Tag: Economi

Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cynnal cyfarfod ym Mangor

Bydd Pwyllgor y Cynulliad sy’n gyfrifol am graffu ar waith Carwyn Jones, y Prif Weinidog, yn cynnal cyfarfod i drafod y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â datblygu economaidd.

Bydd Carwyn Jones AC, y Prif Weinidog, yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ddydd Gwener 14 Gorffennaf o 10:00 tan 12:00 yn y Ganolfan Rheolaeth ym Mhrifysgol Bangor.

FM Graphic CY

Yn y cyfarfod hwn, bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â datblygu’r economi yng Nghymru.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn trafod materion amserol eraill gyda’r Prif Weinidog a byddem yn croesawu awgrymiadau gennych ynghylch materion o bwysigrwydd mawr yn y Gogledd i holi yn eu cylch. Os hoffech inni drafod mater penodol, gallwch awgrymu pwnc o flaen llaw.

Yr economi yng Nghymru – trosolwg

Cyn datblygu Strategaeth Economaidd newydd i Gymru yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd y Pwyllgor yn trafod materion o bwys allweddol gyda’r Prif Weinidog. Mae’r strategaeth yn cael ei datblygu ar adeg pan fo economi Cymru yn wynebu nifer o heriau, rhai ohonynt sy’n gyffredin â gweddill y DU ac eraill yn unigryw i Gymru:

  • Mae gan Gymru werth ychwanegol crynswth (GVA) is y pen o’i gymharu â’r gwledydd datganoledig eraill a rhanbarthau Lloegr.
  • Mae llawer o gymunedau’n parhau i gael trafferth yn ymdopi ag effeithiau dad-ddiwydiannu, ac mae tlodi ac anghydraddoldeb yn heriau parhaus.
  • Mae effeithiau tymor byr a thymor hwy gadael yr Undeb Ewropeaidd ar yr economi yn parhau’n ansicr iawn.

Economi Cymru: mewn rhifau

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu a chyhoeddi amrywiaeth o ddangosyddion lefel uchel i fonitro perfformiad cyffredinol economi Cymru. Y rhesymeg sy’n sail i’r dangosyddion yw eu bod yn adlewyrchu’r canlyniadau sydd fwyaf pwysig i bobl Cymru, ac i roi darlun mwy cynhwysfawr nag y gall un dangosydd ei ddarparu.

8 Key Economic indicators cy

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ‘ffyniant i bawb’ yn flaenoriaeth allweddol yn ei Rhaglen Lywodraethu ar gyfer 2016-2021. Mae dwy ran o’r rhaglen hon yn cynnwys blaenoriaethau sy’n hanfodol i lwyddiant economi Cymru

  • Ffyniannus a diogel – sy’n cynnwys ymrwymiadau ynghylch busnes a menter, mewnfuddsoddi, cyflogaeth a’r economi wledig.
  • Unedig a chysylltiedig – sy’n cynnwys mesurau i sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol, i wella ffyrdd a chludiant cyhoeddus, i wella cysylltedd digidol ac i hyrwyddo cymdeithas ‘deg’.

Continue reading “Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cynnal cyfarfod ym Mangor”

Angen mwy o gysondeb a thryloywder – Busnesau Cymru’n rhoi eu barn ynghylch Ardrethi Busnes yng Nghymru

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau‘n treulio llawer o amser yn siarad â phobl yn y byd busnes yng Nghymru. Ardrethi busnes yw un o’r materion sy’n codi ei ben yn aml gan ennyn ymateb cryf.

Roedd hefyd yn rhywbeth a gododd yn gyson yn ein hymgynghoriad yn ystod yr haf wrth inni ofyn i bobl pa waith y dylai’r Pwyllgor ei flaenoriaethu. Am y rheswm hwnnw, penderfynodd y Pwyllgor gynnal sesiwn undydd cynnar yn edrych ar ardrethi busnes yng Nghymru. Cynhaliwyd y sesiwn ar 5 Hydref, ychydig ddyddiau ar ôl cyhoeddi manylion ailbrisio ardrethi busnes yng Nghymru.

Brecwast Busnes i glywed sylwadau pobl o bob cwr o Gymru

50committeepic

Gwahoddodd y Pwyllgor drawstoriad o gynrychiolwyr busnes am frecwast yn y Byd Cychod ym Mae Caerdydd ddydd Mercher i glywed eu barn ar y pwnc.

I sicrhau ein bod yn cael y darlun llawn gan fusnesau ledled Cymru, gwnaethom ffilmio cyfweliadau â busnesau ledled y wlad, er mwyn dangos fideo byr i’r sawl oedd yn bresennol, gan grynhoi rhai o’r materion allweddol i ysgogi trafodaeth.

Trafododd y busnesau yr anawsterau iddynt eu profi, gan awgrymu ffyrdd o wella’r system ar gyfer busnesau bach a chanolig. Dyma rai o’r materion a godwyd yn y fideo:

Byddai wedi bod o gymorth pe byddem wedi cael mymryn o seibiant, yn enwedig yn ystod y chwe mis pan nad oeddem yn masnachu. Nid oedd unrhyw arian yn dod i mewn, dim ond arian yn cael ei wario a ninnau’n dal i dalu ardrethi busnes…

Katia Fatiadou, Quantum Coffee Roasters Cyf, Bae Caerdydd

Pan rydym yn talu ardrethi busnes, nid ydym yn cael unrhyw beth yn ôl…felly mae ardrethi busnes yn gost i’r busnesau heb gael unrhyw beth yn ôl o gwbl.

Robert Griffiths, Ruggers Carpets, Merthyr Tudful

Byddai polisi ardrethi busnes llwyddiannus yn cael ei seilio ar gyfrifiad o broffidioldeb cwmni yn hytrach na gwerth ardrethadwy’r eiddo y maent yn gweithio ynddo ar hyn o bryd neu’r lleoliad y maent yn dymuno symud i mewn iddo.

Joshua Weaver, We are Promotional Products, Y Trallwng

Yn ystod y digwyddiad, y pynciau trafod mwyaf oedd sut mae ardrethi’n cael eu cyfrifo; yr hyn y caiff yr arian ei wario arno; p’un a oes modd gostwng ardrethi i hyrwyddo datblygiad economaidd, a sut y gellid gwneud hynny; materion yn ymwneud yn benodol â chost buddsoddi mewn cyfarpar (e.e. trwy ddiwydiannau mawr fel gwaith dur); gwrthdaro rhwng y stryd fawr a siopau y tu allan i’r dref; a sut y dylai bythynnod gwyliau gael eu hasesu.

Beth ddigwyddodd ar ôl y sesiwn frecwast?

Yn ddiweddarach y bore hwnnw, cynhaliodd y pwyllgor gyfarfod ffurfiol yn y Senedd, gan gymryd tystiolaeth yn gyntaf gan banel o arbenigwyr, ac yna gan Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, sy’n gyfrifol am ardrethi busnes yng Nghymru. Roedd y sesiwn, sydd ar gael i’w gwylio ar Senedd.tv yn pwysleisio’r angen am fwy o gysondeb a thryloywder mewn ardrethi busnes, ynghyd â system apelio well, ac eglurder ynghylch unrhyw newidiadau a allai godi yn y dyfodol.

Yn ystod y sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog, cyfeiriodd yr Aelodau sawl gwaith at yr hyn iddynt ei glywed gan fusnesau dros frecwast ac yn y cyfweliadau fideo.

Y camau nesaf

Yn y sesiwn frecwast, mynegodd rhai o’r cyfranogwyr fod ganddynt ragor o wybodaeth yr hoffent ei rannu â’r pwyllgor. Maent wedi cael gwahoddiad i fynegi hynny’n ysgrifenedig.

Ar ôl i’r Pwyllgor ystyried unrhyw wybodaeth ychwanegol, bydd yn trafod ei gasgliadau, ac yna’n ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid gydag argymhellion ar gyfer gwella’r drefn bresennol.

Cadwch mewn cysylltiad

Aelodau'r Pwyllgor yr Econoi, Seilwaith a Sgiliau

Sefydlwyd y Pwyllgor i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar faterion fel datblygu economaidd; trafnidiaeth; seilwaith; cyflogaeth; sgiliau; ac ymchwil a datblygu, gan gynnwys technoleg a gwyddoniaeth.

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor drwy ein dilyn ni ar Twitter @SeneddESS.

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau – Digwyddiad Cyflwyno Rhanddeiliaid

Yn ddiweddar, cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, sydd newydd ei ffurfio, ddigwyddiad yng Nghaerdydd i groesawu rhanddeiliaid.

Pwrpas y digwyddiad oedd rhoi cyfle i randdeiliaid gyfarfod ag Aelodau newydd y Pwyllgor ac i siarad â hwy am eu blaenoriaethau a’u dyheadau ar gyfer y Pwyllgor.

I ddechrau, bu unigolion o sefydliadau megis Gyrfa Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach, Trenau Arriva Cymru, Network Rail a Colegau Cymru yn gwylio cyfarfod y Pwyllgor yn y Senedd. Roedd hyn yn gyfle i glywed Aelodau’r Pwyllgor yn holi Ken Skates AC, Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, gwrando ar ei flaenoriaethau a dysgu am gynnwys ei bortffolio.

Yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor, cyfarfu rhanddeiliad ag Aelodau’r Pwyllgor yng Nghanolfan yr Urdd lle cynhaliwyd digwyddiad ar ffurf ‘rhwydweithio carlam’.

Neilltuwyd bwrdd i randdeiliaid o sectorau gwahanol ac Aelodau’r Cynulliad ar y Pwyllgor.

Cafwyd trafodaethau ynghylch agweddau gwahanol ar gylch gwaith y Pwyllgor.

Trafodwyd yr angen i’r Pwyllgor edrych ar opsiynau gwahanol er mwyn gwneud newidiadau i ardrethi busnes a hefyd yr angen i ystyried rhanbarthau dinasoedd, eu pwrpas a pa ddulliau fyddai eu hangen arnyn nhw i fod yn llwyddiannus.

Roedd y trafodaethau am drafnidiaeth yn cynnwys trafod paratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer masnachfraint rheilffyrdd nesaf Cymru ac ystyried pa welliannau sydd wedi’u gwneud i drafnidiaeth gyhoeddus integredig.

Wrth drafod sgiliau cododd cwestiynau ynghylch a yw Cymru yn hyfforddi’r bobl gywir ar gyfer y sgiliau cywir. Trafodwyd hefyd doriadau Llywodraeth Cymru i gyllideb Gyrfa Cymru ac effaith hyn ar rôl a chylch gwaith y sefydliad.

Bydd y Pwyllgor nawr yn mynd ati i ystyried y pwyntiau a godwyd yn ystod y digwyddiad er mwyn llywio a siapio ei waith yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y Pwyllgor, neu os hoffech gael yr wybodaeth ddiweddaraf amdano, ewch i dudalen y Pwyllgor ar y we.

Gallwch hefyd ddilyn y Pwyllgor ar Twitter: @SeneddESS

#GofynPrifWein – Hoffai’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog glywed gennych

#GofynPrifWein– Cyfle i holi Carwyn Jones, y Prif Weinidog

blogheaderfinalcy

Hoffai’r Pwyllgor glywed gan sefydliadau, busnesau a chi – mae rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan ar-lein ar gael isod.

Mae’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cyfarfod yn Abertawe am 10.30 ar 16 Hydref yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Y prif bwnc trafod fydd ‘Cymru yn y Byd Ehangach’. Dyma enghreifftiau o’r materion y bydd yn cael eu trafod:

Beth yw strategaeth gyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer  marchnata a hyrwyddo Cymru i’r byd? Beth yw brand Cymru? Pa mor llwyddiannus yw ymdrechion i hyrwyddo atyniadau yng Nghymru i dwristiaid? A yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i ddenu buddsoddwyr?
A yw Llywodraeth Cymru yn llwyddo I gyfleu delwedd o Gymru sy’n apelio i dwristiaid o’r DU ac o dramor? A yw diwylliant Cymreig yn ddigon gweladwy y tu allan i Gymru? Pa farchnadoedd neu nwyddau ddylid eu blaenoriaethu?

COLLAGE

Caiff agenda lawn ei llwytho i dudalen y Pwyllgor ar y we unwaith iddi gael ei chadarnhau.

Mae’r rhan fwyaf o Bwyllgorau’r Cynulliad yn cyfarfod yn wythnosol i graffu ar waith Llywodraeth Cymru yn fanwl, ond mae’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn canolbwyntio ar bynciau eang ynghylch unrhyw weledigaeth strategaeth ganolog yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.

Sut ydw i’n cymryd rhan ar-lein?

Gallwch gyflwyno eich cwestiwn neu sylw i’r Pwyllgor ynghylch ‘Cymru yn y Byd Ehangach’ fel a ganlyn:

Twitter Ar Twitter – Dilynwch @CynulliadCymru ar Twitter ac ymatebwch i unrhyw negeseuon ynghylch y pwnc hwn gan ddefnyddio’r hashnod #GofynPrifWein. Hefyd, mae croeso ichi anfon neges uniongyrchol os hoffech i’ch neges fod yn gyfrinachol.
Facebook Ar Facebook – ‘Hoffwch’ dudalen y Cynulliad ar Facebook a gadewch neges ar unrhyw ddiweddariad statws perthnasol. Os nad ydych yn gweld diweddariad statws perthnasol, gallwch ysgrifennu neges ar y dudalen gyda’r hashnod #GofynPrifWein.
Email E-bost– Gallwch ddweud eich dweud drwy anfon e-bost at: Craffu.PW@Cynulliad.Cymru
Youtube Ar YouTube – Beth am ffilmio eich hun yn gofyn eich cwestiwn ac anfon linc i’r fideo drwy unrhyw un o’r sianeli uchod?
Instagram Ar Instagram – Os gallwch fynegi’ch barn mewn ffordd greadigol weledol, carwn weld eich cyflwyniadau. Tagiwch gyfrif Instagram y Senedd yn eich llun neu ddefnyddiwch yr hashnod #GofynPrifWein. Fel arall, gallwch wneud sylwadau ar unrhyw un o’n cyflwyniadau ar Instagram, eto gan ddefnyddio’r hashnod #GofynPrifWein.
Wordpress Sylwadau – Beth am adael neges ar y blog hwn yn awr?

Beth sy’n digwydd nesaf?

Byddwn yn coladu’r ymatebion a’u trosglwyddo at David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor. Bydd y Pwyllgor wedyn yn eu cynnwys yn ei gwestiynau i Carwyn Jones, y Prif Weinidog. Gallwch ddod i wylio’r cyfarfod yn fyw, ei wylio ar-lein ar Senedd.TV neu ddarllen y trawsgrifiad. Byddwn yn rhoi gwybod ichi os atebwyd eich cwestiwn. Cynhelir y cyfarfod yn Abertawe am 10.30 ar 16 Hydref yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Edrychwn ymlaen at glywed eich barn!

“You can see the extraordinary beauty, the wonderful people and great hospitality, so I’d encourage everybody in the States to come and visit Wales.”
– Yr Arlywydd Barack Obama

Ymchwilio i’r pwnc – ‘Cymru yn y Byd Ehangach’

Gallai’r pwnc hwn ymddangos yn gymhleth, ond gall cymryd cam yn ôl i ystyried mater yn ei gyfanrwydd fod yn werthfawr. Hoffwn glywed syniadau arloesol a sylwadau o safbwyntiau gwahanol gan bobl o wahanol gefndiroedd. Continue reading “#GofynPrifWein – Hoffai’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog glywed gennych”

Cyfleoedd cyflogaeth i bobl dros 50 oed

Yn ôl ym mis Tachwedd 2014 penderfynodd Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru gynnal ymchwiliad i cyfloedd cyflogaeth i bobl dros 50 oed

Gall fod yn anodd i bobl dros 50 oed ddod o hyd i swydd, yn enwedig un sy’n defnyddio eu holl sgiliau. Penderfynodd y Pwyllgor y bydden nhw yn edrych ar beth y gellir ei wneud am hyn gan fod pobl yng Nghymru, erbyn hyn, yn byw yn hirach ac mae pensiynau yn mynd yn llai. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gweithio yn hirach ac erbyn hyn nid yw’n ofynnol i bobl ymddeol pan maent yn 60 neu 65 oed.

Yn ogystal â gofyn i sefydliadau allanol, academyddion a’r cyhoedd beth oedden nhw’n ei feddwl drwy ofyn iddyn nhw ymateb yn ysgrifenedig, bu i’r Pwyllgor hefyd ymweld â sefydliadau cynrychioladol i drafod yr ymchwiliad hefo nhw.

Bu i’r Pwyllgor ymweld ag aelodau staff o John Lewis Caerdydd, NIACE Cymru, Working Links, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, TUC Cymru a Chyngor Sir Benfro ar 12 Chwefror 2015. Cynhaliwyd trafodaethau o gwmpas y rhwystrau mae pobl dros 50 oed yn eu hwynebu wrth chwilio am swydd newydd, oes unrhyw stereoteipiau am gyflogaeth i bobl dros 50 oed, sut y gallwn ddod i’r afael â rhain a oes unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi a hyrwyddo cyflogaeth i bobl dros 50 oed.

Rhai o’r rhwystrau trafodwyd yn ystod yr ymweliadau hyn oedd y diffyg cyllid ar gyfer cyfleoedd hyfforddiant a diffyg pethau fel sgiliau TGCh. Gallwch ddarllen mwy am y trafodaethau hyn ar dudalen y Pwyllgor yma.

Dyma Rhun Ap Iorwerth AC yn dweud wrthym am drafodaethau hefo Staff Adnoddau Dynol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Yn ogystal ag ymweld â’r sefydliadau cynrychioladol hyn bu i’r Pwyllgor hefyd siarad hefo unigolion yn ystod eu cyfarfodydd yn y Senedd, gan gynnwys swyddfa’r comisiynydd pobl hŷn Cymru a chynrychiolwyr o Age Cymru a Prime Cymru.

Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi eu hadroddiad sydd yn cynnwys argymhellion ar bethau mae’r Pwyllgor yn meddwl dylai Llywodraeth Cymru eu gwneud  i’w gwneud yn haws i bobl dros 50 oed ddod o hyd i waith. Un o’r pethau mae’r Pwyllgor wedi ei argymell i Lywodraeth Cymru yw eu bod yn cynnal ymgyrch ‘Positif Am Oed’ i annog cyflogwyr i gyflogi pobl dros 50 oed. Yn ogystal â hyn ddylai Llywodraeth Cymru gael ymgyrch a fydd yn cynyddu nifer y lleoliadau gwaith a phrentisiaethau ar gyfer pobl dros 50 oed. Mae’r Pwyllgor hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ysgrifennu strategaeth sgiliau ar gyfer pobl dros 50 oed sy’n nodi sut y bydd yn helpu’r bobl hynny i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael swydd.

Mae’n bosib i chi weld yr adroddiad llawn neu grynodeb o’r adroddiad yma a gallwch weld sylw yn y wasg o’r lansiad adroddiad wrth clicio ar y lluniau isod.

BBC NEWS#

ITV NEWS

GUARDIAN

Bydd y Pwyllgor yn siarad hefo’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg yn ystod tymor yr hydref i ofyn beth fydd hi yn eu gwneud am yr argymhellion yn yr adroddiad.

Am fwy o wybodaeth dilynwch @SeneddBusnes.

Buddsoddi ar y cyd a sbarduno gweithlu cynhyrchiol a medrus yng Nghymru

Yn Ebrill 2015 gwelwyd Llywodraeth Cymru’n dechrau gweithredu ei fframwaith ar fuddsoddi ar y cyd mewn sgiliau. Mae’r fframwaith hwn yn newid y ffordd y mae hyfforddiant, sgiliau a phrentisiaethau yn cael eu hariannu yng Nghymru.

Mae’r dull newydd o fuddsoddi mewn sgiliau yn golygu bod cyfanswm y gost o hyfforddi, mewn termau arian parod, yn cael ei rhannu rhwng dau neu fwy o bobl. I fusnesau neu unigolion sy’n cyflogi prentisiaid neu’n cynnig hyfforddiant ar waith, mae’r newid yn golygu bod rhaid cynyddu eu cyfraniadau ariannol i dalu’r gost o hyfforddiant sgiliau yn eu gweithle.

William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes
William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes

Wrth ddisgwyl cael eu gweithredu’n llawn erbyn 2017, roedd y Pwyllgor Menter a Busnes am ddarganfod sut byddai hyn yn effeithio busnesau Cymru a darparwyr hyfforddiant. Byddai’r fframwaith newydd yn helpu cyflawni nôd Llywodraeth Cymru o “sicrhau bod Cymru’n datblygu mantais gystadleuol wrth sbarduno gweithlu cynhyrchiol a medrus”?

Cynhaliodd y Pwyllgor cyfarfodydd busnes brecwast yng Ngogledd a De Cymru er mwyn archwilio’r materion hyn ymhellach. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ym Mragdy Brains, Caerdydd gydag amrywiaeth o gynrychiolwyr o’r sectorau academaidd, hyfforddiant a busnes.

Dyma Gwawr Thomas, o Creative Skillset Cymru, yn sôn am gymryd rhan yn y digwyddiad ac yn egluro pwysigrwydd buddsoddi ar y cyd mewn sgiliau o fewn y diwydiannau creadigol.

Trafododd cyfranogwyr yr angen i ystyried y gwahanol lefelau o gymorth ariannol ar gael i amrywiaeth o fusnesau all fod yn gweithredu ar wahanol raddfeydd. Gall buddsoddiad cynyddol gan gyflogwyr golygu bod y busnesau hynny yn dewis ymgeiswyr sydd â phrofiad – a allai weld iddynt esgeuluso ymgeiswyr ifanc ac yn gweld y polisi yn gweithio yn erbyn nôd Llywodraeth Cymru.

Dylan's, Porthaethwy - Ynys Môn
Dylan’s, Porthaethwy – Ynys Môn

Cynhaliwyd yr ail gyfarfod busnes brecwast ym mwyty Dylan’s, Ynys Môn gyda darparwyr hyfforddiant a chynrychiolwyr busnes lleol. Iwan Thomas, Arweinydd Sgiliau Rhanbarthol a Chyflogaeth ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru oedd un o’r gwahoddedigion. Un neges allweddol oedd arno eisiau mynegi oedd i Lywodraeth Cymru ystyried dull rhanbarthol o fuddsoddi ar y cyd, a sut dylai cymryd y newid polisi ymlaen.

Ar ôl cynnal y ddau cyfarfod brecwast, mae’r Pwyllgor Menter a Busnes wedi danfon llythyr o argymhellion Julie James AC, Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg i’w hystyried o ran y newid polisi. Mae modd i chi ddarllen y llythyr sydd yn cynnwys yr argymhellion yma: http://bit.ly/1VIM4am

Ymchwiliad y Cynulliad i Entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol wrthi’n ymchwilio i entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc, gan edrych yn benodol ar brofiadau entrepreneuriaid ifanc yng Nghymru a sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc

Er mwyn casglu barn pobl ifanc ledled Cymru, trefnodd y tîm allgymorth i rai o Aelodau’r Cynulliad ymweld â phrosiectau yng Nghasnewydd a Glannau Dyfrdwy, ynghyd â chynnal cyfweliadau fideo a grŵp ffocws. Clywodd y Pwyllgor hefyd gan Dale Williams – a gyrhaeddodd rownd derfynol MasterChef 2013 – a sefydlodd ei gwmni recriwtio ei hun yn 23 oed.

Dyma Dale yn siarad am roi tystiolaeth i’r Pwyllgor:

Cafwyd sesiynau cyfweliadau fideo gyda 37 entrepreneur ifanc ledled Cymru. Cyfarfu’r tîm allgymorth gyda phobl ifanc sy’n berchen amrywiaeth o wahanol fusnesau, o siopau coffi a chyfieithu aps i siop ddillad bwtîc a’r byd amaeth.

Mae’r fideo a gafodd ei ddangos yn y Pwyllgor i’w weld yn llawn ar YouTube:

Ymwelodd swyddogion allgymorth hefyd ag Aberpennar i gynnal grŵp ffocws entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc gyda phobl ifanc. Roedd 11 person ifanc yn cymryd rhan ac amrywiodd y drafodaeth o fuddiannau posibl dechrau busnes i ddylanwad rhaglenni teledu fel Dragon’s Den o ran ysgogi entrepreneuriaeth.

Focus Group - RCT

Trefnodd y tîm allgymorth hefyd ymweliadau â Sefydliad Alacrity yng Nghasnewydd, a’r ganolfan entrepreneuriaeth ranbarthol yng Nglannau Dyfrdwy. Rhannodd Aelodau’r Cynulliad o’r Pwyllgor Menter a Busnes yn ddau dîm a mynd i siarad gyda’r entrepreneuriaid ifanc, cynghorwyr a staff mewn cyfres o drafodaethau ford gron.

Cewch wylio beth oedd gan bobl i’w ddweud adeg yr ymweliad â Sefydliad Alacrity ar YouTube:

Dywedodd Simon Gibson, Ymddiriedolwr Sefydliad Alacrity pan gafodd ei sefydlu, yr hyn a ganlyn am yr ymweliad: “Credaf fod pawb yn elwa o’r ymweliadau hyn; rydym yn cael adborth gan Aelodau’r Cynulliad, ond credaf mai’r hyn sy’r un mor bwysig yw eich bod yn gweld y sefyllfa fel ag y mae pan rydych yn mynd allan i’r maes i gael gwybod beth yw’r materion gwirioneddol; rwy’n cymeradwyo swyddogion a’r Aelodau Cynulliad am roi o’u hamser i wneud hynny, ac rydym yn gwerthfawrogi’r ffaith eu bod wedi gwrando arnom.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad, cliciwch yma: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=6052