Blog gan Ann Jones AC.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal digwyddiad blynyddol bob mis Mawrth i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Thema eleni yw #EachforEqual, ac rwy’n teimlo’n falch iawn ein bod wedi ymrwymo i gymryd cydraddoldeb o ddifrif yn y Cynulliad ers ei sefydlu 20 mlynedd yn ôl.
Rwy’n un o’r Aelodau Cynulliad gwreiddiol a etholwyd am y tro cyntaf ym 1999. Mae hyn wedi rhoi trosolwg da i mi o’r Cynulliad a’r ffordd y mae’n gweithio. Gallaf wir ddweud ei fod yn ymrwymo i egwyddorion #EachforEqual. Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i hyrwyddo cydraddoldeb ac mae wedi dod yn rhan annatod o’n diwylliant i wneud hynny, nid oherwydd bod yn rhaid i ni wneud hynny, ond am ein bod am wneud hynny.
Cydnabyddiaeth ryngwladol
Yn 2003, enillodd y Cynulliad gydnabyddiaeth ryngwladol am fod y ddeddfwrfa gyntaf ledled y byd i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac am fod y gyntaf i gael mwy o fenywod na dynion yn 2006. Ar hyn o bryd mae gennym 47 y cant o Aelodau benywaidd ac rydym yn parhau i ymdrechu i sicrhau cydbwysedd cyfartal.
Pan gefais fy ethol gan fy nghymheiriaid ar gyfer rôl y Dirprwy Lywydd yn 2016, gwelais gyfle i ddangos y gwaith a wneir gan fenywod. Mae cynnal digwyddiadau fel ein dathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a chlywed gan fenywod mor ysbrydoledig bob amser yn fy atgoffa pam fy mod i mor angerddol am hyrwyddo a chefnogi menywod mewn gwleidyddiaeth. Nid yw bob amser yn hawdd, ac mae thema #EachforEqual eleni yn pwysleisio pwysigrwydd cydraddoldeb ledled ein cymdeithas.
Siaradwyr ysbrydoledig
Roedd hi’n bleser clywed siaradwyr mor ysbrydoledig yn ein digwyddiad. Ein siaradwyr oedd Charlie Morgan, cyd-sylfaenydd Warrior Women Events; Angel Ezeadum, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru a Sophie Rae, sylfaenydd Ripple Living.



Roedd eu geiriau nhw’n ddiddorol iawn ac yn hynod rymusol, ac rwy’n ddiolchgar iddyn nhw am rannu eu straeon gyda ni. Roeddwn i’n falch o groesawu Betsan Powys i gadeirio’r digwyddiad hefyd.
Gwnaethom ni groesawu amrywiaeth o bobl i’r Pierhead ac roedd yn gyfle da i siarad â phobl efallai nad oedden nhw wedi ymgysylltu â ni o’r blaen. Rwy’n eich annog i gadw mewn cysylltiad. Siaradwch â’ch Aelodau Cynulliad am y materion sy’n bwysig i chi. Dewch i ymweld â ni yn y Senedd a dilynwch ni ar Twitter, Facebook ac Instagram.
Beth sydd nesaf?
Wrth i ni ddathlu 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru, mae’n anhygoel gweld pa mor bell yr ydym wedi dod. Wrth i etholiadau nesaf y Cynulliad gael eu cynnal yn 2021, byddwn yn gweld yr hawl i bleidleisio’n cael ei hestyn am y tro cyntaf i bobl 16 a 17 oed fel rhan o’r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). Rydw i mor gyffrous am ganiatáu i hyd yn oed mwy o bobl Cymru gael lleisio eu barn. Byddwn hefyd yn newid ein henw o Gynulliad Cenedlaethol Cymru i Senedd Cymru, neu Welsh Parliament, wrth i ni adlewyrchu ei chyfrifoldebau sy’n datblygu drwy’r amser.