Gwnaeth Simon Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Ebrill 2017 ar ran y Pwyllgor, yn amlinellu profiad y Pwyllgor hwn o’i wrandawiad cyn penodi ar gyfer Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru.
Bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn cael ei sefydlu i gasglu a rheoli trethi datganoledig Cymru a bydd yn weithredol o fis Ebrill 2018. Adran anweinidogol Llywodraeth Cymru yw Awdurdod Cyllid Cymru. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn credu y byddai gwrandawiad cyn penodi yn fuddiol o ystyried y statws a’r trefniadau llywodraethu unigryw ar gyfer Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru.
Cafodd y Pwyllgor ei galonogi gan ymrwymiad yr Ysgrifennydd Cabinet i dryloywder ac atebolrwydd wrth recriwtio penodiadau cyhoeddus, a chroesawodd y cyfle i helpu i wella’r weithdrefn hon ar gyfer gwrandawiadau cyn penodi yn y dyfodol. Cydnabu’r Pwyllgor ymrwymiad yr Ysgrifennydd Cabinet i wrandawiadau cyn penodi; yn wir, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet erthygl yn 2012 lle cydnabu bwysigrwydd gwrandawiadau cyn penodi. Mae’r Cadeirydd yn cydnabod bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cymryd y camau cyntaf i dynnu arferion y Cynulliad yn unol â chyrff seneddol eraill sydd eisoes wedi sefydlu proses mewn perthynas â gwrandawiadau cyn penodi.
Yn natganiad y Pwyllgor, bu’r Cadeirydd yn manylu’r canlyniadau adeiladol a gafwyd o’r gwrandawiad, gan gynnwys rhoi cyfle i’r ymgeisydd wynebu craffu seneddol mewn lleoliad cyhoeddus, sy’n rhywbeth y mae angen i’r sawl a benodir i swydd ar y lefel hon fod yn barod amdano.
Yn y datganiad, dywedodd y Cadeirydd fod lle i wella fel yn achos unrhyw weithdrefn newydd. Amlinellodd awgrymiadau’r Pwyllgor Cyllid ar gyfer gwrandawiadau cyn penodi yn y dyfodol, sy’n cynnwys:
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet yn amlinellu pam mae’r Gweinidog/Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod yr ymgeisydd yn addas ar gyfer y swydd.
Amser adrodd ychwanegol yn yr amserlen.
Gosod rhestr benodol o benodiadau cyhoeddus lle y mae’n rhaid cynnal gwrandawiad cyn penodi.
Gweledigaeth y Cadeirydd ar gyfer gwrandawiadau cyn penodi yn y dyfodol yw eu bod yn cryfhau tryloywder ac atebolrwydd penodiadau gweinidogol, a fydd yn gwneud y cyhoedd yn fwy hyderus ynghylch y penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad fel ei gilydd.
Yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o rannu gwybodaeth mewn ffordd gyffrous ac arloesol. Eleni, dechreuom ddefnyddio rhaglen o’r enw Slate (gan Adobe) i greu crynodebau o’r adroddiadau a lunnir gan ein pwyllgorau.
Mae ein deunydd ar Slate wedi bod yn llwyddiannus iawn – yn gymaint felly nes i Adobe ein gwneud ni’n Llysgennad ar gyfer Slate!
Beth yw Slate?
Platfform sy’n galluogi sefydliadau i greu a rhannu adroddiadau, gwybodaeth a chyflwyniadau rhyngweithiol yw Slate. Mae ganddo ryngwyneb hygyrch ac mae modd ei ddefnyddio ar sawl platfform. Mae’r Cynulliad wedi defnyddio Slate i rannu gwaith helaeth a chymhleth pwyllgorau’r Cynulliad mewn fformat difyr sy’n hawdd ei ddefnyddio.
Llwyddiant Slate
Yn dilyn yr ymchwiliad diweddar i Gamddefnyddio Alcohol a Sylweddau yng Nghymru, roedd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad am rannu ei ganfyddiadau. Defnyddiodd y Cynulliad Slate i greu crynodeb o waith y pwyllgor. Gan ddefnyddio delweddau trawiadol a chynnwys addysgiadol, crëwyd adroddiad amlblatfform a chanddo ryngwyneb cyfeillgar.
“Mae’n anhygoel gweld y pethau gwych y mae pobl (fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru) yn eu gwneud gyda’r adnodd” – Tîm Rhaglen Slate
Fy enw i yw Jocelyn Davies, a fi yw Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid (@SeneddCyllid). Yn ystod y tymor hwn, bydd y Pwyllgor yn brysur yn gweithio ar y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru). Cyfraith ddrafft yw Bil – unwaith i’r Cynulliad ei drafod a’i basio, bydd yn cael Cydsyniad Brenhinol gan y Frenhines, ac yna bydd yn dod i rym. Cyflwynwyd y Bil i’r Cynulliad ar 13 Gorffennaf 2015 ac mae gan y Pwyllgor gyfle i ystyried yr ‘egwyddorion cyffredinol’ neu brif amcanion y Bil hyd at 27 Tachwedd 2015.
Digwyddiad i randdeiliaid: 23 Medi 2015
Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad defnyddiol yn llawn gwybodaeth i randdeiliaid yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd ar y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru).
Diben y digwyddiad oedd rhoi’r cyfle i randdeiliaid â diddordeb rannu eu barn ar y Bil gydag aelodau’r Pwyllgor. Roedd y sesiwn yn cynnwys trafodaethau grŵp gyda chyfranogwyr ac Aelodau, yn ogystal â sesiwn adborth ar y diwedd.
Roedd yn fraint i’r Pwyllgor siarad â chymaint o weithwyr proffesiynol o safon a chlywed eu barn, a fydd yn amhrisiadwy ar gyfer sesiynau craffu ffurfiol y Pwyllgor sydd i ddod gyda thystion, gan gynnwys Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, Revenue Scotland a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn gwneud y digwyddiad yn un llwyddiannus. Mae’r math hwn o ymgysylltu yn eithaf newydd i’r Pwyllgor ac yn bersonol roedd yn ddefnyddiol iawn imi o ran deall y materion a chael amrywiaeth eang o safbwyntiau mewn ffordd anffurfiol. Rydym wedi llunio nodyn o’r cyfarfod os hoffech ei ddarllen.
Sut i gymryd rhan a chael y wybodaeth ddiweddaraf
Hafan y Pwyllgor i gael gwybodaeth am yr ymchwiliadau cyfredol a’r ddeddfwriaeth y mae’r Pwyllgor yn ei thrafod
Fy enw i yw Jocelyn Davies, a fi yw Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid (@SeneddCyllid). Yn ystod y tymor hwn, bydd y Pwyllgor yn brysur yn gweithio ar y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru). Cyfraith ddrafft yw Bil – unwaith i’r Cynulliad ei drafod a’i basio, bydd yn cael Cydsyniad Brenhinol gan y Frenhines, ac yna bydd yn dod i rym. Cyflwynwyd y Bil i’r Cynulliad ar 13 Gorffennaf 2015 ac mae gan y Pwyllgor gyfle i ystyried yr ‘egwyddorion cyffredinol’ neu brif amcanion y Bil hyd at 27 Tachwedd 2015.
Cefndir y Bil
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU Fil Cymru ym mis Mawrth 2014 a chafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Rhagfyr 2014. Mae Deddf Cymru 2014 yn rhoi’r cymhwysedd i’r Cynulliad ddeddfu mewn meysydd datganoledig o ran treth ac yn rhoi fframwaith clir ar gyfer yr opsiynau polisi mewn perthynas â threthi newydd, gan gynnwys treth ar drafodion sy’n cynnwys buddiannau mewn tir a threth ar waredu i safleoedd tirlenwi.
Y Bil
Un o Filiau’r Llywodraeth yw hwn a chafodd ei gyflwyno gan Jane Hutt AC, sef y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (a elwir yr Aelod sy’n gyfrifol). Diben y Bil yw rhoi’r fframwaith cyfreithiol sydd ei angen ar waith ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol. Yn benodol, mae’r Bil yn darparu ar gyfer:
sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru a fydd yn casglu ac yn rheoli trethi datganoledig yn bennaf;
cyflwyno’r dyletswyddau a’r pwerau priodol i Awdurdod Cyllid Cymru (a dyletswyddau a hawliau cyfatebol i drethdalwyr ac eraill) mewn perthynas â chyflwyno ffurflenni treth a chynnal archwiliadau ac asesiadau er mwyn galluogi’r Awdurdod i nodi a chasglu’r swm priodol o dreth ddatganoledig sy’n ddyledus gan drethdalwyr;
pwerau gorfodi ac ymchwilio sifil cynhwysfawr, gan gynnwys pwerau sy’n caniatáu i Awdurdod Cyllid Cymru ofyn am wybodaeth a dogfennau a chael mynediad at safleoedd a mathau eraill o eiddo er mwyn eu harchwilio;
dyletswyddau ar drethdalwyr i dalu cosbau a llog mewn amgylchiadau penodol;
hawliau i drethdalwyr ofyn am adolygiadau mewnol o rai o benderfyniadau Awdurdod Cyllid Cymru ac i apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniadau o’r fath; a
chyflwyno pwerau gorfodi troseddol ar Awdurdod Cyllid Cymru.
Gwaith y Pwyllgor – Cyfnod 1
Mae Cyfnod 1 yn cynnwys y Pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil, yna bydd y Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny mewn pleidlais yn y Cyfarfod Llawn.
Gwaith y Pwyllgor Cyllid yw canolbwyntio ar brif ddiben y Bil, yn hytrach nag yn edrych ar y manylion (sy’n fater ar gyfer y cyfnodau diweddarach). Dros yr haf, cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad yn gofyn i sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig er mwyn llywio gwaith y Pwyllgor. Cafwyd 15 o ymatebion ac maent ar gael i’w darllen ar ein gwefan.
Rhan nesaf ein gwaith fydd gwahodd cynrychiolwyr o grwpiau sydd â diddordeb i ddarparu tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor. Cynhaliodd y Pwyllgor ei sesiwn dystiolaeth gyntaf ar y Bil ar 17 Medi 2015. Yn y cyfarfod hwn, clywsom gan yr Aelod sy’n gyfrifol, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, a gwnaethom ei holi ynghylch y Bil a’i brif ddiben. Os hoffech weld y sesiwn, gallwch ei gwylio ar Senedd.TV.
Sut i gymryd rhan a chael y wybodaeth ddiweddaraf
Hafan y Pwyllgor i gael gwybodaeth am yr ymchwiliadau cyfredol a’r ddeddfwriaeth y mae’r Pwyllgor yn ei thrafod
Mae tuedd i adroddiadau swyddogol pwyllgorau fod yn eithaf hir ac yn llawn tystiolaeth gan randdeiliaid a Llywodraeth Cymru. Cyhoeddir yr adroddiadau hyn ar wefanau’r Pwyllgor perthnasol.
Mae’r fersiwn swyddogol o unrhyw adroddiad yn bwysig gan ei bod yn cynnwys holl dystiolaeth a holl argymhellion/canfyddiadau’r Pwyllgor, ac mae’n modd o ddarparu tryloywder.
Mewn ymgais i wneud canfyddiadau adroddiadau yn fwy hygyrch i bobl a allai fod â diddordeb yng ngwaith y Pwyllgor Cyllid, cyhoeddwyd adroddiad cipolwg ar yr ymchwiliad i bwerau’r Ombwdsmon ochr yn ochr â’r adroddiad swyddogol. Cafodd hyn ei gynllunio fel y gellir ei darllen trwy fodio drwyddo ar dabled neu ffôn, neu trwy sgrolio trwyddo ar gyfrifiadur bwrdd gwaith.
Er mwyn gwneud yr adroddiad yn fwy hygyrch, mae llai o eiriau, mae’r iaith yn symlach, ychwanegwyd delweddau, a chynhwysywd dyfyniadau o gyfarfodydd y Pwyllgor er mwyn i’r darllenydd gael darlun cyffredinol o adroddiad y Pwyllgor.
Yn y cofnod hwn, rwy’n mynd i siarad am y broses gynllunio, a fydd, efallai, yn llai diddorol na’r blogiau blaenorol, ond mae’n bosibl mai dyma ddarn pwysica’r pos. Heb gynllunio a thrafodaeth briodol yn ddigon cynnar yn y broses, fyddai’r un o’r elfennau y siaredais amdanyn nhw yn y ddau flog cyntaf ddim wedi bod yn bosibl.
Mae cynllunio a chynnwys y bobl gywir ar yr adeg gywir yn rhan bwysig iawn o’r cam cyntaf. Gellir gwneud llawer o’r gwaith paratoi o flaen llaw er mwyn rhoi amser i staff mewnol gynllunio, meddwl am syniadau, siarad ag arbenigwyr allanol a chysylltu ag Aelodau Cynulliad/Cynghorwyr, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cael y cyfle i lunio’r math o weithgaredd ymgysylltu, ac yn enwedig y cynulleidfaoedd, y maen nhw eisiau clywed ganddyn nhw. Yn y Cynulliad mae gennym dimau integredig (sydd fel arfer yn cynnwys ymchwilydd, clerc pwyllgor, cynghorwr cyfreithiol a staff chyfathrebu), sy’n golygu bod swyddogion o bob pwyllgor yn cwrdd yn wythnosol i drafod ymchwiliadau a gwaith, yn ogystal â beth fydd yn digwydd yn yr wythnosau a’r misoedd nesa. Nid yw’n anarferol i’r timau integredig hyn drafod beth sydd i ddod dros y pump a’r chwech mis nesaf. Mae cynllunio priodol yn golygu fod gennych fwy o hyblygrwydd a dewisiadau pan ddaw hi i ymgysylltu â gwahanol grwpiau, sefydliadau ac unigolion. Mae’n bwysig bod eich pobl cyfathrebu yn rhan o’r gwaith o’r cam cynharaf posibl er mwyn cynghori a helpu i lunio’r gwaith, yn hytrach na’i fod yn ôl-ystyriaeth, neu eich bod yn gofyn ar ddiwedd y broses am gymorth i roi cyhoeddusrwydd ar rywbeth nad ydyn nhw wedi helpu ei lunio.
Bydd cynllunio ymlaen hefyd yn golygu y bydd gan y grwpiau a’r sefydliadau hynny rydych eisiau eu helpu i hyrwyddo’r gweithgaredd (boed yn ddigwyddiad, arolwg, y cyfle i gael eich cyfweld ac ati) ddigon o amser i wneud hynny. Mae’n bwysig defnyddio arbenigedd grwpiau a sefydliadau allanol wrth geisio dewis y math priodol o ddull ymgysylltu, yn seiliedig ar eich cynulleidfa darged. Mae cynghorau mewn sefyllfa unigryw gan eu bod yn cyflwyno amrywiaeth eang o wasanaethau i wahanol grwpiau o bobl, yn cynnwys iechyd, addysg, trafnidiaeth a’r amgylchedd, i enwi ond ychydig. Mae’r bobl sy’n darparu’r gwasanaethau hyn yn ffynhonnell wybodaeth werthfawr, a gall eich helpu i ystyried materion sy’n berthnasol i grwpiau penodol o bobl, yn seiliedig ar eu hoedran, rhyw, lefelau llythrennedd, cefndir ethnig ac ati.
Astudiaeth Achos: Craffu ar y Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser
Yn ddiweddar, edrychodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol ar ba mor dda y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu ei Chynllun Cyflawni ar gyfer Canser. Roedd y Pwyllgor eisiau clywed yn uniongyrchol gan gleifion, felly trefnwyd grwpiau ffocws ledled Cymru gyda grwpiau cleifion, a wahoddwyd yn ddiweddarach i drafod eu profiadau gydag Aelodau’r Cynulliad mewn digwyddiad yng Nghaerdydd. Yn allweddol i hyn oedd y cyfarfodydd cynnar y cafodd y tîm integredig i drafod syniadau, gan ofyn am gyngor gan MacMillan a’n helpodd ni yn y cyfnod cynnar i drefnu’r sesiynau a chleifion. Heb gynllunio priodol a’r trafodaethau cynnar hynny, fyddai hyn ddim wedi bod yn bosibl, ac ni fyddai’r Pwyllgor wedi clywed yn uniongyrchol gan gleifion drwy gydol y broses.
Dyma fideo a wnaed ar ôl digwyddiad a gynhaliwyd fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru:
Yn y Cynulliad mae gennym dimau integredig (sydd fel arfer yn cynnwys ymchwilydd, clerc pwyllgor, cynghorwr cyfreithiol a staff chyfathrebu), sy’n golygu bod swyddogion o bob pwyllgor yn cwrdd yn wythnosol i drafod ymchwiliadau a gwaith, yn ogystal â beth fydd yn digwydd yn yr wythnosau a’r misoedd nesa.
Fel arfer, rŷm yn trafod y cwestiynau canlynol:
Pwy ydych chi’n disgwyl fydd yn mynegi eu barn yn ysgrifenedig? (tystiolaeth ysgrifenedig);
Pwy ydych chi’n meddwl y byddwch yn gwahodd i siarad â’r pwyllgor mewn cyfarfodydd swyddogol? (tystiolaeth lafar;
Pwy ydych chi’n awyddus i glywed ganddyn nhw, nad ydych yn meddwl fydd yn cysylltu, a sut y gallwn ni eu cyrraedd nhw?
Yr ateb i’r trydydd cwestiwn yw’r grwpiau rŷm ni’n tueddu i fod yn anelu ein gweithgarwch ymgysylltu tuag atyn nhw. Ni ddylai’r gwaith hyn ddigwydd heb gysylltu ag Aelodau’r Cynulliad/Cynghorwyr. Mae’n rhaid iddyn nhw fod yn rhan o lunio’r gwaith yr ydych yn ei wneud. Mae wedi bod yn ddefnyddiol i ni fod gennym rai syniadau i’w trafod ar ôl cwrdd fel tîm integredig, ac ar ôl siarad â phobl o fewn y sector yr hoffech glywed ganddynt. Mae angen i aelodau’r pwyllgor fod yn gyfarwydd â’r gweithgarwch ymgysylltu er mwyn iddo ddylanwadu ar y broses graffu i’r eithaf.
Wrth geisio ateb y trydydd pwynt hwnnw, rŷm ni’n ceisio rhoi’r cyfle gorau posibl i ddefnyddwyr gwasanaeth gael cymryd rhan. Mewn rhai achosion, fel yr ymchwiliad i’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser y soniwyd amdano uchod, roeddem yn awyddus i glywed gan ddefnyddwyr gwasanaeth – y cleifion – yn uniongyrchol.. Bydd y term “defnyddiwr gwasanaeth” yn amrywio, yn dibynnu ar y mater yr ydych yn craffu arno. Edrychodd un arall o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol, y Pwyllgor Cyllid, ar berfformiad Cyllid Cymru, ac roedden nhw’n awyddus i glywed yn uniongyrchol gan fusnesau a oedd wedi gweithio gyda nhw, gan gynnwys rhai nad oedd wedi llwyddo yn eu ceisiadau am fuddsoddiad. Dyma “ddefnyddwyr gwasanaeth” gwahanol iawn, sy’n dangos pa mor wahanol y gall yr ateb i’r trydydd cwestiwn fod yn dibynnu ar y mater dan sylw.
Dyma rai lluniau a fideos o ddigwyddiad a gynhaliwyd fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i Gyllid Cymru:
Rwy’n gobeithio bod y blogiau wedi bod yn ddefnyddiol i chi, ac mae croeso i chi gysylltu os ydych am siarad yn fanylach am unrhyw un o’r pethau yn y gyfres hon.
Ddydd Mercher 22 Ionawr, daeth busnesau i frecwast busnes i gyfarfod ag Aelodau’r Cynulliad i drafod Cyllid Cymru, cwmni buddsoddi a sefydlwyd ar gyfer Mentrau Bach a Chanolig, ac sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru.
(Ch-Dd) Julie Morgan AC, Peter Black AC, a Jocelyn Davies AC yn ystod y digwyddiad
Daeth yr wyth aelod o’r Pwyllgor Cyllid i gyfarfod ag amrywiaeth o fusnesau o Gymru, gan gynnwys datblygwyr apiau ar gyfer y we, cwmnïau bragu, cynhyrchwyr a chyfrifwyr siartredig, i enwi dim ond rhai. Cynhaliwyd y digwyddiad fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i Gyllid Cymru http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=8230
Rhannwyd pawb yn bedwar grŵp ffocws gwahanol a thrafodwyd y themâu a ganlyn;
– Sut y mae’r galw am gyllid gan Fentrau Bach a Chanolig wedi newid ers y Wasgfa Gredyd yn 2008?
– Profiadau unigolion o Gyllid Cymru
– Sut y mae Cyllid Cymru yn cymharu â darparwyr eraill, fel banciau, o ran y cymorth a’r cyngor ariannol a gynigir?
– Pa gymorth fyddai busnesau’n ei hoffi gan Gyllid Cymru a Llywodraeth Cymru yn y dyfodol?
– A yw Cyllid Cymru yn llwyddo i’w hyrwyddo’i hun a’r gwahanol fathau o gyllid sydd ar gael?
Roedd sylwadau a phrofiadau pawb yn wahanol iawn, rhai’n gadarnhaol ac eraill yn negyddol. Dyma’r prif bwyntiau a gododd yn ystod un o’r trafodaethau:
– Mae angen mwy o gyngor busnes i’r rhai sydd am ddechrau busnes, a chymorth gyda’r broses ymgeisio hefyd i’r rhai sydd â syniadau da ond prin ddim arbenigedd ym maes busnes;
– Llwyddodd arian gan Gyllid Cymru i lenwi bwlch yn y farchnad gan nad oedd neb arall yn fodlon ariannu rhai busnesau.
– Roedd y cyfraddau llog a godwyd yn rhesymol o ystyried y risgiau
– Mae Cyllid Cymru yn gaffaeliad i Gymru ac ni ddylid ei newid rhyw lawer.
– Gellid archwilio ymhellach y syniad o sefydlu Banc Datblygu i helpu pobl i ddechrau busnes, ond dylid gwneud hynny ochr yn ochr â Chyllid Cymru a thargedu busnesau newydd.
– Oni bai am Gyllid Cymru, ni fyddai rhai busnesau wedi sefydlu yng Nghymru.
Caiff nodyn am y trafodaethau ei gyhoeddi yma yn ystod y bythefnos nesaf:
Ar ôl y cyfarfod, holwyd Paul Davies, Aelod Cynulliad Preseli Sir Benfro, a Malcolm Duncan, Rheolwr Gyfarwyddwr SuperRod, yn Nhorfaen, a dyma a oedd ganddynt i’w ddweud:
Bydd y Pwyllgor yna awr yn siarad â’r grwpiau a’r sefydliadau yn y Senedd cyn paratoi adroddiad yn amlinellu argymhellion i Lywodraeth Cymru.
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 5 Chwefror, pan fydd Aelodau’r Cynulliad yn siarad â’r Athro Dylan Jones-Evans – Athro Mentergarwch a Strategaeth yn Ysgol Fusnes Bryste, Prifysgol Gorllewin Lloegr;