Tag: Addysg a Sgiliau

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau – Digwyddiad Cyflwyno Rhanddeiliaid

Yn ddiweddar, cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, sydd newydd ei ffurfio, ddigwyddiad yng Nghaerdydd i groesawu rhanddeiliaid.

Pwrpas y digwyddiad oedd rhoi cyfle i randdeiliaid gyfarfod ag Aelodau newydd y Pwyllgor ac i siarad â hwy am eu blaenoriaethau a’u dyheadau ar gyfer y Pwyllgor.

I ddechrau, bu unigolion o sefydliadau megis Gyrfa Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach, Trenau Arriva Cymru, Network Rail a Colegau Cymru yn gwylio cyfarfod y Pwyllgor yn y Senedd. Roedd hyn yn gyfle i glywed Aelodau’r Pwyllgor yn holi Ken Skates AC, Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, gwrando ar ei flaenoriaethau a dysgu am gynnwys ei bortffolio.

Yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor, cyfarfu rhanddeiliad ag Aelodau’r Pwyllgor yng Nghanolfan yr Urdd lle cynhaliwyd digwyddiad ar ffurf ‘rhwydweithio carlam’.

Neilltuwyd bwrdd i randdeiliaid o sectorau gwahanol ac Aelodau’r Cynulliad ar y Pwyllgor.

Cafwyd trafodaethau ynghylch agweddau gwahanol ar gylch gwaith y Pwyllgor.

Trafodwyd yr angen i’r Pwyllgor edrych ar opsiynau gwahanol er mwyn gwneud newidiadau i ardrethi busnes a hefyd yr angen i ystyried rhanbarthau dinasoedd, eu pwrpas a pa ddulliau fyddai eu hangen arnyn nhw i fod yn llwyddiannus.

Roedd y trafodaethau am drafnidiaeth yn cynnwys trafod paratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer masnachfraint rheilffyrdd nesaf Cymru ac ystyried pa welliannau sydd wedi’u gwneud i drafnidiaeth gyhoeddus integredig.

Wrth drafod sgiliau cododd cwestiynau ynghylch a yw Cymru yn hyfforddi’r bobl gywir ar gyfer y sgiliau cywir. Trafodwyd hefyd doriadau Llywodraeth Cymru i gyllideb Gyrfa Cymru ac effaith hyn ar rôl a chylch gwaith y sefydliad.

Bydd y Pwyllgor nawr yn mynd ati i ystyried y pwyntiau a godwyd yn ystod y digwyddiad er mwyn llywio a siapio ei waith yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y Pwyllgor, neu os hoffech gael yr wybodaeth ddiweddaraf amdano, ewch i dudalen y Pwyllgor ar y we.

Gallwch hefyd ddilyn y Pwyllgor ar Twitter: @SeneddESS

Cyfleoedd cyflogaeth i bobl dros 50 oed

Yn ôl ym mis Tachwedd 2014 penderfynodd Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru gynnal ymchwiliad i cyfloedd cyflogaeth i bobl dros 50 oed

Gall fod yn anodd i bobl dros 50 oed ddod o hyd i swydd, yn enwedig un sy’n defnyddio eu holl sgiliau. Penderfynodd y Pwyllgor y bydden nhw yn edrych ar beth y gellir ei wneud am hyn gan fod pobl yng Nghymru, erbyn hyn, yn byw yn hirach ac mae pensiynau yn mynd yn llai. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gweithio yn hirach ac erbyn hyn nid yw’n ofynnol i bobl ymddeol pan maent yn 60 neu 65 oed.

Yn ogystal â gofyn i sefydliadau allanol, academyddion a’r cyhoedd beth oedden nhw’n ei feddwl drwy ofyn iddyn nhw ymateb yn ysgrifenedig, bu i’r Pwyllgor hefyd ymweld â sefydliadau cynrychioladol i drafod yr ymchwiliad hefo nhw.

Bu i’r Pwyllgor ymweld ag aelodau staff o John Lewis Caerdydd, NIACE Cymru, Working Links, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, TUC Cymru a Chyngor Sir Benfro ar 12 Chwefror 2015. Cynhaliwyd trafodaethau o gwmpas y rhwystrau mae pobl dros 50 oed yn eu hwynebu wrth chwilio am swydd newydd, oes unrhyw stereoteipiau am gyflogaeth i bobl dros 50 oed, sut y gallwn ddod i’r afael â rhain a oes unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi a hyrwyddo cyflogaeth i bobl dros 50 oed.

Rhai o’r rhwystrau trafodwyd yn ystod yr ymweliadau hyn oedd y diffyg cyllid ar gyfer cyfleoedd hyfforddiant a diffyg pethau fel sgiliau TGCh. Gallwch ddarllen mwy am y trafodaethau hyn ar dudalen y Pwyllgor yma.

Dyma Rhun Ap Iorwerth AC yn dweud wrthym am drafodaethau hefo Staff Adnoddau Dynol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Yn ogystal ag ymweld â’r sefydliadau cynrychioladol hyn bu i’r Pwyllgor hefyd siarad hefo unigolion yn ystod eu cyfarfodydd yn y Senedd, gan gynnwys swyddfa’r comisiynydd pobl hŷn Cymru a chynrychiolwyr o Age Cymru a Prime Cymru.

Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi eu hadroddiad sydd yn cynnwys argymhellion ar bethau mae’r Pwyllgor yn meddwl dylai Llywodraeth Cymru eu gwneud  i’w gwneud yn haws i bobl dros 50 oed ddod o hyd i waith. Un o’r pethau mae’r Pwyllgor wedi ei argymell i Lywodraeth Cymru yw eu bod yn cynnal ymgyrch ‘Positif Am Oed’ i annog cyflogwyr i gyflogi pobl dros 50 oed. Yn ogystal â hyn ddylai Llywodraeth Cymru gael ymgyrch a fydd yn cynyddu nifer y lleoliadau gwaith a phrentisiaethau ar gyfer pobl dros 50 oed. Mae’r Pwyllgor hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ysgrifennu strategaeth sgiliau ar gyfer pobl dros 50 oed sy’n nodi sut y bydd yn helpu’r bobl hynny i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael swydd.

Mae’n bosib i chi weld yr adroddiad llawn neu grynodeb o’r adroddiad yma a gallwch weld sylw yn y wasg o’r lansiad adroddiad wrth clicio ar y lluniau isod.

BBC NEWS#

ITV NEWS

GUARDIAN

Bydd y Pwyllgor yn siarad hefo’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg yn ystod tymor yr hydref i ofyn beth fydd hi yn eu gwneud am yr argymhellion yn yr adroddiad.

Am fwy o wybodaeth dilynwch @SeneddBusnes.

Buddsoddi ar y cyd a sbarduno gweithlu cynhyrchiol a medrus yng Nghymru

Yn Ebrill 2015 gwelwyd Llywodraeth Cymru’n dechrau gweithredu ei fframwaith ar fuddsoddi ar y cyd mewn sgiliau. Mae’r fframwaith hwn yn newid y ffordd y mae hyfforddiant, sgiliau a phrentisiaethau yn cael eu hariannu yng Nghymru.

Mae’r dull newydd o fuddsoddi mewn sgiliau yn golygu bod cyfanswm y gost o hyfforddi, mewn termau arian parod, yn cael ei rhannu rhwng dau neu fwy o bobl. I fusnesau neu unigolion sy’n cyflogi prentisiaid neu’n cynnig hyfforddiant ar waith, mae’r newid yn golygu bod rhaid cynyddu eu cyfraniadau ariannol i dalu’r gost o hyfforddiant sgiliau yn eu gweithle.

William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes
William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes

Wrth ddisgwyl cael eu gweithredu’n llawn erbyn 2017, roedd y Pwyllgor Menter a Busnes am ddarganfod sut byddai hyn yn effeithio busnesau Cymru a darparwyr hyfforddiant. Byddai’r fframwaith newydd yn helpu cyflawni nôd Llywodraeth Cymru o “sicrhau bod Cymru’n datblygu mantais gystadleuol wrth sbarduno gweithlu cynhyrchiol a medrus”?

Cynhaliodd y Pwyllgor cyfarfodydd busnes brecwast yng Ngogledd a De Cymru er mwyn archwilio’r materion hyn ymhellach. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ym Mragdy Brains, Caerdydd gydag amrywiaeth o gynrychiolwyr o’r sectorau academaidd, hyfforddiant a busnes.

Dyma Gwawr Thomas, o Creative Skillset Cymru, yn sôn am gymryd rhan yn y digwyddiad ac yn egluro pwysigrwydd buddsoddi ar y cyd mewn sgiliau o fewn y diwydiannau creadigol.

Trafododd cyfranogwyr yr angen i ystyried y gwahanol lefelau o gymorth ariannol ar gael i amrywiaeth o fusnesau all fod yn gweithredu ar wahanol raddfeydd. Gall buddsoddiad cynyddol gan gyflogwyr golygu bod y busnesau hynny yn dewis ymgeiswyr sydd â phrofiad – a allai weld iddynt esgeuluso ymgeiswyr ifanc ac yn gweld y polisi yn gweithio yn erbyn nôd Llywodraeth Cymru.

Dylan's, Porthaethwy - Ynys Môn
Dylan’s, Porthaethwy – Ynys Môn

Cynhaliwyd yr ail gyfarfod busnes brecwast ym mwyty Dylan’s, Ynys Môn gyda darparwyr hyfforddiant a chynrychiolwyr busnes lleol. Iwan Thomas, Arweinydd Sgiliau Rhanbarthol a Chyflogaeth ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru oedd un o’r gwahoddedigion. Un neges allweddol oedd arno eisiau mynegi oedd i Lywodraeth Cymru ystyried dull rhanbarthol o fuddsoddi ar y cyd, a sut dylai cymryd y newid polisi ymlaen.

Ar ôl cynnal y ddau cyfarfod brecwast, mae’r Pwyllgor Menter a Busnes wedi danfon llythyr o argymhellion Julie James AC, Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg i’w hystyried o ran y newid polisi. Mae modd i chi ddarllen y llythyr sydd yn cynnwys yr argymhellion yma: http://bit.ly/1VIM4am

Rhannu arfer da wrth graffu (2)

Y Rheolwr Allgymorth Kevin Davies sy’n egluro…

Croeso nôl! Gosododd fy mlog cyntaf y cyd-destun ac egluro sut a pham y daeth Pwyllgor Craffu Cyngor Abertawe i ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru i drafod syniadau ynghylch ymgysylltu â’r cyhoedd ar graffu.

Ynddo, eglurais ein bod yn awyddus i chwilio am ffyrdd o annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn gwaith pwyllgor, boed hynny i helpu’r Cynulliad i graffu ar waith Llywodraeth Cymru, neu i helpu cynghorau lleol i graffu ar waith arweinwyr cynghorau. Rŷm yn rhannu’r un her… weithiau nid ydym yn clywed gan yr amrywiaeth o bobl y byddem yn hoffi clywed ganddyn nhw. I ddarllen pennod gyntaf fy mlog, cliciwch yma.

Yn y bennod hon, byddaf yn egluro sut rŷm ni yn y Cynulliad yn ceisio mynd i’r afael â’r mater hwn, gan gyfeirio at enghreifftiau ac astudiaethau achos.

Pecyn cymorth ymgynghori

Cefais fy mhlesio gan barodrwydd Cyngor Abertawe i ystyried syniadau, a’u hawydd i gynnwys y cyhoedd yn eu gwaith. Roeddwn yn deall rhai o’u pryderon (y mae pob sefydliad sector cyhoeddus arall yn ei rannu, rwy’n siŵr) yn ymwneud ag amser, ymdrech a’r adnoddau i’w wneud yn iawn. Fel sefydliad yn y sector cyhoeddus, mae hyn yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni yn y Cynulliad hefyd ei ystyried, ac mae’n saernïo’r mathau o weithgareddau y gallwn eu cynnig a’u cyflwyno.

Ychydig flynyddoedd yn ôl, cynhyrchwyd ein pecyn cymorth ymgynghori (PDF 5.82MB). Rhestr o ddulliau ymgysylltu yw’r pecyn cymorth ymgynghori sydd wedi ei ddefnyddio gan y Cynulliad Cenedlaethol ac wedi ei werthuso ar ôl ei ddefnyddio yn ôl cryfderau, gwendidau, awgrymiadau o amseroedd paratoi, costau ac ystyriaethau eraill. Mae’n rhestru’r gwahanol bethau y gall tîm Allgymorth y Cynulliad eu cyflawni wrth gynorthwyo pwyllgorau i ddod o hyd i fwy o bobl i gymryd rhan mewn ymgynghoriad. Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys llawer o opsiynau gwahanol, ffyrdd o gasglu barn (tystiolaeth) pobl gan gynnwys grwpiau ffocws, digwyddiadau, ffilmio cyfweliadau fideo, gwe-sgyrsiau ac arolygon.

Mae dod o hyd i bobl o wahanol gefndiroedd, a chlywed eu safbwyntiau yn helpu Aelodau’r Cynulliad i ddeall y materion a’r effaith y maen nhw’n ei gael ar fywydau pobl. Mae Aelodau Cynulliad (neu gynghorwyr o ran hynny) sydd a gwell gwybodaeth yn arwain at graffu gwell a pholisïau gwell, felly ni ddylid tanbrisio gwerth ymgysylltu â grŵp ehangach o bobl yn y broses hon.

Mae’r fideo hwn yn dangos Rhun ap Iorwerth AC a Julie James AC yn siarad am gymryd rhan mewn gwe-sgwrs gyda myfyrwyr ar Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Sgiliau Mathemateg yng Nghymru fel rhan o graffu pwyllgor:

Mae’r fideo hwn yn dangos pobl a gymerodd ran mewn cyfweliadau fideo ar gyfer  ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes ar entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc:

Efallai eich bod yn meddwl bod y pethau hyn yn costio llawer o arian. Mae defnyddio Google Hangouts i gynnal gwe-sgyrsiau yn rhad ac am ddim. Os ydych am ffilmio cyfweliadau fideo gyda phobl yn eich ardal chi, bydd iPad yn costio £200 i chi, a gallwch ei ddefnyddio i ffilmio pobl trwy dechnoleg manylder uwch, a gallwch ddefnyddio’r ap o’r enw iMovie i olygu’r ffilm. Gellir cynllunio, dylunio a hyrwyddo arolwg yn rhad iawn, trwy ddefnyddio Facebook, Twitter a chyfryngau eraill. Yn ddiweddar, rŷm wedi bod yn hyrwyddo ymchwiliad i Athrawon Cyflenwi yng Nghymru drwy bostiadau wedi eu hyrwyddo ar Facebook, a gostiodd £50 i ni dros gyfnod o bythefnos. Mae’r post hwn (hyd yn hyn) wedi ei rannu 117 o weithiau ac mae 39 o sylwadau wedi eu gwneud.

Dod o hyd i gyfranogwyr

Ystyriwch pwy ydych yn gweld/gweithio gyda nhw o ddydd i ddydd drwy’r gweithgareddau/gwasanaethau y mae eich sefydliad yn eu darparu o ddydd i ddydd. Yn y Cynulliad Cenedlaethol mae gennym staff cyfathrebu sy’n gweld pobl yn dod i’r Senedd, yn mynd i ysgolion, colegau a chlybiau ieuenctid, a grwpiau cymunedol ledled Cymru i esbonio beth mae’r Cynulliad yn ei wneud a sut y gallan nhw gymryd rhan. Rŷm ni’n defnyddio’r rhyngweithiadau hyn, y pethau yr ydym yn ei wneud o ddydd i ddydd, i egluro materion sy’n cael eu trafod yn y Cynulliad Cenedlaethol ar hyn o bryd, ac yn rhoi pobl â chyfleoedd uniongyrchol i ddweud eu dweud ar y pynciau hyn.

Pan fyddwn yn chwilio am bobl i gymryd rhan mewn gweithgarwch ymgysylltu ar gyfer ymgynghoriadau pwyllgor, byddwn yn cysylltu ag elusennau, mudiadau gwirfoddol, cyrff cynrychioliadol a grwpiau cymunedol yn rheolaidd. Mae cynghorau lleol yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau i wahanol grwpiau o bobl, felly gallai ymgysylltu â’r grwpiau sy’n bodoli eisoes fod yn ffordd gyflym a hawdd iawn i ehangu’r ystod o bobl a allai gyfrannu at eu gwaith craffu. Un peth wnaethon ni ar gyfer yr ymchwiliad Bill Trawsblannu Dynol oedd gadael taflenni ym meddygfeydd meddygon teulu, gan dargedu pobl ag anghenion penodol mewn maes penodol.

Adborth

Un o’r meysydd yr oedd gan griw Cyngor Abertawe ddiddordeb mawr ynddo oedd sut rŷm ni’n rhoi adborth i bobl sydd wedi cyfrannu drwy gydol y broses. Fe ddangoson ni rai enghreifftiau o sut rŷm wedi gwneud hyn, fel y fideo hwn sy’n esbonio beth wnaed â chanlyniadau arolwg i ailgylchu yng Nghymru , a’r fideo hwn sy’n esbonio sut y dylanwadodd yr hyn a ddywedodd pobl ifanc am entrepreneuriaeth ieuenctid ar adroddiad pwyllgor .

Mae ymrwymo i roi adborth i gyfranogwyr yn bwysig iawn, neu gallech ddadwneud yr holl waith da a wnaed yn ystod gweithgarwch ymgysylltu, drwy beidio â diweddaru pobl ar yr hyn yr arweiniodd eu cyfranogiad ato. Yn y Cynulliad, rŷm ni ar hyn o bryd yn edrych ar y ffordd yr ydym yn cyfathrebu â’r cyhoedd, yn arbennig sut yr ydym yn rhannu gwybodaeth am waith y pwyllgorau. Fel rhan o’r broses hon byddwn yn ystyried sut rŷm ni’n rhoi gwybod i bobl am y broses ymchwilio y maen nhw wedi bod yn rhan ohoni, a pha lwyfannau (boed hynny drwy ddefnyddio fideo, Storify neu e-bost syml) y dylem eu defnyddio wrth wneud hyn. Mae’n ymddangos bod Cyngor Abertawe a’r Cynulliad Cenedlaethol yn edrych ar y gwaith o grynhoi taith y cwsmer ar hyn o bryd, a gobeithio y gallwn gydweithio i wneud hyn. Mwy o newyddion i ddod.

Dyma le da i ddod â’r  blog hwn i ben. Bydd y cofnod nesaf yn edrych ar y broses gynllunio, a sut mae’r gwaith hwn yn digwydd tu ôl i’r llenni yn y Cynulliad er mwyn gwneud yr holl gyfleoedd ymgysylltu hyn yn bosibl.

Myfyrwyr ac academyddion yn siarad ag Aelodau’r Cynulliad am raglenni Erasmus

Ddydd Iau, 6 Mawrth, cyfarfu myfyrwyr ac academyddion o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd ag Aelodau’r Cynulliad yng Nghampws Cyncoed, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd i siarad am eu profiadau o raglen Erasmus, sy’n galluogi myfyrwyr addysg uwch i astudio neu weithio dramor fel rhan o’u cwrs gradd, ac yn galluogi staff i addysgu neu hyfforddi mewn 33 o wledydd Ewrop: http://www.britishcouncil.org/erasmus.htm

Mae’r digwyddiad yn rhan o ymchwiliad gan Bwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad, sy’n edrych ar gyfleoedd cyllido Ewropeaidd rhwng 2014 a 2020:http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=8564

Erasmus

Ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020

Cymerodd 19 o bobl ran yn y digwyddiad, gyda’r myfyrwyr yn cael eu rhannu’n bump o grwpiau o amgylch bwrdd crwn bach, ble y buont yn cymryd rhan mewn trafodaethau grwpiau ffocws, a gynhaliwyd gan Aelodau’r Cynulliad. Prif themâu’r cwestiynau oedd:

– Beth oedd yn cymell myfyrwyr a staff i gymryd rhan mewn rhaglen gyfnewid, pa brofiadau a gawsant, a pha effaith a gafodd y rhaglen arnynt, yn bersonol, ac yn academaidd;
– Beth yw manteision annog rhagor o fyfyrwyr sy’n graddio i astudio y tu allan i’r DU am gyfnod yn ystod eu hastudiaethau, a beth yw’r rhwystrau i hyn;
– Sut y gall Cymru roi cefnogaeth well i symudedd allanol myfyrwyr a gwneud yn fawr o gyfleoedd a ddaw yn sgîl ymgysylltu â rhaglenni’r UE fel Erasmus.
Bu’r grwpiau yn trafod am awr, ac yna cafwyd sesiwn adborth ble y bu Aelodau’r Cynulliad yn nodi’r prif bwyntiau a drafodwyd gan eu grwpiau, a oedd yn cynnwys:
– Mae Erasmus yn ehangu gorwelion ac yn datblygu hyder, ond mae’n arwain at berfformiad academaidd gwell yn ogystal.
– Gallai Erasmus, a’r cyfleoedd y mae’n eu cynnig, gael ei hyrwyddo’n ehangach ac yn gynharach, drwy ysgolion, dyweder, ymhlith disgyblion 14/15 mlwydd oed a rhieni;
– Mae angen ymrwymiad cadarnach a mwy strategol i hyrwyddo ymgysylltiad ag Erasmus, yn hytrach na gadael i arloeswyr unigol fod yn gyfrifol am hynny;
– Dylai lleoliadau blasu, byrrach fod ar gael i fyfyrwyr cyn eu bod yn ymgymryd â lleoliadau cyfnewid Erasmus llawn.
– Mae symudedd yn bwysig i staff, a disgrifiwyd hon fel elfen hanfodol;
– Mae angen dull mwy trylwyr o fonitro, meincnodi a gwerthuso effeithiau’r rhaglen ar lefel Cymru;

Roedd y Pwyllgor hefyd yn llawn edmygedd o glywed beth y mae’r ddwy Brifysgol yn ei wneud mewn cysylltiad ag Erasmus ar hyn o bryd; Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, drwy waith ei hadran ryngwladol, yw’r Sefydliad Addysg Uwch arweiniol yn y DU o ran cymryd rhan yn Erasmus Mundus, ac mae Prifysgol Caerdydd wedi gosod targed y dylai 17% o’i myfyrwyr gymryd rhan mewn rhaglen gyfnewid erbyn 2017 a gwelwyd hyn fel cam cadarnhaol sy’n rhoi blaenoriaeth uwch i symudedd rhyngwladol.

Cawsom air â Rhun ap Iorwerth AC, Anna Dukes, Uwch Swyddog Datblygu Rhyngwladol ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, a Charlotte Walmsley, myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, yn union ar ôl y sesiwn adborth, i gael eu barn am y digwyddiad, a beth y buont yn ei drafod yn eu grwpiau unigol:

Bydd y wybodaeth a gasglwyd o’r digwyddiad yn cynorthwyo Aelodau’r Cynulliad i gwestiynu cyrff a sefydliadau cynrychioliadol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, a fydd yn cwrdd â’r Pwyllgor drwy gydol mis Mawrth, a bydd yn dylanwadu ar adroddiad a gaiff ei gynhyrchu gan y Pwyllgor yn yr haf, a fydd yn cynnwys argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Hoffem ddiolch i Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd am eu holl gymorth i drefnu’r digwyddiad, ac am eu cyfraniadau yn ystod y dydd.

Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc – Ymgynghoriad i Bil Addysg (Cymru)

Cyflwynwyd Bil Addysg (Cymru) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Huw Lewis AC, y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau. Penderfynodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.

Dros y misoedd diwethaf mae’r tîm Allgymorth wedi bod yn brysur yn cynnal grwpiau ffocws ar draws Gymru i drafod gwahanol agweddau o Bil Addysg (Cymru). Mae’n nhw hefyd wedi bod yn darparu holiaduron i rieni, athrawon a cymorthyddion dosbarth i ofyn iddyn nhw am harmoneiddio dyddiadau tymor ysgol.

Yn ystod y grwpiau ffocws, sydd wedi cael ei gynnal hefo Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam, UNISON Cymru, Cyngor Sir Caerfyrddin a Cyngor Sir Mynwy, ymysg grwpiau eraill, mae’r tîm Allgymorth wedi bod yn trafod dau agwedd o’r Bil gydag cyfranogwyr.

Yr agwedd cyntaf oedd cofrestru a rheoleiddio athrawon a’r gweithlu ehangach. Bu i gyfranogwyr drafod beth fyddai’r manteision o gael bwrdd cofrestru ar gyfer y gweithlu ehangach a pa anfanteision fyddai’n debyg o godi. Bu iddyn nhw hefyd drafod petai nhw, a cyd-weithiwyr, eisiau cofrestru gydag bwrdd cofrestru.

Yr ail agwedd oedd asesiad AAA ôl-16 mewn ysgolion. Bu i gyfranogwyr drafod y darpariaeth sydd ar gael yn barod i ddysgwyr a beth fyddai’r newidiadau arfaethedig yn ei olygu i ddysgwyr ar draws Cymru.

Byddai’r tîm Allgymorth a’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn hoffi diolch i’r holl cyfranogwyr sydd wedi cymeryd rhan mewn grwp ffocws neu wedi cymeryd yr amser i lenwi holiadur yn ystod yr ymgynghoriad yma.

Am fwy o wybodaeth am Bil Addysg (Cymru) cliciwch yma:
http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=7186

Grwpiau Ffocws i Ymchwiliad Presenoldeb ac Ymddygiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

Dros y mis diwethaf, mae’r tîm Allgymorth wedi cynnal 18 grwpiau ffocws gydag ysgolion a sefydliadau dros Gymru ar y mater o bresenoldeb ac ymddygiad.

Rhoddwyd cyfle i blant a phobl ifanc o oedran 9 i 21 mlynedd i drafod eu profiadau a’r materion maent yn credu oedd yn fwyaf pwysig wrth ystyried presenoldeb ac ymddygiad mewn ysgolion, megis strwythur a chynnwys gwersi, bwlio ar ddarpariaeth sydd ar gael i ddisgyblion, a’r angen i gynnwys pobl ifanc ymhellach yn y broses o wneud penderfyniadau addysgol.

Diolchodd Elizabeth Stokes, Rheolwr rhaglen Dysgu am Oes Llamau,  y tîm Allgymorth a defnyddwyr y gwasanaeth, gan ddweud eu bod wedi “ymateb yn feddylgar ac ystyriol gan gynnig golwg werthfawr ar y maes i’r ymchwilwyr”.

Grwp Ffocws rhaglen Dysgu am Oes Llamau, Caerdydd

Byddai’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn hoffi rhoi diolch i phob cyfranogwr, ysgol a sefydliad a chyfrannodd i’r Ymchwiliad hyn.

 Am fanylion pellach ynglŷn ag Ymchwiliad Presenoldeb ac Ymddygiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, cliciwch yma:

http://www.senedd.assemblywales.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=5218