Flwyddyn ar ôl ei ddigwyddiad cyntaf i randdeiliaid ym mis Gorffennaf 2016, gwahoddodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau amrywiaeth eang o randdeiliaid yn ôl i fyfyrio ar uchafbwyntiau’r flwyddyn ac i ystyried y blaenoriaethau sy’n dod i’r amlwg ar gyfer y Pwyllgor y flwyddyn nesaf.
Beth ddigwyddodd?
Ar 19 Gorffennaf 2017 bu Aelodau’r Pwyllgor yn trafod â rhanddeiliaid sut y mae’r Pwyllgor wedi darparu o ran ei raglen waith, a’r hyn y gallwn ei wneud i ddatblygu pethau, yn enwedig:
Beth oedd uchafbwyntiau blwyddyn gyntaf y Pwyllgor? Beth y gallai’r Pwyllgor fod wedi’i wneud yn well?
Beth yw’r tueddiadau neu’r digwyddiadau allweddol dros y 12 i 18 mis nesaf?
A yw’r amseru yn iawn ac a oes unrhyw beth ar goll yn syniadau cychwynnol y Pwyllgor am waith yn y dyfodol?
Y themâu allweddol a oedd yn dod i’r amlwg o lawer o’r trafodaethau oedd effaith gadael yr UE a phwysigrwydd strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru, sydd ar fin cael ei chyhoeddi.
Diolch i bawb a gymerodd ran
Diolchodd Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, i bawb a gymerodd ran am rannu eu profiad a’u harbenigedd. Dywedodd:
“Flwyddyn ar ôl i ni wahodd amrywiaeth o randdeiliaid gyntaf i roi gwybod i ni am yr hyn y dylem ei wneud fel Pwyllgor, roeddem yn awyddus i glywed beth oedd eu barn am yr hyn a wnaed gennym. Ac i weld beth oedd eu barn am rai o’n syniadau sy’n datblygu ar gyfer y flwyddyn i ddod.
“Ar ôl y trafodaethau heddiw, rwy’n credu ein bod ar y trywydd iawn i ddatblygu rhaglen waith sy’n ymgorffori safbwyntiau rhanddeiliaid ar y tair prif elfen o’n cylch gwaith, sef yr economi, seilwaith a sgiliau.”
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Bydd y tîm clercio yn defnyddio’r syniadau a’r sylwadau a gafwyd gan randdeiliaid i lywio papur, a fydd yn nodi blaenoriaethau ac ymchwiliadau ar gyfer y flwyddyn i ddod, y bydd y Pwyllgor yn ei ystyried ym mis Medi.
Ym mis Medi, bydd ugain mlynedd wedi mynd heibio ers i bobl Cymru bleidleisio, o fwyafrif bychan, i gael eu Cynulliad Cenedlaethol eu hunain. Dyma’r unig sefydliad gwleidyddol y mae pobl Cymru wedi pleidleisio o’i blaid. Ers iddo ddod i fodolaeth ym 1999, mae’r Cynulliad wedi tyfu o ran pŵer a chyfrifoldeb. Chwe blynedd yn ôl, pleidleisiodd pobl Cymru o fwyafrif llethol dros roi pŵer i’r Cynulliad i wneud deddfau yng Nghymru.
Ond pa mor ymwybodol yw pobl o’r gwaith a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol fel sefydliad, a chan ei aelodau unigol fel ACau? Rydym ni’n gwybod bod pobl weithiau’n drysu rhwng y ddeddfwrfa, sef y Cynulliad Cenedlaethol, a’r weithrediaeth, sef Llywodraeth Cymru. Ddiwedd y flwyddyn y llynedd, crëodd Llywydd y Cynulliad grŵp bach i drafod sut y gall y Cynulliad gyflwyno newyddion a gwybodaeth am ei waith mewn modd diddorol a hygyrch. Tasg fawr yw hynny, yn enwedig ar adeg pan mae sefydliadau newyddion o dan bwysau cynyddol ac yn canolbwyntio’n llai ar roi sylw i wleidyddiaeth.
Mae ein tasglu yn cynnwys pobl sy’n meddu ar arbenigedd yn y meysydd a ganlyn: y cyfryngau, prosiectau democratiaeth agored megis mySociety, sefydliadau cyhoeddus blaengar sydd wedi mynd ati i hybu cyfathrebu digidol, ac arbenigwyr mewn dysgu digidol a chyfathrebu gwleidyddol. Gofynnwyd i ni edrych ar y ffordd orau o gynyddu lefelau o ddealltwriaeth ac ymgysylltiad gan y cyhoedd ymhlith cynulleidfaoedd sydd ar hyn o bryd wedi ymddieithrio o wleidyddiaeth a materion Cymreig.
Mae’r tasglu yn ystyried y ffordd orau o gyflawni’r hyn a ganlyn:
sicrhau ei bod yn haws i ddefnyddwyr gwasanaethau’r Cynulliad ddefnyddio’r fath wasanaethau, megis y wefan, neu Senedd TV, sef y darllediadau byw ac wedi’u recordio o drafodion y Cynulliad, neu’r fersiwn argraffedig o Gofnod y Trafodion, yn ogystal â chymryd a defnyddio data oddi wrthynt, addasu cynnwys fideo a chynnwys arall at eu dibenion eu hunain, a rhoi gwell profiad i ddefnyddwyr yn gyffredinol;
sicrhau bod gwasanaethau ar-lein, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, yn gallu helpu’r Cynulliad i ddiwallu anghenion gwahanol gynulleidfaoedd a chwsmeriaid;
sut y mae pwyllgorau’r Cynulliad yn rhoi gwybod am y gwaith y maent yn ei wneud.
Mae llawer o bobl yn ymddiddori yn y materion a drafodir yn y Cynulliad, sy’n amrywio o faes iechyd i dai, ac o faes addysg i’r amgylchedd – ond o bosibl nid yw’r Cynulliad yn cyflwyno’r materion hyn mewn ffordd sy’n galluogi pobl i ddarganfod pethau mewn modd syml a hygyrch. Yn rhy aml, mae’r Cynulliad yn ymddangos yn sefydliadol wrth gyflwyno materion, yn hytrach na rhoi’r materion yn gyntaf. Y dyddiau hyn, mae pobl yn poeni’n fwy am faterion nag y maent yn poeni am sefydliadau.
Efallai bod pethau eraill y mae angen i’r Cynulliad eu gwneud i sicrhau ei fod yn cyfathrebu’n effeithiol â phobl Cymru. Mae pobl bellach yn cael gwybodaeth a newyddion am wleidyddiaeth mewn ffyrdd gwahanol ac arloesol, yn bennaf drwy lwyfannau digidol. Mae’r rhan fwyaf o bobl erbyn hyn yn cael eu newyddion ar-lein ac ar eu ffonau symudol, ac yn fwyfwy aml drwy ffrydiau newyddion megis Facebook. Mae pobl ifanc gan amlaf yn cael eu newyddion ar lwyfannau symudol, drwy gyfryngau cymdeithasol megis Snapchat. Sut all y Cynulliad gyflwyno ei newyddion mewn modd mwy cyfleus gan ddefnyddio’r llwyfannau hyn – neu alluogi eraill i wneud hyn?
Mae holl sefydliadau’r cyfryngau o dan bwysau, ac mae un o’r papurau newydd a fu’n gohebu ar faterion y Cynulliad, drwy gyflogi gohebydd penodedig, erbyn hyn wedi dileu’r swydd honno. Mae’r rhan fwyaf o bobl Cymru yn cael eu newyddion teledu a radio gan sianeli a ddarlledir drwy’r DU ac sy’n rhoi ychydig iawn o sylw i Gymru. Yn anaml iawn maent yn egluro am y gwahaniaethau sy’n bodoli rhwng polisïau yng Nghymru ac yn Lloegr, ar wahân i grybwyll y ffaith yma ac acw. Yn anaml iawn mae’r papurau newydd Llundeinig, sy’n cael eu darllen yn eang yng Nghymru, yn sôn am wleidyddiaeth Cymru neu’r Cynulliad. Felly, a oes angen i’r Cynulliad ddarparu ei lwyfan newyddion digidol ei hun drwy greu tîm bach o newyddiadurwyr i ddarparu newyddion am y straeon sydd yn dod allan o’r Cynulliad? Gallai llwyfan o’r fath hefyd ddarparu deunydd ar gyfer ugeiniau o gyhoeddiadau newyddion lleol a hyperleol o amgylch Cymru. Ni fyddai’n gweithredu fel llefarydd y ‘llywodraeth’ – i’r gwrthwyneb. Byddai’n llwyfan ar gyfer yr hyn sy’n digwydd yn y man lle gwneir y gwaith o graffu ar Lywodraeth Cymru – y Cynulliad Cenedlaethol – ac o dan arweiniad golygydd diduedd.
Bwriad dyluniad ffisegol y Senedd oedd bod yn symbol o’i rôl fel man cyhoeddus tryloyw ar gyfer pobl Cymru. Mae’n un o’r adeiladau sy’n cael y nifer mwyaf o ymwelwyr yng Nghymru, sef mwy na 80,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Sut gellir gwella profiad yr ymwelydd, a sut all pobl gadw mewn cysylltiad â’r hyn sy’n digwydd yn y Cynulliad ar ôl eu hymweliad? Mae miloedd o fyfyrwyr ysgol yn ymweld â’r Cynulliad bob blwyddyn: sut ddylai’r Cynulliad gysylltu â myfyrwyr, athrawon ac ysgolion, o bosibl gan ddefnyddio llwyfan dysgu dwyieithog Llywodraeth Cymru, sef Hwb+, sy’n hynod o lwyddiannus ac yn cynnal 580,000 o athrawon a dysgwyr? Dyna rywbeth rydym ni’n gofyn i’r Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol roi sylw iddo.
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn ceisio deall barn a safbwyntiau pobl Cymru drwy ddefnyddio dulliau gwahanol – ceisio cael ymatebion torfol i Brexit a materion eraill, cynnal arolygon barn ynghylch ymholiadau a chael miloedd o ymatebion. Bydd gwaith y tasglu yn ategu hyn, gan geisio sicrhau bod y Cynulliad yn ymddwyn fel fforwm democrataidd arloesol.
Yn y pen draw – eich Cynulliad chi ydyw. Rydym ni’n awyddus i glywed eich barn ar sut y gall y Cynulliad gyfathrebu orau â phobl Cymru. Anfonwch e-bost atom ni ar digisenedd@assembly.wales gan roi eich barn. Rydym yn awyddus i glywed gennych – wedi’r cyfan, mae’n flwyddyn fawr ar gyfer y Cynulliad. Ym mis Mai, bydd y Cynulliad yn dathlu ei ben-blwydd yn 18 oed. Dyna garreg filltir mewn unrhyw fywyd.
Mae Leighton Andrews yn cadeirio Tasglu Newyddion Digidol y Llywydd.
Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau‘n treulio llawer o amser yn siarad â phobl yn y byd busnes yng Nghymru. Ardrethi busnes yw un o’r materion sy’n codi ei ben yn aml gan ennyn ymateb cryf.
Roedd hefyd yn rhywbeth a gododd yn gyson yn ein hymgynghoriad yn ystod yr haf wrth inni ofyn i bobl pa waith y dylai’r Pwyllgor ei flaenoriaethu. Am y rheswm hwnnw, penderfynodd y Pwyllgor gynnal sesiwn undydd cynnar yn edrych ar ardrethi busnes yng Nghymru. Cynhaliwyd y sesiwn ar 5 Hydref, ychydig ddyddiau ar ôl cyhoeddi manylion ailbrisio ardrethi busnes yng Nghymru.
Brecwast Busnes i glywed sylwadau pobl o bob cwr o Gymru
Gwahoddodd y Pwyllgor drawstoriad o gynrychiolwyr busnes am frecwast yn y Byd Cychod ym Mae Caerdydd ddydd Mercher i glywed eu barn ar y pwnc.
I sicrhau ein bod yn cael y darlun llawn gan fusnesau ledled Cymru, gwnaethom ffilmio cyfweliadau â busnesau ledled y wlad, er mwyn dangos fideo byr i’r sawl oedd yn bresennol, gan grynhoi rhai o’r materion allweddol i ysgogi trafodaeth.
Trafododd y busnesau yr anawsterau iddynt eu profi, gan awgrymu ffyrdd o wella’r system ar gyfer busnesau bach a chanolig. Dyma rai o’r materion a godwyd yn y fideo:
Byddai wedi bod o gymorth pe byddem wedi cael mymryn o seibiant, yn enwedig yn ystod y chwe mis pan nad oeddem yn masnachu. Nid oedd unrhyw arian yn dod i mewn, dim ond arian yn cael ei wario a ninnau’n dal i dalu ardrethi busnes…
Pan rydym yn talu ardrethi busnes, nid ydym yn cael unrhyw beth yn ôl…felly mae ardrethi busnes yn gost i’r busnesau heb gael unrhyw beth yn ôl o gwbl.
Byddai polisi ardrethi busnes llwyddiannus yn cael ei seilio ar gyfrifiad o broffidioldeb cwmni yn hytrach na gwerth ardrethadwy’r eiddo y maent yn gweithio ynddo ar hyn o bryd neu’r lleoliad y maent yn dymuno symud i mewn iddo.
Yn ystod y digwyddiad, y pynciau trafod mwyaf oedd sut mae ardrethi’n cael eu cyfrifo; yr hyn y caiff yr arian ei wario arno; p’un a oes modd gostwng ardrethi i hyrwyddo datblygiad economaidd, a sut y gellid gwneud hynny; materion yn ymwneud yn benodol â chost buddsoddi mewn cyfarpar (e.e. trwy ddiwydiannau mawr fel gwaith dur); gwrthdaro rhwng y stryd fawr a siopau y tu allan i’r dref; a sut y dylai bythynnod gwyliau gael eu hasesu.
Beth ddigwyddodd ar ôl y sesiwn frecwast?
Yn ddiweddarach y bore hwnnw, cynhaliodd y pwyllgor gyfarfod ffurfiol yn y Senedd, gan gymryd tystiolaeth yn gyntaf gan banel o arbenigwyr, ac yna gan Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, sy’n gyfrifol am ardrethi busnes yng Nghymru. Roedd y sesiwn, sydd ar gael i’w gwylio ar Senedd.tv yn pwysleisio’r angen am fwy o gysondeb a thryloywder mewn ardrethi busnes, ynghyd â system apelio well, ac eglurder ynghylch unrhyw newidiadau a allai godi yn y dyfodol.
Yn ystod y sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog, cyfeiriodd yr Aelodau sawl gwaith at yr hyn iddynt ei glywed gan fusnesau dros frecwast ac yn y cyfweliadau fideo.
Y camau nesaf
Yn y sesiwn frecwast, mynegodd rhai o’r cyfranogwyr fod ganddynt ragor o wybodaeth yr hoffent ei rannu â’r pwyllgor. Maent wedi cael gwahoddiad i fynegi hynny’n ysgrifenedig.
Ar ôl i’r Pwyllgor ystyried unrhyw wybodaeth ychwanegol, bydd yn trafod ei gasgliadau, ac yna’n ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid gydag argymhellion ar gyfer gwella’r drefn bresennol.
Cadwch mewn cysylltiad
Sefydlwyd y Pwyllgor i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar faterion fel datblygu economaidd; trafnidiaeth; seilwaith; cyflogaeth; sgiliau; ac ymchwil a datblygu, gan gynnwys technoleg a gwyddoniaeth.
Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor drwy ein dilyn ni ar Twitter @SeneddESS.
Yn ddiweddar, cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, sydd newydd ei ffurfio, ddigwyddiad yng Nghaerdydd i groesawu rhanddeiliaid.
Pwrpas y digwyddiad oedd rhoi cyfle i randdeiliaid gyfarfod ag Aelodau newydd y Pwyllgor ac i siarad â hwy am eu blaenoriaethau a’u dyheadau ar gyfer y Pwyllgor.
I ddechrau, bu unigolion o sefydliadau megis Gyrfa Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach, Trenau Arriva Cymru, Network Rail a Colegau Cymru yn gwylio cyfarfod y Pwyllgor yn y Senedd. Roedd hyn yn gyfle i glywed Aelodau’r Pwyllgor yn holi Ken Skates AC, Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, gwrando ar ei flaenoriaethau a dysgu am gynnwys ei bortffolio.
Yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor, cyfarfu rhanddeiliad ag Aelodau’r Pwyllgor yng Nghanolfan yr Urdd lle cynhaliwyd digwyddiad ar ffurf ‘rhwydweithio carlam’.
Neilltuwyd bwrdd i randdeiliaid o sectorau gwahanol ac Aelodau’r Cynulliad ar y Pwyllgor.
Cafwyd trafodaethau ynghylch agweddau gwahanol ar gylch gwaith y Pwyllgor.
Trafodwyd yr angen i’r Pwyllgor edrych ar opsiynau gwahanol er mwyn gwneud newidiadau i ardrethi busnes a hefyd yr angen i ystyried rhanbarthau dinasoedd, eu pwrpas a pa ddulliau fyddai eu hangen arnyn nhw i fod yn llwyddiannus.
Roedd y trafodaethau am drafnidiaeth yn cynnwys trafod paratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer masnachfraint rheilffyrdd nesaf Cymru ac ystyried pa welliannau sydd wedi’u gwneud i drafnidiaeth gyhoeddus integredig.
Wrth drafod sgiliau cododd cwestiynau ynghylch a yw Cymru yn hyfforddi’r bobl gywir ar gyfer y sgiliau cywir. Trafodwyd hefyd doriadau Llywodraeth Cymru i gyllideb Gyrfa Cymru ac effaith hyn ar rôl a chylch gwaith y sefydliad.
Bydd y Pwyllgor nawr yn mynd ati i ystyried y pwyntiau a godwyd yn ystod y digwyddiad er mwyn llywio a siapio ei waith yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Beth yw strategaeth gyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer marchnata a hyrwyddo Cymru i’r byd?
Beth yw brand Cymru? Pa mor llwyddiannus yw ymdrechion i hyrwyddo atyniadau yng Nghymru i dwristiaid?
A yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i ddenu buddsoddwyr?
A yw Llywodraeth Cymruyn llwyddoI gyfleu delwedd o Gymru sy’n apelio i dwristiaido’r DU ac o dramor?
A ywdiwylliant Cymreig yn ddigon gweladwyy tu allan i Gymru?
Pa farchnadoedd neu nwyddau ddylid eu blaenoriaethu?
Caiff agenda lawn ei llwytho i dudalen y Pwyllgor ar y we unwaith iddi gael ei chadarnhau.
Mae’r rhan fwyaf o Bwyllgorau’r Cynulliad yn cyfarfod yn wythnosol i graffu ar waith Llywodraeth Cymru yn fanwl, ond mae’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn canolbwyntio ar bynciau eang ynghylch unrhyw weledigaeth strategaeth ganolog yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.
Sut ydw i’n cymryd rhan ar-lein?
Gallwch gyflwyno eich cwestiwn neu sylw i’r Pwyllgor ynghylch ‘Cymru yn y Byd Ehangach’ fel a ganlyn:
Ar Twitter – Dilynwch @CynulliadCymru ar Twitter ac ymatebwch i unrhyw negeseuon ynghylch y pwnc hwn gan ddefnyddio’r hashnod #GofynPrifWein. Hefyd, mae croeso ichi anfon neges uniongyrchol os hoffech i’ch neges fod yn gyfrinachol.
Ar Facebook – ‘Hoffwch’ dudalen y Cynulliad ar Facebook a gadewch neges ar unrhyw ddiweddariad statws perthnasol. Os nad ydych yn gweld diweddariad statws perthnasol, gallwch ysgrifennu neges ar y dudalen gyda’r hashnod #GofynPrifWein.
Ar YouTube– Beth am ffilmio eich hun yn gofyn eich cwestiwn ac anfon linc i’r fideo drwy unrhyw un o’r sianeli uchod?
Ar Instagram – Os gallwch fynegi’ch barn mewn ffordd greadigol weledol, carwn weld eich cyflwyniadau. Tagiwch gyfrif Instagram y Senedd yn eich llun neu ddefnyddiwch yr hashnod #GofynPrifWein. Fel arall, gallwch wneud sylwadau ar unrhyw un o’n cyflwyniadau ar Instagram, eto gan ddefnyddio’r hashnod #GofynPrifWein.
Sylwadau – Beth am adael neges ar y blog hwn yn awr?
Beth sy’n digwydd nesaf?
Byddwn yn coladu’r ymatebion a’u trosglwyddo at David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor. Bydd y Pwyllgor wedyn yn eu cynnwys yn ei gwestiynau i Carwyn Jones, y Prif Weinidog. Gallwch ddod i wylio’r cyfarfod yn fyw, ei wylio ar-lein ar Senedd.TV neu ddarllen y trawsgrifiad. Byddwn yn rhoi gwybod ichi os atebwyd eich cwestiwn. Cynhelir y cyfarfod yn Abertawe am 10.30 ar 16 Hydref yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Edrychwn ymlaen at glywed eich barn!
“You can see the extraordinary beauty, the wonderful people and great hospitality, so I’d encourage everybody in the States to come and visit Wales.”
– Yr Arlywydd Barack Obama
Yn Ebrill 2015 gwelwyd Llywodraeth Cymru’n dechrau gweithredu ei fframwaith ar fuddsoddi ar y cyd mewn sgiliau. Mae’r fframwaith hwn yn newid y ffordd y mae hyfforddiant, sgiliau a phrentisiaethau yn cael eu hariannu yng Nghymru.
Mae’r dull newydd o fuddsoddi mewn sgiliau yn golygu bod cyfanswm y gost o hyfforddi, mewn termau arian parod, yn cael ei rhannu rhwng dau neu fwy o bobl. I fusnesau neu unigolion sy’n cyflogi prentisiaid neu’n cynnig hyfforddiant ar waith, mae’r newid yn golygu bod rhaid cynyddu eu cyfraniadau ariannol i dalu’r gost o hyfforddiant sgiliau yn eu gweithle.
William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes
Cynhaliodd y Pwyllgor cyfarfodydd busnes brecwast yng Ngogledd a De Cymru er mwyn archwilio’r materion hyn ymhellach. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ym Mragdy Brains, Caerdydd gydag amrywiaeth o gynrychiolwyr o’r sectorau academaidd, hyfforddiant a busnes.
Dyma Gwawr Thomas, o Creative Skillset Cymru, yn sôn am gymryd rhan yn y digwyddiad ac yn egluro pwysigrwydd buddsoddi ar y cyd mewn sgiliau o fewn y diwydiannau creadigol.
Trafododd cyfranogwyr yr angen i ystyried y gwahanol lefelau o gymorth ariannol ar gael i amrywiaeth o fusnesau all fod yn gweithredu ar wahanol raddfeydd. Gall buddsoddiad cynyddol gan gyflogwyr golygu bod y busnesau hynny yn dewis ymgeiswyr sydd â phrofiad – a allai weld iddynt esgeuluso ymgeiswyr ifanc ac yn gweld y polisi yn gweithio yn erbyn nôd Llywodraeth Cymru.
Dylan’s, Porthaethwy – Ynys Môn
Cynhaliwyd yr ail gyfarfod busnes brecwast ym mwyty Dylan’s, Ynys Môn gyda darparwyr hyfforddiant a chynrychiolwyr busnes lleol. Iwan Thomas, Arweinydd Sgiliau Rhanbarthol a Chyflogaeth ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru oedd un o’r gwahoddedigion. Un neges allweddol oedd arno eisiau mynegi oedd i Lywodraeth Cymru ystyried dull rhanbarthol o fuddsoddi ar y cyd, a sut dylai cymryd y newid polisi ymlaen.
Ar ôl cynnal y ddau cyfarfod brecwast, mae’r Pwyllgor Menter a Busnes wedi danfon llythyr o argymhellion Julie James AC, Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg i’w hystyried o ran y newid polisi. Mae modd i chi ddarllen y llythyr sydd yn cynnwys yr argymhellion yma: http://bit.ly/1VIM4am
Yn ystod wythnos olaf mis Mawrth bu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Wrecsam yn cynnal wythnos o ddigwyddiadau #SeneddWrecsam. Yma, mae Lowri Lloyd Williams, Rheolwr Allgymorth Gogledd Cymru yn rhedeg drwy ddigwyddiadau’r wythnos.
Dydd Llun 23 Mawrth 2015
Mi ddechreuodd #SeneddWrecsam gyda bws y Cynulliad wedi ei pharcio yn Sgwâr y Frenhines, ble cafwyd nifer o ymwelwyr yn ystod y dydd. Mr Pugh oedd ein hymwelwr cyntaf, galwodd heibio ar ei ffordd i nôl llaeth i’w wraig i nodi materion yn ymwneud a thrafnidiaeth. Roedd Mr Pugh yn poeni am gyflwr arwynebedd y ffordd yn ogystal ag effeithiau’r gwaith ar yr A55 ar yr ardal. Roedd costau parcio hefyd yn bwynt yr hoffai Mr Pugh ei godi gyda’r Cynulliad.
Materion eraill a nodwyd yn ystod y dydd oedd cyflymder band llydan, codi ymwybyddiaeth o waith y Cynulliad a materion yn ymwneud ag iechyd, yn benodol gwasanaethau cancr y fron.
Yn ogystal daeth Andrew Atkinson a Alex Jones o Grŵp Busnes Wrecsam i’r bws i drafod materion ynglŷn â threthi busnes. Dyma fideo a gynhyrchwyd yn nodi eu pryderon.
Yr ail ddiwrnod o #SeneddWrecsam ac roedd bws y Cynulliad yn ôl yn Sgwâr y Frenhines, a phobl Wrecsam yn manteisio ar gael y Cynulliad yn eu hardal, ac yn parhau i ymweld â ni gyda digon o gwestiynau, sylwadau a materion i’w codi.
Roedd iechyd unwaith eto yn bwnc poblogaidd gydag amseroedd aros, gwasanaethau trawsffiniol a phresgripsiwn am ddim yn bynciau a drafodwyd. Cyfeiriwyd y bobl a chododd y materion hyn at eu Haelodau Cynulliad i drafod y materion ymhellach ac i edrych ar waith y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Roedd yn bleser cael ymweliad gan fyfyrwyr Bagloriaeth Cymru St Christopher’s School, Wrecsam yn ystod y bore. Yn dilyn cyflwyniad byr ynglŷn â’r Cynulliad, fe gafwyd dadl ynglŷn â gostwng yr oedran bleidleisio i 16 mlwydd oed fel rhan o ymgynghoriad Pleidleisio@16? Gellwch ddarganfod mwy am yr ymgynghoriad yma. Roedd y bobl ifanc yn credu y dylai pobl ifanc gael mwy o gyfle i ddysgu am wleidyddiaeth a dylai Aelodau Cynulliad ymrwymo i gael pobl ifanc yn eu cysgodi.
Pobl ifanc St Christopher School, Wrexham yn mwynhau ar y bws.
Yn dilyn hyn, daeth Lynn Morris a Yvonne McCarroll o Grŵp Tenantiaid Wrecsam ymlaen ar y bws i holi ynglŷn â ffyrdd y gallai tenantiaid gymryd rhan a dweud eu dweud ar faterion sydd yn effeithio arnynt. Fel aelod o’r tîm allgymorth yng Ngogledd Cymru, mi roddodd hyn gyswllt newydd i ni yn ardal Wrecsam y gellir cysylltu wrth weithio ar ymgynghoriadau gyda Phwyllgorau’r Cynulliad yn y dyfodol.
Tra roedd rhai o’r tîm ar fws y Cynulliad, roedd eraill yn y Foyer Wrecsam yn siarad ag aelodau’r clwb brecwast. Roeddynt yn awyddus i glywed pwy sy’n eu cynrychioli a sut y gallant fynegi eu pryderon. Roeddynt hefyd yn awyddus i ddysgu am y broses bleidleisio a sut i gofrestru i bleidleisio. Gellwch glywed Courtney ag Amy yn siarad amdano yma:
Nos Fawrth aethom i weld bobl ifanc yn y Vic yn Wrecsam i gynnal sesiwn oedd yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â beth yw’r Cynulliad, pwy yw eu Haelodau Cynulliad a sut maent yn eu cynrychioli. Roedd aelodau eraill o’r tîm gyda Dynameg Wrecsam yn cynnal sesiwn ryngweithiol debyg.
Dydd Mercher 25 Mawrth 2015
Roeddem wedi trefnu i gael presenoldeb y Cynulliad yn adeilad Galw Wrecsam ar gyfer #SeneddWrexham dydd Mercher ac fe gymerodd pobl y cyfle i siarad â staff y Cynulliad wrth iddynt ymweld â Chyngor Wrecsam ar gyfer materion eraill.
Rydym gennym hefyd bresenoldeb yn siop Info Wrecsam i roi cyfle i bobl ifanc gwblhau’r Ymgynghoriad Pleidleisio@16. Cawsom gyfarfod gyda phobl ifanc hynod ddiddorol oedd a safbwyntiau a barn gref am y pwnc. Treuliwyd cryn amser gyda Lacey, 22, o Wrecsam, sydd yn erbyn gostwng yr oed pleidleisio gan nad yw pobl ifanc yn derbyn digon o addysg ac felly nad oes ganddynt ddigon o wybodaeth i bleidleisio.
Ymwelwyd hefyd â BAWSO yn ystod y bore i gynnal sesiwn yn egluro’r meysydd sy’n effeithio ar eu bywyd y mae’r Cynulliad yn gyfrifol amdanynt, pwy sy’n eu cynrychioli a sut y gallant godi materion gyda’r Cynulliad.
Sesiwn gyda BAWSO
Parhau gyda’r sesiynau wnaeth y tîm ar brynhawn dydd Mercher gan ymweld â sefydliad Chymorth i Fenywod Cymru yn Wrecsam gan gynnal sesiwn ar ddealltwriaeth ac ymgysylltu â’r Cynulliad. Roedd yn sesiwn diddorol gyda digon o drafodaeth yn codi o’r pwyntiau a godwyd. Dyma’r hyn oedd gan Alison Hamlington i ddweud yn dilyn y sesiwn:
Dydd Iau 26 Mawrth 2015
Pedwerydd diwrnod #SeneddWrecsam ac roedd y gweithgareddau a’r digwyddiadau yn parhau ym mhob rhan o’r dref. Roeddem yn Coleg Cambriable roedd myfyrwyr yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad Pleidleisio@16 drwy’r dydd. Cafodd dros 300 o holiaduron ymgynghori eu cwblhau yn ystod y dydd. Ewch i’n gwefan Dy Gynulliadam ddiweddariad o ddatblygiad y gwaith hwn.
Yn ogystal, roeddem wedi sefydlu gorsaf ffilmio yn llyfrgell Coleg Cambria, ble roedd myfyrwyr cyfryngau yn cyfweld a’u cyfoedion yn trafod gostwng yr oedran pleidleisio i 16. Roedd y myfyrwyr yn gwneud yr holl ffilmio eu hunain, ac roedd cyfle i drafod materion eraill hefyd, gan gynnwys a ddylid gwneud pleidleisio yn orfodol i bobl ifanc ac yw pobl ifanc yn cael digon o wybodaeth am wleidyddiaeth. Gallwch weld fideos hyn drwy’r rhestr chwarae yma:
Roedd y myfyrwyr yn gyfrifol am gymryd awenau ein gwefan Dy Gynulliad hefyd, gan sicrhau bod cynnwys y wefan sy’n anelu at bobl ifanc. Gallwch weld lluniau o’r diwrnod yn ein halbwm Flickr.
Draw ym Mhrifysgol Glyndŵr yn ystod y prynhawn, roedd Llywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler AC yn cwrdd â phobl ifanc ardal Wrecsam i drafod y sgwrs genedlaethol Pleidleisio@16. Cafodd y digwyddiad ei drefnu mewn partneriaeth â Senedd yr Ifanc Wrecsam.
Mi wnaethom hefyd lwyddo i wasgu mewn dau sesiwn ymgysylltu arall- un ag aelodau staff Cyngor Wrecsam ac un arall gyda grŵp Jig-so Parc Caia ble ymunodd Dirprwy Lywydd y Cynulliad, David Melding AC a ni.
Daeth y diwrnod i ben gyda derbyniad #SeneddWrecsam gyda thua 70 o bobl lleol yn bresennol i ddathlu gwaith Hyrwyddwyr Cymunedol Wrecsam. I sain gerddorion Coleg Cambria fe gafwyd ddigon o rwydweithio rhwng gwleidyddion, arweinwyr dinesig ac arweinwyr cymunedol yn ystod y noson.
Dydd Gwener 27 Mawrth 2015
A dyma gyrraedd diwrnod olaf #SeneddWrexham gyda diwrnod prysur arall i’r tîm.
Dechreuodd Dydd Gwener gydag ein swyddogion addysg yn Ysgol Uwchradd Rhosnesni ble roedd dros 150 o bobl ifanc yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad Pleidleisio@16. Dilynwyd y sesiwn hyn â sesiwn gyda Chyngor yr Ysgol, ble ymunodd y Dirprwy Lywydd David Melding AC â’r cyfarfod i drafod materion yr oeddynt wedi ymdrin â nhw o fewn y cyngor yn ystod y 12 mis diwethaf.
Y Cyngor Ysgol yn nodi eu barn i Pleidleisio@16.
Ar ôl treulio’r bore ar ein stondin ym Mhrifysgol Glyndŵr, treuliais y prynhawn gyda grŵp Hafal yn Wrecsam gan gynnal gweithdy olaf yr wythnos. Yr oedd yn sesiwn ryngweithiol gyda digon o drafodaeth ac ymunodd Aled Roberts AC a ni i siarad am ei rôl fel Aelod Cynulliad.
Criw Hafal ar ôl y cyflwyniad.
Yn y cyfamser, draw ym Mhrifysgol Glyndŵr roedd aelodau o’r Cynulliad Cenedlaethol Cymru a staff Phrifysgol Caerdydd yn cwrdd â myfyrwyr, blogwyr lleol a newyddiadurwyr. Roedd y digwyddiad yn rhan o waith Diffyg Democrataiddy Llywydd, i geisio helpu newyddiadurwyr cymunedol o amgylch Cymru i gael gafael ar wybodaeth am y Cynulliad yn haws.
Mae’r Llywydd, Y Fonesig Rosemary Butler AC wedi ymrwymo i weithio tuag at fynd i’r afael a’r “Diffyg Democrataidd” sydd wedi ei achosi gan y nifer fawr o bobl yng Nghymru sy’n darllen neu’n gwylio newyddion a materion cyfoes gan ddarlledwyr a sefydliadau cyfryngau’r DU sydd yn aml yn anwybyddu’r gwahaniaethau ym mholisi cyhoeddus Cymru o’i gymharu â Lloegr.
Cafodd newyddiadurwyr, gan gynnwys llawer o’r Ysgol Newyddiaduraeth Glyndŵr y cyfle i gyfweld â’r Llywydd a’r Dirprwy Lywydd. Fe gafwyd hefyd gyfle i fynychu digwyddiad ar ffurf arddull gynhadledd i’r wasg gyda’r Llywydd.
Hoffem ddiolch i bawb a wnaeth ymwneud â ni yn ystod yr wythnos ac am y croeso cynnes a gawsom yn Wrecsam.
Mae roedd yn wythnos wych gyda llawer o waith a chysylltiadau da wedi eu gwneud yn yr ardal.
Gallwch weld lluniau o’r wythnos yn ein halbwm Flickr.
Os hoffech chi i ddysgu mwy am waith y tîm allgymorth yng Ngogledd Cymru, yna gallwch gysylltu â’r Cynulliad ar 0300 200 6565 neu cysylltu@cynulliad.cymru.
Teithiodd Darren Millar AC, Janet Finch-Saunders AC a Chadeirydd y Pwyllgor David Rees AC i Wrecsam.
Cychwynnwyd y diwrnod gydag ymweliad â’r prosiect LOTS (Life on the streets) sydd yn brosiect a sefydlwyd gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW). Cafodd yr Aelodau y cyfle i siarad â phobl y mae sylweddau seicoweithredol newydd wedi effeithio arnynt, gan drafod effaith y sylweddau hynny arnynt, pa mor hawdd yw cael gafael ar y sylweddau ac i drafod ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru fynd ati i fynd i’r afael â’r broblem.
Ar ôl ymweld â phrosiect LOTS, cyfarfu’r Aelodau â staff Dan 24/7, sef llinell gymorth cyffuriau ac alcohol Cymru a ariennir yn gyhoeddus. Trafodwyd nifer y galwadau a gaiff y llinell gymorth o ddydd i ddydd a’r ffordd y caiff y llinell gymorth ei hysbysebu i bobl Cymru ar hyn o bryd.
Cynhaliwyd trafodaeth olaf y diwrnod ym Mhrifysgol Glyndŵr, lle bu staff rheng flaen o’r GIG, yr heddlu, elusennau a nifer o sefydliadau amrywiol eraill sydd ar hyn o bryd yn ymdrin â phroblemau sylweddau seicoweithredol newydd. Parhaodd y trafodaethau hyn am awr, ac yna bu pob Aelod Cynulliad yn cyfleu’r prif bwyntiau o’u bwrdd i weddill y gynulleidfa.
Y prif bwyntiau a drafodwyd oedd:
A yw argaeledd a gallu’r gwasanaethau sydd yn rhoi cymorth i ddefnyddwyr sylweddau seicoweithredol newydd yn ddigonol, a sut y gellid gwella’r gwasanaethau hyn?
Pa ffactorau a dulliau gweithredu gwahanol sydd angen eu hystyried wrth ymdrin â’r defnydd o sylweddau seicoweithredol newydd mewn ardaloedd gwledig / trefol?
A yw lefel y cydgysylltu, o fewn Cymru a rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wrth ymdrin â mater y sylweddau seicoweithredol newydd yn ddigonol, a beth sydd angen ei wneud i wella’r partneriaethau hyn?
Pa ysgogiadau amrywiol y dylid eu defnyddio er mwyn mynd i’r afael â sylweddau seicoweithredol newydd, er enghraifft, deddfwriaeth, gweithgarwch gorfodi (safonau masnach) ac ati?
Yn ne Cymru bu i John Griffiths AC, Kirsty Williams AC, Lynne Neagle AC, Gwyn Price AC a Lyndsay Whittle AC ymweld â Drugaid Cymru yng Nghaerffili i drafod materion yn ymwneud â sylweddau seicoweithredol newydd gyda staff a defnyddwyr gwasanaethau. Yn hwyrach ymlaen bu i Aelodau ymweld â grwp o bobl ifanc sydd wedi bod yn rhan o brosiect ffilmio a elwir yn ‘Choices’ drwy gynllun Fixers a Phrosiect Ieuenctid Forsythia ym Merthyr Tudful. Mae’r ffilm hon yn archwilio effeithiau defnyddio sylweddau seicoweithredol newydd ar bobl ifanc a’u teuluoedd; gallwch wylio’r fideo yma:
Fel yn Wrecsam, daeth y diwrnod ym Merthyr i ben gyda thrafodaethau grwpiau ffocws. Mae’n bosib gweld lluniau o’r grwpiau ffocws ym Merthyr yma:
Gallwch wylio clipiau fideo gan Aelodau Cynulliad a rhai a oedd yn bresennol yn y digwyddiad yma:
Mae’r Pwyllgor wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig tan ddydd Gwener 17 Hydref, 2014. I gael rhagor o wybodaeth am sut i gyflwyno tystiolaeth ewch i’n gwefan:
Bydd y Pwyllgor hefyd yn mynd ati i glywed tystiolaeth lafar gan amryw o sefydliadau ac unigolion, a hefyd gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y Senedd ym Mae Caerdydd. Bydd y sesiynau yma yn cael ei gynnal ar 6, 12, a 26 Tachwedd. Mae’n bosib i chi wylio’r sesiynau ar senedd.tv neu mae’n bosib archebu sedd yn y galeri cyhoeddus wrth gysylltu â llinell archebu’r Cynulliad.
Gallwch gadw i fyny gyda ymchwiliad y Pwyllgor wrth ddilyn @iechydsenedd ar trydar neu ymweld â tudalen Storify yr ymchwiliad. Bydd y ddau yn darparu diweddariadau rheolaidd ar gynnydd.
Mae rhoi grŵp o wyddonwyr, mathemategwyr, technegwyr a electronwyr ifanc yn yr un stafell yn syniad eithaf brawychus. Lwcus felly bod y cynulliad wedi trefnu i ni siarad dros y we.
Fy enw i yw Aled Illtud, dwi’n astudio Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cefais i, a nifer o fyfyrwyr STEM eraill, y cyfle i drafod ein pynciau a sut y gallwn wella neu gynnal gwahanol agweddau ohonynt. Cynhaliwyd y sgwrs ar Google Hangouts a chafodd nifer o eitemau ei drafod.
Cychwynnodd y sgwrs gydag Aelodau’r Pwyllgor Menter a Busnes yn gofyn i ni pam dewisom ein cwrs, a ydy’r pwnc yn addo swydd ar ôl, a sut ydyn ni’n hoffi’r pwnc. Yn bennaf roeddwn i am ymladd am dwf yr iaith Gymraeg yn bynciau STEM sydd yn amlwg o’r we sgwrs sydd ar gael i chi ei ddarllen.
Beth synnodd fi’r mwyaf oedd pa mor frwdfrydig oedd y myfyrwyr eraill am gael eu lleisiau wedi clywed. Mae’n braf iawn cael gweld bod pobl yn poeni digon am ei bynciau i allu cael trafodaeth ddifyr am yr hyn sydd angen i newid neu gadw yn eu meysydd.
Braf oedd bod yn rhan o’r sgwrs hwn. Dwi’n awgrymu i bawb arall sy’n frwdfrydig am ei gwrs i gymryd mantais ar unrhyw gyfleoedd tebyg. Mynegwch farn, hybwch gynnydd yn eich pwnc!
Am rhagor o wybodaeth ar ymchwiliad dilynol y Pwyllgor Menter a Busnes i Sgiliau STEM yng Nghymru cliciwch yma:
Mae rhai o fusnesau a masnachwyr Cymru wedi cymryd rhan mewn cyfweliadau fideo’n ddiweddar gyda thîm Allgymorth y Cynulliad. Cymerodd saith o fusnesau ran mewn cyfweliad pan ofynnwyd i berchnogion busnes roi sylwadau ar y modd y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddiad, gan sôn yn benodol am y canlynol:
-y rhwystrau sy’n wynebu’r rhai sy’n ystyried allforio a pha mor effeithiol yw’r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru (a Llywodraeth y DU) i leihau’r rhwystrau hynny;
– manteision allforio;
– a oes gan farchnadoedd tramor ddealltwriaeth lawn o’r hyn y gall Cymru a busnesau Cymru ei gynnig.
Roedd y busnesau a gafodd eu cyfweld yn cynnwys amrywiaeth o wahanol ddiwydiannau (gan gynnwys gweithgynhyrchu: Trax JH Limited, bwyd a diod: Brecon Brewing a melysion: Bon Bon Buddies), ac roeddent yn dod o wahanol rannau o Gymru (gan gynnwys Ceredigion: Howies, Ynys Môn: Halen Môn, a Llanelli: WeldWide Solutions). Roedd pob busnes heblaw un yn allforio’u cynnyrch ar hyn o bryd, ac roedd rhai ohonynt wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru i’w helpu i fasnachu dramor, ond nid pob un.
Tom Vousden Design, cwmni dylunio dodrefn o Ynys Môn, oedd yr unig fusnes a gafodd ei gyfweld nad oedd yn allforio ar hyn o bryd, a soniodd am ei ddymuniad i wneud hynny yn y pen draw, er y byddai’n hoffi i Lywodraeth Cymru ei gynorthwyo drwy nodi partneriaid mewn marchnadoedd tramor.
Cafodd pob cyfweliad ei olygu mewn pecyn fideo a rannwyd yn ôl y themâu a gododd yn ystod y trafodaethau, sef:
– Cymorth gan Lywodraeth Cymru;
– Canfyddiadau presennol o frand Cymru;
– Manteision masnachu’n rhyngwladol;
– Rhwystrau i fasnach ryngwladol; a
– Meysydd i’w gwella.
Disgrifiodd John Halle, Rheolwr Gyfarwyddwr Trax JH Limited y profiad:
“Rwy’n falch iawn i mi gael y cyfle i sôn am fewnfuddsoddiad a Llywodraeth Cymru …
Yr hyn yr hoffwn ei ddweud wrth bobl sy’n ystyried allforio… gallai Llywodraeth Cymru geisio denu rhagor o bobl sydd â phrofiad ym maes allforio, rhai sydd wedi goresgyn problemau, wedi mentro ac wedi llwyddo… a’u defnyddio nhw i siarad â phobl oherwydd eu bod yn gallu rhoi enghreifftiau o sut y mae pethau yn y byd go iawn”.
Bydd y Pwyllgor yn awr yn ystyried cynnwys y fideo ynghyd â’r wybodaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd, a’r cyfarfodydd a gafwyd gyda chyrff a busnesau perthnasol yn y Senedd. Bydd y Pwyllgor yn cael cyfle i holi tystion gan gynnwys cyfrifoldeb y Gweinidog, arbenigwyr polisi a chynrychiolwyr eraill.