwerau sydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn y gweithdy, nododd aelodau’r grŵp mai Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yw’r meysydd pwnc pwysicaf y mae gan y Cynulliad bwerau drostynt, a thrafodwyd y materion lleol sy’n effeithio arnynt o ran y thema hon.

Mae gwybodaeth am sut y gallwch gysylltu â’ch Rheolwr Allgymorth lleol i’w chael yma:
http://www.assemblywales.org/cy/gethome/get-assembly-area.htm