‘Gwnewch addewid i’r blaned’ yw’r thema ar gyfer Awr Ddaear eleni, a gynhelir ddydd Sadwrn 24 Mawrth rhwng 20:30 a 21:30. Bydd y Cynulliad yn cymryd rhan yn Awr Ddaear eleni drwy ddiffodd goleuadau’r Senedd, Ty Hywel a’r Pierhead. Mae llawer o’n Haelodau hefyd wedi gwneud addewid i WWF (Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd) i gefnogi’r ymgyrch.
Mae cynaliadwyedd yn bwysig i ni yn y Cynulliad, ac rydym wedi gosod cyfrifoldeb i ni leihau ein heffaith ar yr amgylchedd a gweithredu mewn ffordd sy’n gyfrifol yn amgylcheddol yn ein holl weithgareddau. Darllenwch fwy am sut yr ydym yn ymdrechu i wneud y Cynulliad yn gynaliadwy nawr ac yn y dyfodol.
Sut rydym yn sicrhau bod y Senedd yn gynaliadwy
Gwresogi
System gwresogi geothermig sy’n cael ei defnyddio i helpu i wresogi’r Senedd. Mae dŵr yn cael ei bwmpio 100 metr i lawr drwy 27 o dyllau turio lle mae gwres naturiol y ddaear yn ei dwymo. Yna, caiff y dŵr ei bwmpio yn ôl i help i yn ein system gwresogi. Cefnogir y broses hon gan boeler biomas sy’n defnyddio pren sy’n gynaliadwy o bob cwr o’r DU i ddarparu ffynhonnell tanwydd gymharol garbon niwtral.
Ym misoedd twymaf y flwyddyn, mae’r system yn gweithio fel arall. Wrth i’r dŵr gael ei bwmpio i lawr, mae’r ddaear yn gweithredu fel dalfa gwres. Yna, bydd y dŵr oer yn cael ei bwmpio’n ôl i oeri’r adeilad.
Casglu dŵr glaw
Mae system casglu dŵr glaw y Senedd yn cael ei defnyddio yn y toiledau ac i lanhau’r adeilad. Mae hyn yn gweithio mor dda bod yr adeilad angen gwerth tua £40 o ddŵr y prif gyflenwad yn unig bob mis.
Caiff dŵr glaw sy’n disgyn ar do’r Senedd ei sianelu i du blaen yr adeilad. Yna mae dwy bibell yn ei gludo i danc lle mae’n cael ei hidlo trwy oleuadau uwchfioled (UV). Yna mae’r dŵr yn cael ei ddefnyddio yn y toiledau neu i lanhau’r ffenestri.
Mae rhagor o wybodaeth am ein harferion cynaliadwy ar gael yma.
Ymrwymo i ddefnyddio llai o blastig
Ar 1 Hydref 2011, cyflwynodd Cymru ofyniad i godi tâl am y rhan fwyaf o fagiau siopa untro. Hi oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny. Mae defnyddio llai o blastig yn fater byd-eang pwysig ac mae’r Cynulliad wedi ymrwymo i hyn. Rydym eisoes yn gwneud cynnydd da iawn yn hyn o beth, ac rydym eisoes wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio cwpanau coffi plastig ar ystâd y Cynulliad, tra’n ymrwymo i gael gwared â phlastigau tafladwy eraill dros y 6 mis nesaf lle bynnag y bo modd.
Prif bwyntiau cynaliadwyedd y Senedd
- Dyfarnwyd safon ardderchog BREEAM i’r Senedd am ei nodweddion amgylcheddol yn y cyfnod dylunio.
- Caiff y Senedd ei gwresogi gan gyfuniad o bwmp gwres o’r ddaear a sglodion pren a geir yn gynaliadwy, gyda nwy wrth gefn.
- Mae’r pwmp gwres o’r ddaear yn y Senedd yn cynnwys 27 o dyllau turio wedi’u drilio 100m i’r ddaear – maent yn caniatáu i ni dynnu rhywfaint o wres ar ddiwedd yr haf, a gwrthdroi’r broses i helpu i oeri’r adeilad yn y gwanwyn.
- Mae’r system casglu dŵr glaw yn golygu bod angen prynu gwerth tua £40 o ddŵr o’r prif gyflenwad yn unig bob mis.
- Mae defnyddio’r system gwresogi biomas wedi arbed mwy na 500 tunnell o allyriadau carbon deuocsid rhag cael eu cynhyrchu ers adeiladu’r Senedd.
- Mae’r Senedd yn cael ei hawyru’n naturiol; mae’r ffenestri’n agor eu hunain i newid tymheredd yr aer neu roi mwy o ocsigen i’r ystafelloedd.
- Mae’r cwfl ar do’r Senedd yn creu gwasgedd aer negyddol. Mae hyn yn caniatáu i awyr iach gael ei dynnu i fyny drwy’r adeilad, ac yn golygu nad oes angen ei oeri’n artiffisial yn ystod y misoedd cynhesach.
- Mae gosod goleuadau LED yn lle llawer o hen oleuadau’r Senedd yn y blynyddoedd diwethaf wedi arbed mwy na 50 tunnell o CO2.
- Mae’r ffaith bod llawer o wydr ac arwynebau adlewyrchol yn y Senedd yn golygu bod angen llai o oleuadau artiffisial. Os edrychwch i fyny pan fyddwch chi’n ymweld â’r Neuadd neu’r Oriel, ac mae’n eithaf tebygol y gwelwch fod y goleuadau i ffwrdd yn ystod y dydd.

Rydym wedi cael gwared â chwpanau coffi tafladwy, ac rydym yn defnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy gan gynnwys biomas, pwmp gwres ddaearol, ac yn fuan yn newid i drydan tariff gwyrdd.

Rydym yn gosod pwyntiau codi cerbydau trydan yr wythnos hon, ac yn archwilio’r posibilrwydd o gar pwll trydan.

Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno’r plastig tafladwy yn raddol lle bynnag y bo modd dros y 6 mis nesaf, a chompostio ein holl wastraff bwyd, gan gynnwys hynny o ddigwyddiadau.
Ymunwch â’r sgwrs yn ystod Awr Ddaear eleni gan ddefnyddio #AwryDdaear / #EarthHourWales a chadwch lygad am y diffodd byd-eang am 8.30pm ddydd Sadwrn 24 Mawrth.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy am yr agweddau amgylcheddol ar waith y Cynulliad, ewch i dudalennau’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, neu dilynwch y Pwyllgor ar Twitter @SeneddNHAMG.