Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am 21 maes pwnc sydd wedi cael eu datganoli i Gymru gan Senedd y DU. Dyma’r meysydd pwnc:
- Amaethyddiaeth, coedwigaeth, anifeiliaid, planhigion a datblygu gwledig
- Henebion ac adeiladau hanesyddol
- Diwylliant
- Datblygu economaidd
- Addysg a hyfforddiant
- Yr amgylchedd
- Y Gwasanaethau Tân ac Achub a Diogelwch rhag Tân
- Bwyd
- Iechyd a gwasanaethau iechyd
- Priffyrdd a thrafnidiaeth
- Tai
- Llywodraeth Leol
- Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Gweinyddiaeth gyhoeddus
- Lles cymdeithasol
- Chwaraeon a hamdden
- Twristiaeth
- Trethi datganoledig
- Cynllunio gwlad a thref
- Dŵr ac amddiffyn rhag llifogydd
- Y Gymraeg