Tag: Addysg Uwch

Pa mor dda y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gwaith?

Mae hwn yn gwestiwn y bydd Aelodau yn y Cynulliad Cenedlaethol yn ei ofyn bob dydd, mewn cyfarfodydd pwyllgor, neu mewn  sesiynau’r Cyfarfod Llawn ym mhrif Siambr drafod y Senedd, ym Mae Caerdydd.

Os mai swydd Llywodraeth Cymru yw “helpu i wella bywydau pobl yng Nghymru a gwneud ein gwlad yn lle gwell i fyw a gweithio”, mae’n bwysig bod y Cynulliad yn clywed gan yr ystod eang o bobl yr effeithir arnynt gan y penderfyniadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud. Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corff sy’n gyfrifol am ddadansoddi pa mor dda y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny, wedi’r cyfan.

Mae’r modd y mae’r Cynulliad yn gwneud hyn wedi newid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig o ran gwaith pwyllgorau’r Cynulliad. Mae pobl yn parhau i ymateb i wahoddiadau i ysgrifennu at y Cynulliad i roi tystiolaeth. Mae unigolion, sefydliadau ac elusennau yn parhau i ymweld â’r Senedd i gael eu holi gan Aelodau’r Cynulliad mewn cyfarfodydd ffurfiol, er bod angen dulliau gwahanol i glywed gan gynulleidfaoedd gwahanol bellach.

Lluniau o Julie Morgan AC a Jocelyn Davies AC yn cymryd rhan mewn sgwrs ar y we gyda myfyrwyr ar Google Hangouts ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i Gyllido Addysg Uwch:

Lluniau o Julie Morgan AC a Jocelyn Davies AC yn cymryd rhan mewn sgwrs ar y we gyda myfyrwyr ar Google Hangout ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i Gyllido Addysg Uwch Lluniau o Julie Morgan AC a Jocelyn Davies AC yn cymryd rhan mewn sgwrs ar y we gyda myfyrwyr ar Google Hangout ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i Gyllido Addysg Uwch Lluniau o Julie Morgan AC a Jocelyn Davies AC yn cymryd rhan mewn sgwrs ar y we gyda myfyrwyr ar Google Hangout ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i Gyllido Addysg Uwch

Mae pobl ym mhobman yn byw bywydau cynyddol brysur, felly mae sicrhau bod cyfranogiad yng ngwaith y Cynulliad mor hawdd ac mor hygyrch â phosibl yn hanfodol ar gyfer ymgysylltu â’r amrywiaeth eang o bobl sy’n rhan o boblogaeth Cymru. Mae pwyllgorau’r Cynulliad wedi bod yn defnyddio sianelau digidol fwy a mwy i annog pobl i rannu eu barn gyda ni.

Rydym wedi defnyddio Google Hangouts i siarad â myfyrwyr am sgiliau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) a Chyllido Addysg Uwch, wedi ffilmio aelodau o’r cyhoedd ar iPad a dangos y ffilm fel tystiolaeth mewn cyfarfodydd pwyllgor ffurfiol ac wedi defnyddio Twitter i gael gafael ar gwestiynau i’w gofyn i Carwyn Jones AC , y Prif Weinidog ac arweinydd Llywodraeth Cymru.

Mae’r fideo a ganlyn yn dangos Rhun ap Iorwerth AC a Julie James AC yn cael eu cyfweld ar ôl cymryd rhan yn eu sgwrs gyntaf ar y we ar Google Hangout gyfer yr ymchwiliad i Sgiliau STEM:

Yn y misoedd diwethaf, rydym wedi defnyddio Loomio am y tro cyntaf, fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i edrych ar gamddefnyddio alcohol a sylweddau yng Nghymru. We-cais yw Loomio, sy’n cael i’w defnyddio i gynorthwyo grwpiau gyda phrosesau gwneud penderfyniadau cydweithredol.

Rhan allweddol o’r ymchwiliad oedd siarad yn uniongyrchol â’r bobl yr effeithir arnynt gan y materion hyn, ond mae rhai pobl yn ei chael yn anodd mynd i gyfarfodydd pwyllgorau swyddogol. Hefyd nid yw pawb yr effeithir arnynt yn gallu mynegi eu meddyliau a’u teimladau yn ysgrifenedig i’r Pwyllgor. Roedd Loomio yn caniatáu i’r Pwyllgor siarad â phobl, heb i bawb orfod bod yn yr un ystafell.

Defnyddiodd darparwyr gwasanaethau a chleientiaid y fforwm ar-lein i ddweud wrthym pa broblemau y maent wedi’u cael, a’r hyn y maent eisiau i Lywodraeth Cymru ei wneud i’w datrys. Dyma lun sy’n dangos rhai o’r cyfraniadau cawsom y drafodaeth:

Loomio: Dyma lun sy'n dangos rhai o'r cyfraniadau cawsom y drafodaeth

Ar ddiwedd y broses o gasglu tystiolaeth, ar ôl i’r Pwyllgor ystyried popeth y mae pobl wedi’i ddweud wrtho, bydd fel arfer yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru. Mae hyn er mwyn egluro pa gamau yr hoffai’r Pwyllgor weld Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella bywydau pobl yng Nghymru, ar sail y dystiolaeth a glywodd.

Mae hyn yn tueddu i fod ar ffurf adroddiadau swyddogol, a all fod yn eithaf hir, ond rydym yn ystyried gwahanol ffyrdd o gyflwyno adroddiadau pwyllgorau, i’w gwneud yn fyrrach ac yn haws i’w deall yn gymharol gyflym.

Mae’r fideo hwn yn enghraifft o un o’r fersiynau cryno hyn, ac fe’i gwnaed ar gyfer pobl a oedd yn cael eu ffilmio ar gyfer ymchwiliad i entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc: 

Yn fwy diweddar, rydym wedi defnyddio Adobe Slate i grynhoi adroddiad ar Dlodi yng Nghymru: https://slate.adobe.com/a/oZydK

Mae defnyddio sianeli a llwyfannau digidol wedi caniatáu i ni ymgysylltu â phobl yn haws ac yn fwy effeithiol nag o’r blaen.

Mae hefyd yn golygu y gall rhagor o bobl helpu’r Cynulliad i graffu ar berfformiad Llywodraeth Cymru, fel bod argymhellion y Cynulliad i Lywodraeth Cymru yn seiliedig ar y problemau a gaiff pobl yn eu bywydau bob dydd.

Rhannu arfer da wrth graffu (2)

Y Rheolwr Allgymorth Kevin Davies sy’n egluro…

Croeso nôl! Gosododd fy mlog cyntaf y cyd-destun ac egluro sut a pham y daeth Pwyllgor Craffu Cyngor Abertawe i ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru i drafod syniadau ynghylch ymgysylltu â’r cyhoedd ar graffu.

Ynddo, eglurais ein bod yn awyddus i chwilio am ffyrdd o annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn gwaith pwyllgor, boed hynny i helpu’r Cynulliad i graffu ar waith Llywodraeth Cymru, neu i helpu cynghorau lleol i graffu ar waith arweinwyr cynghorau. Rŷm yn rhannu’r un her… weithiau nid ydym yn clywed gan yr amrywiaeth o bobl y byddem yn hoffi clywed ganddyn nhw. I ddarllen pennod gyntaf fy mlog, cliciwch yma.

Yn y bennod hon, byddaf yn egluro sut rŷm ni yn y Cynulliad yn ceisio mynd i’r afael â’r mater hwn, gan gyfeirio at enghreifftiau ac astudiaethau achos.

Pecyn cymorth ymgynghori

Cefais fy mhlesio gan barodrwydd Cyngor Abertawe i ystyried syniadau, a’u hawydd i gynnwys y cyhoedd yn eu gwaith. Roeddwn yn deall rhai o’u pryderon (y mae pob sefydliad sector cyhoeddus arall yn ei rannu, rwy’n siŵr) yn ymwneud ag amser, ymdrech a’r adnoddau i’w wneud yn iawn. Fel sefydliad yn y sector cyhoeddus, mae hyn yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni yn y Cynulliad hefyd ei ystyried, ac mae’n saernïo’r mathau o weithgareddau y gallwn eu cynnig a’u cyflwyno.

Ychydig flynyddoedd yn ôl, cynhyrchwyd ein pecyn cymorth ymgynghori (PDF 5.82MB). Rhestr o ddulliau ymgysylltu yw’r pecyn cymorth ymgynghori sydd wedi ei ddefnyddio gan y Cynulliad Cenedlaethol ac wedi ei werthuso ar ôl ei ddefnyddio yn ôl cryfderau, gwendidau, awgrymiadau o amseroedd paratoi, costau ac ystyriaethau eraill. Mae’n rhestru’r gwahanol bethau y gall tîm Allgymorth y Cynulliad eu cyflawni wrth gynorthwyo pwyllgorau i ddod o hyd i fwy o bobl i gymryd rhan mewn ymgynghoriad. Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys llawer o opsiynau gwahanol, ffyrdd o gasglu barn (tystiolaeth) pobl gan gynnwys grwpiau ffocws, digwyddiadau, ffilmio cyfweliadau fideo, gwe-sgyrsiau ac arolygon.

Mae dod o hyd i bobl o wahanol gefndiroedd, a chlywed eu safbwyntiau yn helpu Aelodau’r Cynulliad i ddeall y materion a’r effaith y maen nhw’n ei gael ar fywydau pobl. Mae Aelodau Cynulliad (neu gynghorwyr o ran hynny) sydd a gwell gwybodaeth yn arwain at graffu gwell a pholisïau gwell, felly ni ddylid tanbrisio gwerth ymgysylltu â grŵp ehangach o bobl yn y broses hon.

Mae’r fideo hwn yn dangos Rhun ap Iorwerth AC a Julie James AC yn siarad am gymryd rhan mewn gwe-sgwrs gyda myfyrwyr ar Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Sgiliau Mathemateg yng Nghymru fel rhan o graffu pwyllgor:

Mae’r fideo hwn yn dangos pobl a gymerodd ran mewn cyfweliadau fideo ar gyfer  ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes ar entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc:

Efallai eich bod yn meddwl bod y pethau hyn yn costio llawer o arian. Mae defnyddio Google Hangouts i gynnal gwe-sgyrsiau yn rhad ac am ddim. Os ydych am ffilmio cyfweliadau fideo gyda phobl yn eich ardal chi, bydd iPad yn costio £200 i chi, a gallwch ei ddefnyddio i ffilmio pobl trwy dechnoleg manylder uwch, a gallwch ddefnyddio’r ap o’r enw iMovie i olygu’r ffilm. Gellir cynllunio, dylunio a hyrwyddo arolwg yn rhad iawn, trwy ddefnyddio Facebook, Twitter a chyfryngau eraill. Yn ddiweddar, rŷm wedi bod yn hyrwyddo ymchwiliad i Athrawon Cyflenwi yng Nghymru drwy bostiadau wedi eu hyrwyddo ar Facebook, a gostiodd £50 i ni dros gyfnod o bythefnos. Mae’r post hwn (hyd yn hyn) wedi ei rannu 117 o weithiau ac mae 39 o sylwadau wedi eu gwneud.

Dod o hyd i gyfranogwyr

Ystyriwch pwy ydych yn gweld/gweithio gyda nhw o ddydd i ddydd drwy’r gweithgareddau/gwasanaethau y mae eich sefydliad yn eu darparu o ddydd i ddydd. Yn y Cynulliad Cenedlaethol mae gennym staff cyfathrebu sy’n gweld pobl yn dod i’r Senedd, yn mynd i ysgolion, colegau a chlybiau ieuenctid, a grwpiau cymunedol ledled Cymru i esbonio beth mae’r Cynulliad yn ei wneud a sut y gallan nhw gymryd rhan. Rŷm ni’n defnyddio’r rhyngweithiadau hyn, y pethau yr ydym yn ei wneud o ddydd i ddydd, i egluro materion sy’n cael eu trafod yn y Cynulliad Cenedlaethol ar hyn o bryd, ac yn rhoi pobl â chyfleoedd uniongyrchol i ddweud eu dweud ar y pynciau hyn.

Pan fyddwn yn chwilio am bobl i gymryd rhan mewn gweithgarwch ymgysylltu ar gyfer ymgynghoriadau pwyllgor, byddwn yn cysylltu ag elusennau, mudiadau gwirfoddol, cyrff cynrychioliadol a grwpiau cymunedol yn rheolaidd. Mae cynghorau lleol yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau i wahanol grwpiau o bobl, felly gallai ymgysylltu â’r grwpiau sy’n bodoli eisoes fod yn ffordd gyflym a hawdd iawn i ehangu’r ystod o bobl a allai gyfrannu at eu gwaith craffu. Un peth wnaethon ni ar gyfer yr ymchwiliad Bill Trawsblannu Dynol oedd gadael taflenni ym meddygfeydd meddygon teulu, gan dargedu pobl ag anghenion penodol mewn maes penodol.

Adborth

Un o’r meysydd yr oedd gan griw Cyngor Abertawe ddiddordeb mawr ynddo oedd sut rŷm ni’n rhoi adborth i bobl sydd wedi cyfrannu drwy gydol y broses. Fe ddangoson ni rai enghreifftiau o sut rŷm wedi gwneud hyn, fel y fideo hwn sy’n esbonio beth wnaed â chanlyniadau arolwg i ailgylchu yng Nghymru , a’r fideo hwn sy’n esbonio sut y dylanwadodd yr hyn a ddywedodd pobl ifanc am entrepreneuriaeth ieuenctid ar adroddiad pwyllgor .

Mae ymrwymo i roi adborth i gyfranogwyr yn bwysig iawn, neu gallech ddadwneud yr holl waith da a wnaed yn ystod gweithgarwch ymgysylltu, drwy beidio â diweddaru pobl ar yr hyn yr arweiniodd eu cyfranogiad ato. Yn y Cynulliad, rŷm ni ar hyn o bryd yn edrych ar y ffordd yr ydym yn cyfathrebu â’r cyhoedd, yn arbennig sut yr ydym yn rhannu gwybodaeth am waith y pwyllgorau. Fel rhan o’r broses hon byddwn yn ystyried sut rŷm ni’n rhoi gwybod i bobl am y broses ymchwilio y maen nhw wedi bod yn rhan ohoni, a pha lwyfannau (boed hynny drwy ddefnyddio fideo, Storify neu e-bost syml) y dylem eu defnyddio wrth wneud hyn. Mae’n ymddangos bod Cyngor Abertawe a’r Cynulliad Cenedlaethol yn edrych ar y gwaith o grynhoi taith y cwsmer ar hyn o bryd, a gobeithio y gallwn gydweithio i wneud hyn. Mwy o newyddion i ddod.

Dyma le da i ddod â’r  blog hwn i ben. Bydd y cofnod nesaf yn edrych ar y broses gynllunio, a sut mae’r gwaith hwn yn digwydd tu ôl i’r llenni yn y Cynulliad er mwyn gwneud yr holl gyfleoedd ymgysylltu hyn yn bosibl.