Wythnos diwethaf, canolbwyntiodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol eu sylw ar Amaethyddiaeth a Physgodfeydd a’r goblygiadau i Gymru wrth gefn penderfyniad y DU i ymadael â’r UE.
Gallwch wylio’r sesiwn cyfan ar Senedd.TV.
Fel rhan o’r sesiwn, gwahoddwyd yr Aelodau banel o arbenigwyr i drafod eu barn ar y meysydd i’w blaenoriaethau yn y sectorau amaeth a physgodfeydd yn y negodi wrth i’r DU ymadael â’r UE, a’r heriau ar ôl i hyn ddigwydd.
Gallwch ddilyn y trafodaethau ar Twitter a Facebook gan ddefnyddio #BrexityngNghymru. I gadw golwg ar waith y Pwyllgor dilynwch @SeneddMADY.
Y prif faterion i Amaethyddiaeth
Caiff y polisïau sy’n effeithio ar ffermio yng Nghymru a’r gadwyn cyflenwi bwyd eu pennu i raddau helaeth gan yr UE drwy’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC), deddfwriaeth diogelwch bwyd a lles anifeiliaid a hefyd yn anuniongyrchol gan reolau Sefydliad Masnach y Byd (WTO).
Y PAC yw mecanwaith yr UE ar gyfer darparu cymorth uniongyrchol i ffermwyr, ar gyfer diogelu cefn gwlad ac i gefnogi datblygiad ardaloedd gwledig. Mae’r PAC yn rhedeg am gyfnod o saith mlynedd. O dan rownd bresennol PAC, 2014-2020, bydd Cymru’n derbyn tua £322 miliwn o gyllid y flwyddyn mewn taliadau uniongyrchol i ffermwyr yn ogystal â €355 miliwn ar gyfer ei rhaglen datblygu gwledig 2014-2020.
Llywodraeth Cymru sy’n uniongyrchol gyfrifol am weithredu’r PAC yng Nghymru, ac mae’n ofynnol iddi gydymffurfio â gwahanol Reoliadau’r UE sy’n gosod fframwaith cyfreithiol y polisi. Yn achos ffermwyr sy’n gymwys ar gyfer y PAC, mae hyn yn golygu mai Llywodraeth Cymru sy’n rheoli’r taliadau uniongyrchol a gânt.
Sut fyddai’r DU yn tynnu allan o’r PAC? A fyddai’n cael ei gyflwyno’n raddol dros gyfnod o amser neu’n dod i ben yn syth ar ôl i’r DU adael?
Mae’r sector amaethyddol yng Nghymru yn dibynnu’n drwm ar y cymorthdaliadau presennol y mae’n ei dderbyn o dan y PAC i wneud elw. Mae hyn yn arbennig o wir i ffermydd ucheldir. Croesawyd cyhoeddiad y Canghellor y bydd Llywodraeth y DU yn parchu’r lefelau presennol o daliadau uniongyrchol i ffermwyr tan 2020 gan yr undebau ffermio.
Fodd bynnag, mae rhai wedi galw am eglurder ynghylch sut mae unrhyw gronfa ddosbarthu ar ôl ymadael â’r UE, sydd yno’n cael ei ddyrenni i Lywodraeth Cymru ac wedyn gan Lywodraeth Cymru i ffermwyr Cymru. Yn ogystal, ceisiwyd eglurhad ynghylch y lefelau a’r mathau o unrhyw arian sydd ar gael ar ôl 2020.
Continue reading “Brexit yng Nghymru – Amaethyddiaeth a Physgodfeydd”