Tag: Abertawe

Y Cynulliad yn disgleirio yn Sparkle

Kelly Harris, Swyddog Ymgysylltu â Phobl Ifanc

Dydd Sadwrn 7 Tachwedd, gyda Craig Stephenson, Cyfarwyddwr y Cynulliad a Chadeirydd ein rhwydwaith staff LGBT, es i a stondin i Swansea Sparkle i siarad â’r cyhoedd am waith y Cynulliad a sut y gallent gymryd rhan.

Cafodd Swansea Sparkle ei drefnu gan Tawe Butterflies a Heddlu De Cymru, ac roedd yn gyfle i bobl ddod at ei gilydd a dathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth. Y nod oedd chwalu’r rhwystrau rhwng y cyhoedd a’r gymuned Drawsrywiol drwy ddod â sefydliadau o bob rhan o Gymru a’r DU at ei gilydd i arddangos y cymorth, y wybodaeth a’r cyngor sydd ar gael i’r gymuned.

Roedd yn ddiwrnod diddorol iawn a chawsom lawer yn dangos diddordeb yn y Cynulliad. Roedd llawer o bobl nad oeddynt yn ymwybodol bod ganddynt bum Aelod Cynulliad sy’n gyfrifol am eu cynrychioli yn y Cynulliad, felly roedd yn gyfle perffaith i’w cyflwyno i Archwilio’r Cynulliad: Eich Aelodau Cynulliad Chi a sgwrsio am pa faterion y gallent eu hwynebu yn eu cymunedau. Daeth dau o Aelodau’r Cynulliad at y stondin i ddweud helo a chael tynnu eu lluniau gyda ni – Julie James (Etholaeth Gorllewin Abertawe) a Peter Black (Rhanbarth Gorllewin De Cymru) – roedd yn wych cael eu cefnogaeth yn y digwyddiad.

Sparkle 2015: Staff y Cynulliad gyda’r Aelod Cynulliad Julie James
Sparkle 2015: Staff y Cynulliad gyda’r Aelod Cynulliad Julie James
Sparkle 2015: Staff y Cynulliad gyda’r Aelod Cynulliad Peter Black
Sparkle 2015: Staff y Cynulliad gyda’r Aelod Cynulliad Peter Black

Roeddwn yn ddigon ffodus i gael y cyfle i siarad â pherson ifanc sy’n trawsnewid ar hyn o bryd. Roeddwn i’n teimlo’n freintiedig iawn fod yr unigolyn yma wedi rhannu ei stori gyda mi, ac yr oedd yn ddiddorol clywed am y profiadau y mae wedi’u cael – yr hapus a’r trist. Cymerwyd camau mawr i sicrhau bod lleisiau’r gymuned Drawsrywiol yn cael eu clywed, ond mae’n amlwg iawn bod llawer o waith i’w wneud o hyd. Fe wnes yr ymdrech i sicrhau bod y person ifanc yn gwybod am yr holl ffyrdd gwahanol y gall gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad, hyd yn oed pa mor galed mae’r Cynulliad yn gweithio i sicrhau bod ein gweithlu yn amrywiol ac yn hollol gynrychioliadol o gymunedau Cymru. Roedd yn wych cael adborth ar beth arall roedd yn credu y gallai’r Cynulliad weithio arno, a chaiff hyn ei gyfleu i’n Tîm Cydraddoldeb rhagorol.

Esboniais hefyd pwy yw Comisiynydd Plant Cymru a beth yw ei swydd, felly os bydd yn teimlo bod angen help rhywun yn y dyfodol, mae rhywun arall y gall gysylltu â hi. Mae’n bwysig i holl bobl ifanc Cymru wybod am y Comisiynydd Plant.

Ar y cyfan, roedd yn ddiwrnod ardderchog – wedi’i drefnu’n dda ac yn groesawgar iawn! Alla i ddim aros i fynd yn ôl y flwyddyn nesaf!

Ymwelwyr â digwyddiad Sparkle yn gwneud addewid #DimAnwybyddu Stonewall
Ymwelwyr â digwyddiad Sparkle yn gwneud addewid #DimAnwybyddu Stonewall

#SeneddAbertawe: Y Gyfraith yng Nghymru

Daeth Jane Williams, Athro Cyswllt, Coleg y Gyfraith, Prifysgol Abertawe i’n seminar amser cinio yn ystod #SeneddAbertawe yr wythnos diwethaf. Dyma ei barn am y digwyddiad…

Seminar ddifyr yng Ngholeg y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Abertawe, gyda David Melding AC, Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac Elisabeth Jones, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, fel rhan o SeneddAbertawe. Daeth myfyrwyr ac ymchwilwyr ym maes y gyfraith a gwleidyddiaeth, ymarferwyr cyfreithiol a gwesteion eraill i gymryd rhan mewn trafodaethau a gadeiriwyd gan Jane Williams a Keith Bush Q.C. o’r Coleg.

Cafwyd trafodaethau ynghylch materion pwysig a heriol iawn, gan gynnwys yr agweddau cyfreithiol, cyfansoddiadol, gwleidyddol a dinesig ar ddatganoli, mynediad i gyfiawnder, hygyrchedd cyfraith Cymru, nodweddion y broses o ddeddfu i Gymru, cyfranogiad gwleidyddol, addysg ddinesig, pleidleisio a’r system etholiadol, mynediad i wybodaeth, awdurdodaeth ar wahân a beth yw ystyr ‘cyfraith dda’.

Adolygu’r gorffennol a chynnig gweledigaeth oleuedig o’r dyfodol – cafwyd trafodaeth ardderchog o hyn oll, a chinio, mewn rhyw ddwy awr! Diolch i’n gwesteion a phawb a helpodd i drefnu’r digwyddiad ac a ddaeth yma heddiw. Rydym yn benderfynol o wneud gynnal digwyddiadau fel hyn yn amlach!

Bydd David Melding AC, Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac Elisabeth Jones, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Gyfreithiol, yn cyflwyno seminar ar faterion sy’n berthnasol i bobl sy’n ystyried gweithio fel cyfreithwyr yng Nghymru, a themâu cyfansoddiadol a pholisi ehangach.

#GofynPrifWein – Hoffai’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog glywed gennych

#GofynPrifWein– Cyfle i holi Carwyn Jones, y Prif Weinidog

blogheaderfinalcy

Hoffai’r Pwyllgor glywed gan sefydliadau, busnesau a chi – mae rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan ar-lein ar gael isod.

Mae’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cyfarfod yn Abertawe am 10.30 ar 16 Hydref yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Y prif bwnc trafod fydd ‘Cymru yn y Byd Ehangach’. Dyma enghreifftiau o’r materion y bydd yn cael eu trafod:

Beth yw strategaeth gyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer  marchnata a hyrwyddo Cymru i’r byd? Beth yw brand Cymru? Pa mor llwyddiannus yw ymdrechion i hyrwyddo atyniadau yng Nghymru i dwristiaid? A yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i ddenu buddsoddwyr?
A yw Llywodraeth Cymru yn llwyddo I gyfleu delwedd o Gymru sy’n apelio i dwristiaid o’r DU ac o dramor? A yw diwylliant Cymreig yn ddigon gweladwy y tu allan i Gymru? Pa farchnadoedd neu nwyddau ddylid eu blaenoriaethu?

COLLAGE

Caiff agenda lawn ei llwytho i dudalen y Pwyllgor ar y we unwaith iddi gael ei chadarnhau.

Mae’r rhan fwyaf o Bwyllgorau’r Cynulliad yn cyfarfod yn wythnosol i graffu ar waith Llywodraeth Cymru yn fanwl, ond mae’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn canolbwyntio ar bynciau eang ynghylch unrhyw weledigaeth strategaeth ganolog yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.

Sut ydw i’n cymryd rhan ar-lein?

Gallwch gyflwyno eich cwestiwn neu sylw i’r Pwyllgor ynghylch ‘Cymru yn y Byd Ehangach’ fel a ganlyn:

Twitter Ar Twitter – Dilynwch @CynulliadCymru ar Twitter ac ymatebwch i unrhyw negeseuon ynghylch y pwnc hwn gan ddefnyddio’r hashnod #GofynPrifWein. Hefyd, mae croeso ichi anfon neges uniongyrchol os hoffech i’ch neges fod yn gyfrinachol.
Facebook Ar Facebook – ‘Hoffwch’ dudalen y Cynulliad ar Facebook a gadewch neges ar unrhyw ddiweddariad statws perthnasol. Os nad ydych yn gweld diweddariad statws perthnasol, gallwch ysgrifennu neges ar y dudalen gyda’r hashnod #GofynPrifWein.
Email E-bost– Gallwch ddweud eich dweud drwy anfon e-bost at: Craffu.PW@Cynulliad.Cymru
Youtube Ar YouTube – Beth am ffilmio eich hun yn gofyn eich cwestiwn ac anfon linc i’r fideo drwy unrhyw un o’r sianeli uchod?
Instagram Ar Instagram – Os gallwch fynegi’ch barn mewn ffordd greadigol weledol, carwn weld eich cyflwyniadau. Tagiwch gyfrif Instagram y Senedd yn eich llun neu ddefnyddiwch yr hashnod #GofynPrifWein. Fel arall, gallwch wneud sylwadau ar unrhyw un o’n cyflwyniadau ar Instagram, eto gan ddefnyddio’r hashnod #GofynPrifWein.
Wordpress Sylwadau – Beth am adael neges ar y blog hwn yn awr?

Beth sy’n digwydd nesaf?

Byddwn yn coladu’r ymatebion a’u trosglwyddo at David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor. Bydd y Pwyllgor wedyn yn eu cynnwys yn ei gwestiynau i Carwyn Jones, y Prif Weinidog. Gallwch ddod i wylio’r cyfarfod yn fyw, ei wylio ar-lein ar Senedd.TV neu ddarllen y trawsgrifiad. Byddwn yn rhoi gwybod ichi os atebwyd eich cwestiwn. Cynhelir y cyfarfod yn Abertawe am 10.30 ar 16 Hydref yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Edrychwn ymlaen at glywed eich barn!

“You can see the extraordinary beauty, the wonderful people and great hospitality, so I’d encourage everybody in the States to come and visit Wales.”
– Yr Arlywydd Barack Obama

Ymchwilio i’r pwnc – ‘Cymru yn y Byd Ehangach’

Gallai’r pwnc hwn ymddangos yn gymhleth, ond gall cymryd cam yn ôl i ystyried mater yn ei gyfanrwydd fod yn werthfawr. Hoffwn glywed syniadau arloesol a sylwadau o safbwyntiau gwahanol gan bobl o wahanol gefndiroedd. Continue reading “#GofynPrifWein – Hoffai’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog glywed gennych”

Rhannu arfer da wrth graffu (2)

Y Rheolwr Allgymorth Kevin Davies sy’n egluro…

Croeso nôl! Gosododd fy mlog cyntaf y cyd-destun ac egluro sut a pham y daeth Pwyllgor Craffu Cyngor Abertawe i ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru i drafod syniadau ynghylch ymgysylltu â’r cyhoedd ar graffu.

Ynddo, eglurais ein bod yn awyddus i chwilio am ffyrdd o annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn gwaith pwyllgor, boed hynny i helpu’r Cynulliad i graffu ar waith Llywodraeth Cymru, neu i helpu cynghorau lleol i graffu ar waith arweinwyr cynghorau. Rŷm yn rhannu’r un her… weithiau nid ydym yn clywed gan yr amrywiaeth o bobl y byddem yn hoffi clywed ganddyn nhw. I ddarllen pennod gyntaf fy mlog, cliciwch yma.

Yn y bennod hon, byddaf yn egluro sut rŷm ni yn y Cynulliad yn ceisio mynd i’r afael â’r mater hwn, gan gyfeirio at enghreifftiau ac astudiaethau achos.

Pecyn cymorth ymgynghori

Cefais fy mhlesio gan barodrwydd Cyngor Abertawe i ystyried syniadau, a’u hawydd i gynnwys y cyhoedd yn eu gwaith. Roeddwn yn deall rhai o’u pryderon (y mae pob sefydliad sector cyhoeddus arall yn ei rannu, rwy’n siŵr) yn ymwneud ag amser, ymdrech a’r adnoddau i’w wneud yn iawn. Fel sefydliad yn y sector cyhoeddus, mae hyn yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni yn y Cynulliad hefyd ei ystyried, ac mae’n saernïo’r mathau o weithgareddau y gallwn eu cynnig a’u cyflwyno.

Ychydig flynyddoedd yn ôl, cynhyrchwyd ein pecyn cymorth ymgynghori (PDF 5.82MB). Rhestr o ddulliau ymgysylltu yw’r pecyn cymorth ymgynghori sydd wedi ei ddefnyddio gan y Cynulliad Cenedlaethol ac wedi ei werthuso ar ôl ei ddefnyddio yn ôl cryfderau, gwendidau, awgrymiadau o amseroedd paratoi, costau ac ystyriaethau eraill. Mae’n rhestru’r gwahanol bethau y gall tîm Allgymorth y Cynulliad eu cyflawni wrth gynorthwyo pwyllgorau i ddod o hyd i fwy o bobl i gymryd rhan mewn ymgynghoriad. Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys llawer o opsiynau gwahanol, ffyrdd o gasglu barn (tystiolaeth) pobl gan gynnwys grwpiau ffocws, digwyddiadau, ffilmio cyfweliadau fideo, gwe-sgyrsiau ac arolygon.

Mae dod o hyd i bobl o wahanol gefndiroedd, a chlywed eu safbwyntiau yn helpu Aelodau’r Cynulliad i ddeall y materion a’r effaith y maen nhw’n ei gael ar fywydau pobl. Mae Aelodau Cynulliad (neu gynghorwyr o ran hynny) sydd a gwell gwybodaeth yn arwain at graffu gwell a pholisïau gwell, felly ni ddylid tanbrisio gwerth ymgysylltu â grŵp ehangach o bobl yn y broses hon.

Mae’r fideo hwn yn dangos Rhun ap Iorwerth AC a Julie James AC yn siarad am gymryd rhan mewn gwe-sgwrs gyda myfyrwyr ar Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Sgiliau Mathemateg yng Nghymru fel rhan o graffu pwyllgor:

Mae’r fideo hwn yn dangos pobl a gymerodd ran mewn cyfweliadau fideo ar gyfer  ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes ar entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc:

Efallai eich bod yn meddwl bod y pethau hyn yn costio llawer o arian. Mae defnyddio Google Hangouts i gynnal gwe-sgyrsiau yn rhad ac am ddim. Os ydych am ffilmio cyfweliadau fideo gyda phobl yn eich ardal chi, bydd iPad yn costio £200 i chi, a gallwch ei ddefnyddio i ffilmio pobl trwy dechnoleg manylder uwch, a gallwch ddefnyddio’r ap o’r enw iMovie i olygu’r ffilm. Gellir cynllunio, dylunio a hyrwyddo arolwg yn rhad iawn, trwy ddefnyddio Facebook, Twitter a chyfryngau eraill. Yn ddiweddar, rŷm wedi bod yn hyrwyddo ymchwiliad i Athrawon Cyflenwi yng Nghymru drwy bostiadau wedi eu hyrwyddo ar Facebook, a gostiodd £50 i ni dros gyfnod o bythefnos. Mae’r post hwn (hyd yn hyn) wedi ei rannu 117 o weithiau ac mae 39 o sylwadau wedi eu gwneud.

Dod o hyd i gyfranogwyr

Ystyriwch pwy ydych yn gweld/gweithio gyda nhw o ddydd i ddydd drwy’r gweithgareddau/gwasanaethau y mae eich sefydliad yn eu darparu o ddydd i ddydd. Yn y Cynulliad Cenedlaethol mae gennym staff cyfathrebu sy’n gweld pobl yn dod i’r Senedd, yn mynd i ysgolion, colegau a chlybiau ieuenctid, a grwpiau cymunedol ledled Cymru i esbonio beth mae’r Cynulliad yn ei wneud a sut y gallan nhw gymryd rhan. Rŷm ni’n defnyddio’r rhyngweithiadau hyn, y pethau yr ydym yn ei wneud o ddydd i ddydd, i egluro materion sy’n cael eu trafod yn y Cynulliad Cenedlaethol ar hyn o bryd, ac yn rhoi pobl â chyfleoedd uniongyrchol i ddweud eu dweud ar y pynciau hyn.

Pan fyddwn yn chwilio am bobl i gymryd rhan mewn gweithgarwch ymgysylltu ar gyfer ymgynghoriadau pwyllgor, byddwn yn cysylltu ag elusennau, mudiadau gwirfoddol, cyrff cynrychioliadol a grwpiau cymunedol yn rheolaidd. Mae cynghorau lleol yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau i wahanol grwpiau o bobl, felly gallai ymgysylltu â’r grwpiau sy’n bodoli eisoes fod yn ffordd gyflym a hawdd iawn i ehangu’r ystod o bobl a allai gyfrannu at eu gwaith craffu. Un peth wnaethon ni ar gyfer yr ymchwiliad Bill Trawsblannu Dynol oedd gadael taflenni ym meddygfeydd meddygon teulu, gan dargedu pobl ag anghenion penodol mewn maes penodol.

Adborth

Un o’r meysydd yr oedd gan griw Cyngor Abertawe ddiddordeb mawr ynddo oedd sut rŷm ni’n rhoi adborth i bobl sydd wedi cyfrannu drwy gydol y broses. Fe ddangoson ni rai enghreifftiau o sut rŷm wedi gwneud hyn, fel y fideo hwn sy’n esbonio beth wnaed â chanlyniadau arolwg i ailgylchu yng Nghymru , a’r fideo hwn sy’n esbonio sut y dylanwadodd yr hyn a ddywedodd pobl ifanc am entrepreneuriaeth ieuenctid ar adroddiad pwyllgor .

Mae ymrwymo i roi adborth i gyfranogwyr yn bwysig iawn, neu gallech ddadwneud yr holl waith da a wnaed yn ystod gweithgarwch ymgysylltu, drwy beidio â diweddaru pobl ar yr hyn yr arweiniodd eu cyfranogiad ato. Yn y Cynulliad, rŷm ni ar hyn o bryd yn edrych ar y ffordd yr ydym yn cyfathrebu â’r cyhoedd, yn arbennig sut yr ydym yn rhannu gwybodaeth am waith y pwyllgorau. Fel rhan o’r broses hon byddwn yn ystyried sut rŷm ni’n rhoi gwybod i bobl am y broses ymchwilio y maen nhw wedi bod yn rhan ohoni, a pha lwyfannau (boed hynny drwy ddefnyddio fideo, Storify neu e-bost syml) y dylem eu defnyddio wrth wneud hyn. Mae’n ymddangos bod Cyngor Abertawe a’r Cynulliad Cenedlaethol yn edrych ar y gwaith o grynhoi taith y cwsmer ar hyn o bryd, a gobeithio y gallwn gydweithio i wneud hyn. Mwy o newyddion i ddod.

Dyma le da i ddod â’r  blog hwn i ben. Bydd y cofnod nesaf yn edrych ar y broses gynllunio, a sut mae’r gwaith hwn yn digwydd tu ôl i’r llenni yn y Cynulliad er mwyn gwneud yr holl gyfleoedd ymgysylltu hyn yn bosibl.

Fideo EYST

Cynhyrchwyd y fideo hwn gan y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST) yn Abertawe I ddangos pa wasanaethau y mae’n ei ddarparu. Mae EYST wedi rhoi llawer o gymorth i’r Cynulliad Cenedlaethol dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda’i aelodau yn cymryd rhan mewn ymchwiliadau fel ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes I brentisiaethau yng Nghymru. Gwyliwch y fideo (Saesneg yn unig):

Ymweliad allgymorth ag EYST Abertawe

EYST

Wythnos diwethaf, cyfarfu Kevin Davies, y Rheolwr Allgymorth dros Orllewin De Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ag EYST i gael rhagor o wybodaeth am waith y prosiect, a bu’n trafod cyfleoedd i weithio gyda’r sefydliad hwn yn y dyfodol.
Siaradodd Kevin â Shehla a Helal, gan esbonio’r gwahaniaeth rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru, a’r ffyrdd y gall EYST fel sefydliad, a’i gyfranogwyr, gymryd rhan a dylanwadu ar waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Wedyn, aeth ar daith o amgylch y swyddfa a’r ganolfan galw heibio drws nesaf, a adeiladwyd ac a ddyluniwyd gan y bobl ifanc sy’n ei defnyddio.