Tag: Etifeddiaeth

Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu – Llwyddiannau newydd o ran ymgysylltu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Am y tro cyntaf, mae’r Cynulliad wedi sefydlu Pwyllgor sydd â chyfrifoldeb penodol dros gyfathrebu, diwylliant, y celfyddydau, yr amgylchedd hanesyddol, darlledu a’r cyfryngau.

Mae’r materion hyn yn cyfoethogi ein bywydau, yn llywio ac yn egluro ein naratif fel cenedl, yn sail i’n diwylliant a’n treftadaeth unigryw, ac yn helpu i ddiffinio sut beth yw bod yn Gymry.

Mae’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu newydd yn cynnwys wyth o Aelodau’r Cynulliad o bob rhan o Gymru, sy’n cynrychioli’r pum plaid wleidyddol yn y Cynulliad. Yn ystod yr haf, rhoddodd y Pwyllgor gyfle i bobl gysylltu â ni i ddweud wrthym ba waith y dylai’r Pwyllgor ei flaenoriaethu.

Aelodau'r Pwyllgor

Ym mis Gorffennaf, bu’r Cynulliad yn darlledu drwy gyfrwng Facebook Live am y tro cyntaf erioed. Gwyliodd dros 2,700 o bobl Bethan Jenkins AC, Cadeirydd y Pwyllgor, yn siarad am ei gobeithion ar gyfer y Pwyllgor. Cawsom lawer o syniadau drwy’r ffrwd Facebook Live, drwy Twitter a thrwy e-bost.

Hefyd, cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad yn yr Eisteddfod i’r sawl a oedd yn bresennol gyflwyno eu syniadau a’u blaenoriaethau. Un o’r awgrymiadau hynny oedd y dylai’r Pwyllgor edrych ar y defnydd o’r Gymraeg ymhlith pobl ifanc, gan ystyried y cyhoeddiad a wnaethpwyd gan y Prif Weinidog a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes o ran sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Gan ddiolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd yr amser i gysylltu, dyma’r blaenoriaethau a nodwyd gennych…

Y Gymraeg

  • Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050, gan gynnwys y defnydd o’r Gymraeg ymhlith pobl ifanc
  • Y Gymraeg mewn addysg uwchradd, gan gynnwys cynnig i gael gwared ar y cysyniad o addysg ail iaith a’i ddisodli gydag un continwwm o ddysgu Cymraeg
  • Annog pobl i barhau i ddefnyddio’r Gymraeg ar ôl gadael yr ysgol
  • Cymorth dwyieithog ar gyfer pobl fyddar a thrwm eu clyw

Diwylliant

  • Cyllid ar gyfer addysg cerddoriaeth a mynediad at yr addysg honno
  • Strategaeth i ddatblygu’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru
  • Ffioedd a thelerau ar gyfer y celfyddydau gweledol a chymhwysol
  • Ariannu’r celfyddydau ar lawr gwlad ac yn lleol, a mynediad at y celfyddydau hynny
  • Sut y mae Cymru yn cefnogi ei chelfyddydau diwylliannol traddodiadol ac unigryw
  • Datblygu’r Adolygiad Arbenigol i’r adroddiad Amgueddfeydd Lleol
  • Brand Cymru

Treftadaeth

  • Cadw treftadaeth leol yng Nghymru
  • Addysg ddiwylliannol a hanesyddol yng Nghymru

Cyfathrebu

  • Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i fynd i’r afael â’r diffyg democrataidd yng Nghymru
  • Cyflwr newyddiaduraeth leol yng Nghymru
  • Cynrychiolaeth Cymru yn y cyfryngau ar lefel y DU
  • Cyllid ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru
  • Goblygiadau Siarter y BBC i S4C
  • Cyfranogiad dinasyddion a mynediad at wybodaeth wleidyddol

Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr awgrymiadau hyn wrth drafod y materion mawr y maent yn awyddus i fynd i’r afael â nhw yn ystod y 5 mlynedd nesaf. Roedd llawer o dir cyffredin rhwng yr awgrymiadau a ddaeth i law a rhai o flaenoriaethau’r Pwyllgorau, gan gynnwys:

  • Sut y gellir cyflawni’r uchelgais o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg
  • Pryder am y dirywiad parhaus yn y cyfryngau lleol a newyddiaduraeth leol
  • Diffyg portread o Gymru ar rwydweithiau darlledu’r DU
  • Rôl radio yng Nghymru
  • Cylch gwaith, cyllid ac atebolrwydd S4C

Rydym wedi grwpio’r syniadau sy’n weddill gyda’i gilydd, ac rydym am i’r cyhoedd benderfynu pa faterion yr ydych chi’n credu y dylai’r Pwyllgor ymchwilio iddynt yn ystod y misoedd nesaf, unwaith y bydd y Pwyllgor wedi gorffen ei waith ar strategaeth y Gymraeg. Dyma’r tro cyntaf i un o Bwyllgorau’r Cynulliad alluogi’r cyhoedd i benderfynu ar ei raglen waith mewn modd mor uniongyrchol.

Cymerwch ran drwy gwblhau a rhannu’r arolwg hwn.

Fodd bynnag, ni fyddwn yn anwybyddu’r holl ymatebion heblaw am y materion mwyaf poblogaidd.   Bydd yr holl ymatebion yn ein helpu i benderfynu ar ein blaenoriaethau yn y tymor hwy, boed hynny drwy ymchwiliad ffurfiol, drwy ofyn cwestiynau i Weinidogion neu drwy geisio dadleuon yn y Cyfarfod Llawn.

Mae’r Pwyllgor wedi ymrwymo i gynnwys ystod o unigolion, grwpiau, busnesau a sefydliadau yn ei waith, yn y gobaith ei fod yn cynrychioli diddordebau Cymru a’i phobl yn effeithiol drwy gynnig cyfleoedd i effeithio’n uniongyrchol ar y gwaith hwn.

Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar gael yma.

Ymweld â’r Senedd a’r Pierhead: Drysau Agored Cadw 2016

Beth yw Drysau Agored?

Ar 10 Medi 2016, bydd cyfle i ymweld ag adeiladau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fel rhan o gynllun Drysau Agored Cadw.

Er bod y Senedd a’r Pierhead ar agor i’r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn, bydd ymwelwyr Drysau Agored yn gallu gweld yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni mewn rhannau o’r adeiladau nad ydynt ar agor i’r cyhoedd fel arfer.

Senedd, Pierhead

Ble?

Bydd cynllun Drysau Agored yn mynd ag ymwelwyr ar daith drwy hanes Bae Caerdydd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd yn cynnwys y tri adeilad ar ystâd y Cynulliad ym Mae Caerdydd:

Y Pierhead
Byddwch yn dechrau ar eich taith drwy amser yn y Pierhead ym 1897. Yn yr adeilad eiconig hwn, a adeiladwyd ddiwedd oes Victoria, gall ymwelwyr ddysgu am hanes Bae Caerdydd. Amgueddfa a chanolfan arddangos yw’r Pierhead yn awr, ac mae ar agor i’r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos.

Tŷ Hywel
Yn Nhŷ Hywel roedd siambr drafod wreiddiol y Cynulliad ac yn awr, dyma lle mae swyddfeydd staff ac Aelodau’r Cynulliad.

Y Senedd
Mae’r Senedd yn ddeg oed eleni, a dyma galon democratiaeth Cymru. Rydym yn ymfalchïo yn y Dystysgrif Rhagoriaeth a gafodd gan Trip Advisor. Mae’r adeilad seneddol modern hwn, sy’n gartref i siambr drafod y Cynulliad, hefyd yn un o’r adeiladau mwyaf cynaliadwy ac ecogyfeillgar yng Nghymru. Caiff ymwelwyr gyfle i ddysgu am hanes a phensaernïaeth yr adeiladau a dysgu rhagor am waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dyma’r stop olaf ar y daith, ac i ddathlu pen-blwydd y Senedd yn ddeg oed, bydd paned o de neu goffi ar gael i am ddim yn y caffi yn Oriel y Senedd i ymwelwyr Drysau Agored eleni.

Coffi yn y Senedd

Cyfeiriad: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA

Pryd?
10 Medi 11:00am

Sut rydw i’n neilltuo lle ar y daith?

Rhaid neilltuo lle ymlaen llaw gan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig ar y daith hon y tu ôl i’r llenni. Ffoniwch 0300 200 6565 neu anfonwch e-bost at cysylltu@cynulliad.cymru  i neilltuo lle.

Rhagor o wybodaeth

Cynllun blynyddol gan Cadw yw Drysau Agored i ddathlu pensaernïaeth a threftadaeth Cymru ac mae’n rhan o Ddiwrnodau Treftadaeth Ewrop, sy’n cael ei gynnal mewn hanner cant o wledydd Ewropeaidd ym mis Medi bob blwyddyn.

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am atyniadau eraill yng Nghymru sy’n rhan o’r cynllun, ewch i wefan Cadw.

Ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Os na fedrwch ddod ar y daith ar 10 Medi, gallwch ymweld â’r Senedd a’r Pierhead rywdro eto gan eu bod ar agor i’r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos.

Caiff digwyddiadau eu cynnal yn y Senedd yn rheolaidd a bydd perfformwyr, cantorion, arddangosfeydd a gweithgareddau i’w mwynhau drwy’r flwyddyn. Felly, dewch draw i weld beth sy’n digwydd!

Gallwch hefyd weld pwy yw’ch Aelodau Cynulliad a sut y maent yn cynrychioli’ch buddiannau chi yn siambr drafod y Senedd.

Ar hyn o bryd, mae’r Senedd ar agor:

Rhwng dydd Llun a dydd Gwener 09.30 – 16:30

 Dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc (drwy’r flwyddyn) 10:30-16:30.

Mae rhagor o wybodaeth i ymwelwyr, gan gynnwys gwybodaeth i’r rhai sydd â chyflwr ar y sbectrwm Awtistig ar gael ar ein gwefan.

Tudalen Trip Advisor ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Tudalen Facebook y Senedd.

 

Pierhead, Drysau Agored Cadw