Tag: Gwynedd

Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cynnal cyfarfod ym Mangor

Bydd Pwyllgor y Cynulliad sy’n gyfrifol am graffu ar waith Carwyn Jones, y Prif Weinidog, yn cynnal cyfarfod i drafod y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â datblygu economaidd.

Bydd Carwyn Jones AC, y Prif Weinidog, yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ddydd Gwener 14 Gorffennaf o 10:00 tan 12:00 yn y Ganolfan Rheolaeth ym Mhrifysgol Bangor.

FM Graphic CY

Yn y cyfarfod hwn, bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â datblygu’r economi yng Nghymru.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn trafod materion amserol eraill gyda’r Prif Weinidog a byddem yn croesawu awgrymiadau gennych ynghylch materion o bwysigrwydd mawr yn y Gogledd i holi yn eu cylch. Os hoffech inni drafod mater penodol, gallwch awgrymu pwnc o flaen llaw.

Yr economi yng Nghymru – trosolwg

Cyn datblygu Strategaeth Economaidd newydd i Gymru yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd y Pwyllgor yn trafod materion o bwys allweddol gyda’r Prif Weinidog. Mae’r strategaeth yn cael ei datblygu ar adeg pan fo economi Cymru yn wynebu nifer o heriau, rhai ohonynt sy’n gyffredin â gweddill y DU ac eraill yn unigryw i Gymru:

  • Mae gan Gymru werth ychwanegol crynswth (GVA) is y pen o’i gymharu â’r gwledydd datganoledig eraill a rhanbarthau Lloegr.
  • Mae llawer o gymunedau’n parhau i gael trafferth yn ymdopi ag effeithiau dad-ddiwydiannu, ac mae tlodi ac anghydraddoldeb yn heriau parhaus.
  • Mae effeithiau tymor byr a thymor hwy gadael yr Undeb Ewropeaidd ar yr economi yn parhau’n ansicr iawn.

Economi Cymru: mewn rhifau

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu a chyhoeddi amrywiaeth o ddangosyddion lefel uchel i fonitro perfformiad cyffredinol economi Cymru. Y rhesymeg sy’n sail i’r dangosyddion yw eu bod yn adlewyrchu’r canlyniadau sydd fwyaf pwysig i bobl Cymru, ac i roi darlun mwy cynhwysfawr nag y gall un dangosydd ei ddarparu.

8 Key Economic indicators cy

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ‘ffyniant i bawb’ yn flaenoriaeth allweddol yn ei Rhaglen Lywodraethu ar gyfer 2016-2021. Mae dwy ran o’r rhaglen hon yn cynnwys blaenoriaethau sy’n hanfodol i lwyddiant economi Cymru

  • Ffyniannus a diogel – sy’n cynnwys ymrwymiadau ynghylch busnes a menter, mewnfuddsoddi, cyflogaeth a’r economi wledig.
  • Unedig a chysylltiedig – sy’n cynnwys mesurau i sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol, i wella ffyrdd a chludiant cyhoeddus, i wella cysylltedd digidol ac i hyrwyddo cymdeithas ‘deg’.

Continue reading “Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cynnal cyfarfod ym Mangor”