Category: Amrywiaeth a Chynnwys

Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Blog gan Ann Jones AC.

Ann Jones AC a’r panel

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal digwyddiad blynyddol bob mis Mawrth i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Thema eleni yw #EachforEqual, ac rwy’n teimlo’n falch iawn ein bod wedi ymrwymo i gymryd cydraddoldeb o ddifrif yn y Cynulliad ers ei sefydlu 20 mlynedd yn ôl.

Rwy’n un o’r Aelodau Cynulliad gwreiddiol a etholwyd am y tro cyntaf ym 1999. Mae hyn wedi rhoi trosolwg da i mi o’r Cynulliad a’r ffordd y mae’n gweithio. Gallaf wir ddweud ei fod yn ymrwymo i egwyddorion #EachforEqual. Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i hyrwyddo cydraddoldeb ac mae wedi dod yn rhan annatod o’n diwylliant i wneud hynny, nid oherwydd bod yn rhaid i ni wneud hynny, ond am ein bod am wneud hynny.

Cydnabyddiaeth ryngwladol

Yn 2003, enillodd y Cynulliad gydnabyddiaeth ryngwladol am fod y ddeddfwrfa gyntaf ledled y byd i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac am fod y gyntaf i gael mwy o fenywod na dynion yn 2006. Ar hyn o bryd mae gennym 47 y cant o Aelodau benywaidd ac rydym yn parhau i ymdrechu i sicrhau cydbwysedd cyfartal.

Pan gefais fy ethol gan fy nghymheiriaid ar gyfer rôl y Dirprwy Lywydd yn 2016, gwelais gyfle i ddangos y gwaith a wneir gan fenywod. Mae cynnal digwyddiadau fel ein dathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a chlywed gan fenywod mor ysbrydoledig bob amser yn fy atgoffa pam fy mod i mor angerddol am hyrwyddo a chefnogi menywod mewn gwleidyddiaeth. Nid yw bob amser yn hawdd, ac mae thema #EachforEqual eleni yn pwysleisio pwysigrwydd cydraddoldeb ledled ein cymdeithas.

Siaradwyr ysbrydoledig

Roedd hi’n bleser clywed siaradwyr mor ysbrydoledig yn ein digwyddiad. Ein siaradwyr oedd Charlie Morgan, cyd-sylfaenydd Warrior Women Events; Angel Ezeadum, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru a Sophie Rae, sylfaenydd Ripple Living.

Charlie Morgan, cyd-sylfaenydd Warrior Women Events
Angel Ezeadum, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru
Sophie Rae, sylfaenydd Ripple Living

Roedd eu geiriau nhw’n ddiddorol iawn ac yn hynod rymusol, ac rwy’n ddiolchgar iddyn nhw am rannu eu straeon gyda ni. Roeddwn i’n falch o groesawu Betsan Powys i gadeirio’r digwyddiad hefyd.

Gwnaethom ni groesawu amrywiaeth o bobl i’r Pierhead ac roedd yn gyfle da i siarad â phobl efallai nad oedden nhw wedi ymgysylltu â ni o’r blaen. Rwy’n eich annog i gadw mewn cysylltiad. Siaradwch â’ch Aelodau Cynulliad am y materion sy’n bwysig i chi. Dewch i ymweld â ni yn y Senedd a dilynwch ni ar Twitter, Facebook ac Instagram

Beth sydd nesaf?

Wrth i ni ddathlu 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru, mae’n anhygoel gweld pa mor bell yr ydym wedi dod. Wrth i etholiadau nesaf y Cynulliad gael eu cynnal yn 2021, byddwn yn gweld yr hawl i bleidleisio’n cael ei hestyn am y tro cyntaf i bobl 16 a 17 oed fel rhan o’r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). Rydw i mor gyffrous am ganiatáu i hyd yn oed mwy o bobl Cymru gael lleisio eu barn. Byddwn hefyd yn newid ein henw o Gynulliad Cenedlaethol Cymru i Senedd Cymru, neu Welsh Parliament, wrth i ni adlewyrchu ei chyfrifoldebau sy’n datblygu drwy’r amser.

Mae’r Cynulliad wedi llofnodi’r siarter hil yn y gwaith

Y Tîm Arweinyddiaeth yn dangos eu haddewidion eu bod yn falch o ymrwymo i’r Siarter Hil yn y Gwaith

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod bellach yn un o lofnodwyr Siarter Hil yn y Gwaith Busnes yn y Gymuned.

O edrych ar wefan Ffeithiau a Ffigurau Ethnigrwydd Archwiliad Gwahaniaeth Hil ac Arolwg Hil yn y Gwaith Busnes yn y Gymuned, gwyddom fod lleiafrifoedd ethnig yn dal i wynebu gwahaniaethau sylweddol ym maes cyflogaeth a datblygiad, a bod yn rhaid i rywbeth newid. Mae adolygiad McGregor-Smith wedi tynnu sylw at y ffaith bod angen mwy o gynnydd a chanlyniadau cadarnhaol bellach er mwyn sicrhau bod pob sefydliad yn elwa o’r cyfoeth o dalent amrywiol a gynigir.

Mae’r Siarter yn helpu busnesau i wella cydraddoldeb hil yn y gweithle ac mae’n cynnwys pum prif alwad i weithredu ar gyfer arweinwyr a sefydliadau ar draws pob sector. Y pum prif alwad i weithredu yw:

• Penodi noddwr gweithredol dros hil.

 • Cael data ar ethnigrwydd a rhoi cyhoeddusrwydd i gynnydd.

• Ymrwymo ar lefel Bwrdd i ddim goddefgarwch o ran aflonyddu a bwlio.

• Gwneud yn glir mai cyfrifoldeb pob arweinydd a rheolwr yw cefnogi cydraddoldeb yn y gweithle.

• Cymryd camau gweithredu sy’n cefnogi dilyniant gyrfa lleiafrifoedd ethnig.

Logo Mis Hanes Pobl Dduon (BHM)

Mae mis Hydref yn Fis Hanes Pobl Dduon ac mae’n gyfle gwych i lansio’r ffaith ein bod wedi ymrwymo i’r Siarter. Mae llofnodi’r Siarter yn golygu ein bod yn ymrwymo i gymryd camau ymarferol i wella cydraddoldeb ethnig yn y gweithle a mynd i’r afael â’r rhwystrau y mae pobl o leiafrifoedd ethnig yn eu hwynebu wrth recriwtio a datblygu a sicrhau bod ein sefydliad yn gynrychioliadol o gymdeithas Prydain heddiw.

Dywedodd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

“Bydd llofnodi’r Siarter yn ategu ein gwaith amrywiaeth parhaus i sicrhau ein bod ni, fel sefydliad seneddol ar gyfer holl bobl Cymru, yn ymddwyn fel cyflogwr cynhwysol, gan ddenu a chadw talent, gan alluogi pawb rydyn ni’n eu cyflogi i wireddu eu potensial llawn a’n bod ni’n chwalu’r rhwystrau sydd ar hyn o bryd yn rhwystro cyfleoedd i grwpiau penodol o bobl waeth beth fo’u hil a’u hethnigrwydd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld ein cynnydd wrth inni gychwyn ar y Siarter, yn ogystal â gweithgareddau meincnodi a chydnabod eraill.”

Dywedodd Joyce Watson AC, Comisiynydd y Cynulliad sy’n gyfrifol am amrywiaeth a chynhwysiant:

“Rwy’n falch iawn o weld bod Comisiwn y Cynulliad yn un o lofnodwyr y siarter hon. Mae Cymru yn genedl amrywiol, a dylai hynny gael ei adlewyrchu yn ei gweithlu. Fel Comisiynydd dros Gydraddoldeb a Phobl, byddaf yn mynd ati i hyrwyddo a monitro cynnydd.”

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

“Rwy’n credu ei bod yn bwysig bod y Cynulliad yn arwain y ffordd o ran hyrwyddo diwylliant sefydliadol cynhwysol, a’i fod yn gorff seneddol modern a hygyrch y gall pobl o ystod amrywiol o gefndiroedd, ryngweithio yn hawdd ac yn ystyrlon ag ef. Rwy’n credu bod llofnodi’r Siarter yn rhan werthfawr o sicrhau hynny.”

Logo Busnes yn y Gymuned

Niwroamrywiaeth yn y gweithle

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Niwroamrywiaeth yn y gweithle

Mae niwroamrywiaeth yn ymwneud â chydnabod bod pobl yn amgyffred pethau’n wahanol. I’r rhan fwyaf o bobl, mae’r ymennydd yn gweithio ac yn dehongli gwybodaeth mewn ffordd debyg, ond mae rhai pobl yn dehongli gwybodaeth mewn ffyrdd gwahanol. Dim ond ffordd arall o ymgysylltu â’r byd o’ch cwmpas yw hyn.

Pam mae’n bwysig i sefydliadau dderbyn a chefnogi niwroamrywiaeth yn y gweithle

Mae sefydliadau’n sylweddoli bod amrywiaeth o sgiliau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd yn meithrin arloesedd, a bod hyn yn ei dro yn gallu gwella cynhyrchiant, bodloni anghenion cwsmeriaid yn well a dylanwadu ar y cynhyrchion a’r gwasanaethau a gynigir.

Yn ôl Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, dim ond 16 y cant o oedolion ag awtistiaeth sydd mewn gwaith llawn amser. Mae llawer o bobl ag awtistiaeth yn gallu gweithio ac maent yn awyddus i gael swydd sy’n gydnaws â’u doniau a’u diddordebau. Gydag ychydig o ddealltwriaeth a mân addasiadau yn y gweithle, gallant fod yn gaffaeliad go iawn i fusnesau ledled y DU.

Beth rydym ni’n ei wneud i ddenu pobl niwrowahanol a’u cadw

  • Rydym wedi codi ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrowahanol, fel awtistiaeth, ymhlith cydweithwyr a rheolwyr, fel eu bod mewn sefyllfa dda i gefnogi cydweithwyr niwrowahanol yn y gweithle.
  • Rydym wedi darparu hyfforddiant i reolwyr llinell ar gefnogi a rheoli cydweithwyr sydd ag awtistiaeth.
  • Rydym bob amser yn mireinio ein swydd-ddisgrifiadau i roi syniad cliriach i ymgeiswyr am y rôl dan sylw.
  • Rydym wedi cymryd camau i ddiweddaru ein pecynnau ymgeiswyr ac rydym yn y broses o ailwampio ein gwefannau recriwtio i sicrhau hygyrchedd i bawb.
  • Ar hyn o bryd, rydym yn adolygu ein prosesau recriwtio i gynyddu cynhwysiant drwy sicrhau bod ein gwerthoedd yn cyd-fynd â’n proses recriwtio.
  • Rydym yn gweithio gydag ymgeiswyr i ddeall pa gymorth, os o gwbl, y bydd ei angen arnynt os cânt eu penodi. Gall y cymorth hwn gynnwys addasiadau synhwyraidd, megis darparu mannau tawel i weithio, meddalwedd cynorthwyol, clustffonau canslo sŵn, cyfeillio, a chymhorthion synhwyraidd.

 Mae Comisiwn y Cynulliad yn un o lofnodwyr Ymgyrch Hyderus o ran Anabledd y Llywodraeth – rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac rydym hefyd wedi cael gwobr gan Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth am fod yn ystyriol o awtistiaeth.

“Fel rhywun sydd â diagnosis o Awtistiaeth ac ADHD sy’n gyflogai yng Nghomisiwn y Cynulliad, rwy’n teimlo fy mod yn cael fy nerbyn am bwy ydw i, fel person sy’n byw gyda’r anableddau hyn. Mae’r sefydliad wedi bod yn gefnogol iawn o ran fy nymuniad i weithio rhan amser gan mai hyn sy’n addas at fy anghenion.

Roedd yn anrhydedd mawr traddodi cyflwyniad am awtistiaeth mewn sesiwn hyfforddi staff lle cefais y cyfle i siarad am fy mhrofiadau personol yn hyn o beth. Roedd y sesiwn hyfforddi arbenigol hon yn help mawr i fi a’m rheolwr llinell ddeall fy anghenion, a gwnaed addasiadau rhesymol o ganlyniad.

Edrychaf ymlaen at barhau i ddatblygu mwy o sgiliau a phrofiad yn ystod fy nghyflogaeth yma ac at barhau i gyfrannu yn frwd at waith bob dydd y sefydliad. ”

Cyflogai Comisiwn y Cynulliad

Hyrwyddo Gweithle sy’n Ystyriol o Deuluoedd

Wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant

Yr wythnos hon, rydym yn dathlu Amrywiaeth a Chynhwysiant. Yma yn y Cynulliad, rydym yn gweithio’n ddiflino tuag at ddatblygu polisïau a gweithdrefnau sy’n cefnogi ein nod o fod yn gyflogwr cynhwysol, sy’n ein helpu i ddatblygu diwylliant sefydliadol lle gallwch fod fel chi eich hunain, ond gallwch hefyd ffynnu a chyflawni eich potensial.

Rydym yn gweithio gyda’n Rhwydweithiau Cydraddoldeb yn y Gweithle i sicrhau y gall ein staff siarad â phobl o’r un anian. Gall staff sydd â nodwedd warchodedig ddod at ei gilydd a chefnogi ei gilydd, yn ogystal â chynnig cyngor ar sut y gallwn ddod yn gyflogwr mwy cynhwysol.

Rydym yn cydnabod ei bod yn mynd yn anos anos cadw’r ddysgl yn wastad rhwng gwaith a bywyd bob dydd, felly rydym yn falch o allu cynnig ystod o drefniadau gweithio hyblyg, yn cynnwys oriau hyblyg, gweithio rhan amser, gweithio gartref, cyfleoedd rhannu swydd, a seibiannau gyrfa. Mae ein trefniadau gweithio hyblyg yn golygu ein bod yn gyson ar restr y 30 o Gyflogwyr Gorau ar gyfer Teuluoedd sy’n Gweithio.

TEULU yw ein rhwydwaith cydraddoldeb yn y gweithle i rieni a gofalwyr sy’n gweithio, a’i bwrpas yw:

  • codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r anghenion a’r rhwystrau i gynhwysiant yn y gweithle;
  • dylanwadu ar ystod o bolisïau, gwasanaethau a hyfforddiant ar faterion a allai effeithio ar rieni a gofalwyr sy’n gweithio, a’u datblygu;
  • hyrwyddo hawliau a chyfranogiad rhieni a gofalwyr sy’n gweithio ym mhob agwedd ar bolisïau, arferion a gweithdrefnau yng Ngwasanaethau Seneddol y Cynulliad;
  • cyfrannu’n weithredol at y gwaith o ddatblygu ac adolygu polisïau perthnasol trwy asesiadau effaith cydraddoldeb; a
  • chasglu a hyrwyddo gwybodaeth am amrywiaeth o faterion sy’n berthnasol i rieni a gofalwyr sy’n gweithio

Chwiliwch am yr heulwen yn y glaw

Erthygl wadd gan Bleddyn Harris, Swyddog Datblygu a Hyfforddi Sefydliadol – Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Enfys

Enw

Bwa o liwiau sy’n weladwy yn yr awyr, a achosir gan blygiant a gwasgariad golau’r haul gan law neu ddiferion dŵr eraill yn yr atmosffer.

Pan ddyluniodd Gilbert Baker y faner enfys, tybed a wnaeth erioed ddeall sut – ynghyd â bod yn brotest gwych ac aruchel yn erbyn y gwahaniaethu amhriodol yn erbyn cariad a hunaniaeth – y mae’n crynhoi’n berffaith profiad nifer o unigolion LGBTQ sydd wedi’i defnyddio fel tarian mewn byd y mae’n ymddangos nad yw eu heisiau nhw: heulwen a glaw, i gyd ar unwaith.

Wrth feddwl am fod yn hoyw, rwy’n aml yn dod i’r casgliad mai hwn yw’r profiad mwyaf poenus ac iachusol yr wyf wedi’i brofi. Nid oherwydd bod bod yn hoyw yn brofiad poenus, ond mae wedi bod yn esgus i gymaint o bobl ei ddefnyddio pan fyddant wedi fy ngadael yn gignoeth ac wedi fy ninoethi, yn aml, ac yn baradocsaidd, yn enw ‘cariad’. Mae wedi bod yn gatalydd i bobl nad ydynt yn fy adnabod, na fyddant byth yn fy nghyfarfod, na fyddant byth yn fy nerbyn i, na fyddant byth yn fy ngharu, i alw i gael fy ngwneud yn anghyfreithlon, i ddileu fy hanes, i fod eisiau fy ngweld yn y carchar, i feddwl am roi cweir i mi, i fy atal rhag priodi, i fod eisiau i mi farw. Felly, nid yw’n fyd o ungyrn a breninesau drag i gyd.

Dydw i ddim wir yn hoffi dweud bod bod fy ngwir hunan er gwaethaf y mathau o bobl rydw i wedi’u henwi uchod oherwydd rwy’n teimlo ei fod yn priodoli’r holl frwydrau yr wyf wedi gorfod eu hennill gyda fy hunan-barch a hunan-dderbyn i griw o bobl na fydd byth yn poeni… ond, ie, mae bod fy hun yn llwyr er gwaethaf y bobl hynny oherwydd rwyf eisiau iddyn nhw wybod na fyddaf yn gadael i’w rhagfarn fy rhwystro rhag byw fy mywyd yn llawn lliw a gyda’r cariad maent yn ceisio ei wadu i mi.

Rwy’n gwybod, rwy’n gwybod, rwy’n rhygnu ymlaen am agweddau negyddol y profiad hwn, ond dim ond gan fy mod i’n credu bod y frwydr yn aml yn cael ei hanwybyddu gan y syniad bod y gymuned, yn benodol dynion hoyw, yn grŵp cyfunol o bobl feiddgar a lliwgar sy’n hapus i fod yn eofn a disglair a hardd yn eu ffordd eu hunain, waeth beth ddaw. Does dim trafodaeth mewn gwirionedd am y monologau mewnol, yr anawsterau, yr ofn sydd gennym pan fyddwn yn cerdded i lawr y stryd oherwydd ‘ydw i’n edrych yn rhy hoyw? Ydw i’n cerdded yn rhyfedd? Mae pobl yn edrych: Dylwn i roi’r gorau i ddal llaw fy mhartner’.

Credaf fod y frwydr hon, yn ogystal â phrofiad personol a gwahanol pawb o fod yn rhan o’r gymuned LGBTQ, wedi’i chrynhoi mewn sgwrs a gefais gyda ffrind dros ginio: roedden ni’n siarad am sgwrs LGBT a welsom yng Ngŵyl y Gelli a oedd yn canolbwyntio ar Ymgyrch Stonewall a’r brwydrau yr ydym wedi eu hwynebu a’r llwyddiannau a roddwyd i’r gymuned – nodwch fod yr un hawl â’n cyfoedion heterorywiol a chydryweddol wedi cael ei rhoi i ni, sy’n golygu y gellir ei thynnu oddi arnom yr un mor hawdd. Arweiniodd y sgwrs at gwestiwn, sef a fydden ni’n cymryd pilsen er mwyn ein gwneud yn syth. Dywedais i ‘na’ heb oedi. Dywedodd fy ffrind y byddai’n cymryd y bilsen. Gofynnodd i mi pam y byddwn i’n dewis byw bywyd ar y cyrion o fod yn ‘normal’, bywyd o orfod edrych dros fy ysgwydd o hyd gan fy mod i’n cerdded/siarad mewn ffordd benodol, bywyd o deimlo bod pobl ond yn fy nioddef a ddim yn fy nerbyn yn llwyr. Fe wnes i ei atgoffa’n garedig bod angen weithiau edrych am yr heulwen yn y glaw a gwybod ein bod yn gallu byw’r bywyd yr oedd cymaint o bobl cyn ein hamser ni wedi marw yn breuddwydio amdano: mae eu gweddïau, eu cryfder, a’u gwrthryfela yn dal i’n hamddiffyn.

Os ydych chi wedi llwyddo i aros gyda mi, hoffwn dalu teyrnged i’r rhai hynny a ddaeth o fy mlaen i na fyddaf byth yn gallu cyfarfod â nhw, na fyddaf byth yn gallu diolch iddynt. Mae gormod o’u henwau a’u straeon wedi mynd yn angof. Pam? Dydw i ddim yn gwybod. A yw cymdeithas yn ceisio dileu ein hanes? Mae’n bosib. A yw cymdeithas yn ceisio osgoi euogrwydd drwy beidio â sôn amdanynt? Efallai wir. A yw absenoldeb yr arwyr hyn yn dal i effeithio ar fywydau miloedd o unigolion LGBTQ sy’n dal i deimlo nad ydynt yn perthyn? Yn bendant. Beth bynnag ydyw, rwy’n galaru amdano. Rwy’n galaru am yr hanes, y balchder, y gelfyddyd, a’r doethineb sydd wedi marw gyda’r dynion hoyw, y lesbiaid, yr unigolion traws ac anneuaidd, pobl ddeurywiol, yr actifyddion, y cariadon, y meddylwyr, y bobl queer, y rhai a oedd yn caru gormod, y rhai wnaeth ymddiried gormod, y rhai wnaeth gamgymeriad gwirion ar noson allan oherwydd eu bod yn ceisio dianc rhag realiti creulon eu byd yn llawn casineb. Rwy’n ddig bod bywydau, cariadon a cholled y bobl hyn yn cael eu tanseilio yn gyson mewn gwledydd ledled y byd. Rwy’n ddig fy mod i’n dal yn anghyfreithlon mewn dros 70 o wledydd. Rwy’n ddig bod rhai yn protestio yn erbyn addysgu plant am wahanol fathau o deuluoedd. Rwy’n ddig bod pobl yn anwybyddu’r ffaith bod unigolion LGBTQ yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl. Rwy’n ddig bod pobl yn meddwl bod ein brwydr ni drosodd gan fod rhai deddfau wedi cael eu newid i’n hamddiffyn.

Ond a fyddwn i’n cymryd pilsen er mwyn fy ngwneud i’n syth? Ddim o gwbl.

Pe byddai’n rhaid i mi ei wneud eto, yna fe fyddwn i. Mi fuaswn i’n mynd drwy’r holl fwlio, y gwrthod, cael pobl yn dweud bod y diafol y tu mewn i mi y mae’n rhaid gweddïo i gael gwared arno, clywed y dylwn i farw, clywed nad ydw i’n deilwng, clywed nad yw Duw yn fy ngharu i, clywed na ddylwn i fod wedi cael fy ngeni, clywed y byddaf yn cael fy llosgi yn uffern, cael rhywun yn gofyn i mi adael yr eglwys, cael rhywun yn poeri arnaf ar nosweithiau allan, clywed nad ydw i’n ddyn go iawn, clywed na fyddaf i byth yn hapus, oherwydd mae derbyn fy hun a dysgu, bob dydd, i garu fy hun yn wyneb trallod wedi bod werth y cyfan.

Nid wyf yn gwybod ble y byddwn i heddiw pe na bawn i’n ddigon dewr i dderbyn fy hun a gadael i fy hun garu er mwyn canfod pwy ydw i: dyn hoyw balch.

Am y rhesymau hyn rwy’n gweithio yn y Cynulliad ac yn cymryd rhan weithgar yn rhwydwaith OutNAW: gyda staff mor agored gynhwysol ac amrywiol, roedd hi’n bwysig i mi weithio mewn lle sy’n ganolog i ddatblygiad Cymru sy’n arddangos y diwylliant sydd ei angen arnom i wneud yn siŵr nad yw unrhyw lais deurywiol yn mynd heb ei glywed, nad yw unrhyw unigolyn traws yn clywed na allant fod pwy ydyn nhw, nad yw unrhyw berson lesbaidd yn ei harddegau yn cael ei bwlio am fod yn hi ei hun, nad oes rhaid i unrhyw ddyn hoyw feddwl p’un a fyddent yn cymryd pilsen er mwyn bod yn syth.

fflag enfys     

Ymrwymiad Sefydliadol i Amrywiaeth a Chynhwysiant

Erthygl wadd gan Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc – Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Heddiw yw diwrnod cyntaf ein hwythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Mae’r uwch dîm a minnau wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau ein bod ni, fel cyflogwr a sefydliad seneddol, yn gosod esiampl o ran hyrwyddo amrywiaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb a darparu gwasanaethau hygyrch. Er mwyn cyflawni hyn, rydym wedi datblygu ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant a’r cynllun gweithredu cysylltiedig, a fydd yn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth a’n gwerthoedd o ran amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae’r strategaeth yn nodi sut y mae ein staff yn hyrwyddo ac yn sicrhau gwasanaethau cynhwysol a hygyrch ac yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol i bobl. Bydd hefyd yn ein helpu i gynllunio sut rydym yn cydymffurfio â’r dyletswyddau a roddwyd ar Gomisiwn y Cynulliad gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a hefyd gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan gwmpasu pob un o’r nodweddion gwarchodedig a materion eraill fel cyfrifoldebau gofalu, symudedd cymdeithasol ac anghydraddoldebau eraill.

Fel cyflogwr a darparwr gwasanaethau, mae ein sefydliad wedi ymrwymo i sicrhau nad oes unrhyw un dan anfantais nac yn dioddef gwahaniaethu yn ei erbyn ar y seiliau hyn: bydd ein gweithdrefnau disgyblu yn ymdrin ag ymddygiad gwahaniaethol. Hefyd, fel cyflogwr, rydym yn annog arferion gweithio hyblyg, tra’n darparu ar gyfer anghenion ein busnes.

Yn unol â nodau strategol Comisiwn y Cynulliad, mae’n bwysig inni bod y Cynulliad yn parhau i fod yn hygyrch i bobl Cymru a thu hwnt: gan ei gwneud yn berthnasol, hawdd ac ystyrlon i bobl ryngweithio ag ef a chyfrannu at ei waith.

Mae hefyd yn bwysig inni ein bod yn ymddwyn fel cyflogwr cynhwysol, gan ddenu a chadw talent a galluogi pawb a gyflogwn i wireddu eu llawn botensial.


Manon Antoniazzi – Prif Weithredwr a Chlerc


PARCH

Rydym yn gynhwysol ac yn garedig, ac rydym yn gwerthfawrogi cyfraniadau ein gilydd wrth ddarparu gwasanaethau rhagorol

ANGERDD

Rydym yn bwrpasol wrth gefnogi democratiaeth, gan dynnu ynghyd i wneud gwahaniaeth i bobl Cymru

BALCHDER

Rydym yn arddel arloesedd ac yn dathlu ein llwyddiannau fel tîm

UN TÎM YDYM NI

Cwrdd â’r tîm: Swyddogion Diogelwch

Mae ein Swyddogion Diogelwch yn gyfrifol am ddiogelwch pawb sy’n ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn gweithio yma.  Dyma rai ohonynt yn siarad am y rôl…

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Shazad

Shahzad, Swyddog Diogelwch

“Rwyf wedi bod yn gweithio ym maes Diogelwch ers chwe mis bellach. Rwyf wedi cael y profiadau mwyaf anhygoel a rhyfeddol.  Mae gallu gweithio yn y Cynulliad Cenedlaethol a bod yn aelod o’i staff yn anrhydedd ynddo’i hun ac destun balchder imi.

Mae amrywiaeth ac ethos amlddiwylliannol yn werthoedd craidd i’r Cynulliad Cenedlaethol . Rwyf wedi gweld plant ysgol lleol o Gymru, elusennau, gwahanol gefndiroedd ethnig a sefydliadau o bob cefndir yn fy swydd fel Swyddog Diogelwch. O bobl leol o’r Gymdeithas Gweithwyr Proffesiynol Mwslimaidd i’r Gymdeithas Awtistiaeth i’r fforwm menywod lleol i enwi dim ond rhai. Teimlaf fod gennym gymaint i’w gynnig yn ein hadeiladau eiconig sef Tŷ Hywel, y Senedd a’r Pierhead. 

Mae diwylliannau lleol a’r cyhoedd yn gyffredinol o bob cefndir yn ymweld â ni bob dydd ac rydym yn gymaint o arwydd o obaith a ffyniant. Yn ystod y chwe mis diwethaf rwyf wedi gweld newid cadarnhaol ynof fy hun ac rwyf wedi ffynnu o ran gwydnwch i ymrwymiad a’r gallu i addasu yn ôl anghenion a gofynion busnes. Rwyf wedi datblygu ynof fy hun ac mae pob dydd yn broses o ddysgu.

Rwyf yn dysgu Cymraeg ar hyn o bryd ac wedi bod ar nifer o gyrsiau.  Mae cymaint o gyfleoedd i wella sgiliau a datblygu o fewn fy swydd.  Rwyf hefyd yn gallu rhoi amser i’m teulu oherwydd gwahanol batrymau gwaith a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.  Teimlaf fod y gallu i siarad gwahanol dafodieithoedd o gefndir Asiaidd, a’r llawenydd y mae’n ei roi i’r cyhoedd a minnau, yn ddefnyddiol iawn.  Dim ond tra fy mod yn gweithio i’r Cynulliad Cenedlaethol y buhyn yn bosibl.

Mae’r diwylliant cadarnhaol a’r agwedd broffesiynol gyfeillgar, ynghyd â gwaith caled, wrth wraidd yr hyn a wnawn ym maes Diogelwch. Felly rydym yn gadarn ond mewn cysylltiad â’n gwasanaeth cwsmeriaid ar yr un pryd, gan gadw at gôd proffesiynol bob amser.

Y cymorth personol yr wyf yn ei gael yw’r gorau yr wyf wedi’i weld yn fy ngyrfa gyfan.  Mae’r gefnogaeth a’r cymorth a gaf gan fy nghydweithwyr, fy rheolwyr a’m huwch reolwyr wedi bod yn wych. Rwy’n falch o fod yn rhan o dîm Diogelwch y Cynulliad Cenedlaethol ac edrychaf ymlaen at yrfa hir.”


Chris

Chris, Swyddog Diogelwch

“Mae fy nghyfrifoldebau fel Swyddog Diogelwch yn amrywio o ddydd i ddydd.  Mae’n rôl heriol sy’n gofyn am wyliadwriaeth a pwyll cyson sy’n anodd ond yn werth chweil. Mae gwaith tîm yn amlwg yn yr adran bob dydd, ac mae yno gysondeb sy’n hanfodol ar gyfer sicrhau diogelwch y cyhoedd. Mae’n wych gweithio ochr yn ochr â’r heddlu ac asiantaethau allanol i gynnal lles yr holl ymwelwyr a staff ar ystâd y Cynulliad.

Mae amlder digwyddiadau a chylchdroi rolau yn gwneud bob dydd yn ddiddorol, o Gyfarfod Llawn wythnosol i’r Eisteddfod Genedlaethol, Cynghrair y Pencampwyr i ddathliadau’r Gamp Lawn.  Mae digon o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau trwy gael mynediad i hyfforddiant neu gyrsiau ar y safle ac edrychaf ymlaen at ddatblygu fy rôl ymhellach yn y Cynulliad.”

Stacey

Stacey, Swyddog Diogelwch

“Mae gweithio fel rhan o’r tîm diogelwch yn swydd amrywiol ac nid oes dau ddiwrnod yr un fath. Rydym yn cael y cyfle i ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws y sefydliad cyfan ac ag aelodau o’r cyhoedd o bob cefndir. Rydym hefyd yn cael ymwneud â rheoli’r amgylchedd gwleidyddol yn y Cynulliad gan weithio’n agos gyda’r Aelodau eu hunain. Rydym yn gweithio patrwm sifft amrywiol sy’n well na gweithio’r un oriau gwaith dinod bob wythnos.

Mae elfen hyfforddi i’r swydd hefyd, sy’n annog y tîm i gael hyfforddiant mewn cymorth cyntaf, rheoli gwrthdaro a gweithdrefnau gwacáu i enwi dim ond rhai.

Rydym hefyd yn cael y cyfle i weithio mewn digwyddiadau mawreddog fel digwyddiadau i groesawu tîm rygbi Cymru, Geraint Thomas a thimau Olympaidd Prydain Fawr.

Mae cyfle i fod yn rhan o ryw ddigwyddiad o hyd a’r amrywiaeth sydd ynghlwm â’r swydd sy’n ei gwneud mor ddiddorol.”


Swyddogion Diogelwch yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer Aelodau’r Cynulliad, staff a phawb sy’n ymweld â’r Senedd, y Pierhead ac adeiladau Tŷ Hywel.  Rhaid iddynt allu darparu gwasanaeth cwsmeriaid o’r radd flaenaf, ynghyd â’r sgiliau angenrheidiol i amddiffyn y bobl, yr eiddo a’r offer o fewn yr ystâd. 


Rydym yn recriwtio ar gyfer Swyddogion Diogelwch newydd ar hyn o bryd.

Am fwy o wybodaeth ac i wneud ffuflen gais, ewch yma i fynd i’n tudalenau recriwtio.

Ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru: Wythnos ymwybyddiaeth awtistiaeth y byd

Yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru rydym yn falch o hyrwyddo cydraddoldeb i bawb.

Untitled design (1)
Ch-D: Ty Hywel, Y Senedd, Y Pierhead

Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein hadeiladau yn hygyrch i ymwelwyr ag awtistiaeth.

Y Senedd yw prif adeilad cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n cynnwys siambr drafod eiconig, pensaernïaeth syfrdanol a golygfeydd dros Fae Caerdydd, ac hefyd gall y cyhoedd ymweld ag ef drwy gydol y flwyddyn am ddim.

Y Pierhead yw’r adeilad brics coch gyda thŵr cloc, sy’n agos at y Senedd. Un o’r adeiladau hynaf a harddaf ym Mae Caerdydd, mae’n agored i’r cyhoedd ddod draw i’w weld bob dydd.

Tŷ Hywel yw’r adeilad lle mae Aelodau’r Cynulliad a staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gweithio. Er nad yw hwn yn atyniad i ymwelwyr, gall pobl fynd i mewn i’r adeilad i ymweld ag Aelod Cynulliad neu aelod o staff. Rydym hefyd yn cynnig gweithdai addysgol yn yr adeilad hwn, lle mae gennym siambr drafod arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc yn unig.

Rydym wedi creu tudalen we i ddarparu gwybodaeth i ymwelwyr ag awtistiaeth, a chanllawiau sy’n cwmpasu pob adeilad yn fanwl. Ar y dudalen hon, edrychwn ar y Senedd, adeiladau’r Pierhead a Thŷ Hywel, a rhai o’r pethau y gall ymwelwyr fod yn poeni amdanynt, gan gynnwys:

  • Gwiriadau diogelwch, a beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n mynd i mewn i’r adeiladau;
  • Sŵn i’w ddisgwyl a recordiadau o’r synau y gallech eu clywed;
  • Materion synhwyraidd fel goleuo ac arogleuon;
  • Gwybodaeth am ein Hystafelloedd Tawel, y gellir eu defnyddio ar gyfer gweddi, myfyrio; tawel, neu seibiant tawel i bobl sy’n cael trafferth gyda gorlwytho synhwyraidd.

Gallwch hefyd ofyn am unrhyw un o’r canllawiau ar ffurf:

  • Copi caled
  • Fersiwn hawdd ei darllen
  • Print bras

Gallwch ddod o hyd i’r holl ganllawiau, recordiadau sain a rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Ymwelwyr â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistiaeth.

Yn ogystal ag ymwelwyr â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth, rydym yn ymdrechu i wneud ein hadeiladau yn hygyrch i bob ymwelydd. Mae ein cyfleusterau yn cynnwys:

  • Rampiau a lifftiau
  • Labelu sy’n gyfeillgar i awtistiaeth
  • Systemau dolenni clyw
  • Llogi cadeiriau olwyn
  • Amrywiaeth o gyfleusterau toiled gan gynnwys toiledau niwtral o ran rhywedd, toiledau hygyrch, cyfleuster Newid Lleoedd gyda theclyn codi i oedolion, a thoiledau i bobl â phroblemau symudedd. Mannau parcio i’r anabl.

Mae rhagor o wybodaeth am y pethau yr ydym wedi’u cynnwys wrth ddylunio ein hystâd i sicrhau bod yr adeilad yn cyrraedd ei darged o fod yn esiampl o ran hygyrchedd, ar gael ar ein gwefan: Diogelwch a Mynediad.

Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau eich ymweliad, ac rydym yn croesawu adborth ar unrhyw welliannau y gallem eu gwneud.


Mae rhagor o wybodaeth am ein hymrwymiad i Amrywiaeth a Chynhwysiant wedi’i nodi yn ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 2016-21.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau gallwch gysylltu â ni ar 0300 200 6565 neu anfonwch neges e-bost at cyswllt@cynulliad.cymru.


Beth am gael y Canllaw? (PDF, 140 KB)

Diwrnod Mynediad i’r Anabl – Cynulliad Cenedlaethol Cymru, lleoliad hygyrch i ymwelwyr a staff

View this post in English

Awdur ein blog gwadd yw Catrin Greaves, ac mae Catrin newydd ddechrau gweithio gyda thîm y Gwasanaethau Ymwelwyr a Lleoliadau Seneddol. Mae hi’n trafod hynt a helynt bywyd gwaith i rywun sy’n byw gyda’r cyflwr niwrolegol dyspracsia, a sut brofiad yw gweithio yn y Cynulliad i rywun fel hi wrth i ni nodi Diwrnod Mynediad i’r Anabl ar 16 Mawrth.

Beth yw Dyspracsia?

Mae dyspracsia neu Anhwylder Cydlynu Datblygiadol yn gyflwr cyffredin sy’n para am oes ac sy’n effeithio ar sut mae’r ymennydd a’r corff yn cyfathrebu â’i gilydd.

Nid oes unrhyw achos y gwyddys amdano i  ddyspracsia, er, fel yn fy achos i, gall fod yn gysylltiedig â chael eich geni’n gynamserol.  Gall rhywun sy’n byw gyda dyspracsia brofi amrywiaeth o symptomau, gan gynnwys anhawster gyda sgiliau echddygol, anhawster i ddeall a dilyn cyfarwyddiadau a chyfeiriadau, problemau cof tymor byr, anhawster wrth gynllunio a chydlynu gweithgareddau dyddiol, a materion synhwyraidd, lle gall person fod yn or-sensitif neu’n ansensitif i ysgogiad fel sain, cyffyrddiad, arogl neu dymheredd.

Mae gan bobl â dyspracsia eu heriau unigryw eu hunain a dylid trin pawb fel unigolyn gyda’u hanghenion penodol eu hunain. Fel y bydda i’n hoffi dweud, os ydych wedi cwrdd â rhywun â dyspracsia, rydych wedi cwrdd ag un person yn unig â dyspracsia.

             ‘Hi yw un o’r bobl mwyaf clyfar rwy’n eu nabod, ond ni all ddefnyddio llungopïwr…’

Dywedwyd hyn amdanaf unwaith gan gyn reolwr! Mae’n amlygu’n berffaith nad yw dyspracsia yn effeithio ar ddeallusrwydd rhywun, ond gall effeithio ar lawer o dasgau bob dydd.

I gael gwybod rhagor am ddyspracsia, ewch i wefan y Sefydliad Dyspracsia.

Beth yw bywyd gwaith i rywun sydd â’r cyflwr niwrolegol dyspracsia?

Gall dyspracsia achosi llawer o heriau yn y gweithle, a phosibilrwydd i ddigwyddiadau y byddaf fi’n eu galw yn ‘dyspracsidents’! Gall y digwyddiadau gynnwys: baglu; anghofio pethau; mynd ar goll dro ar ôl tro; teimlo panig pan fydd y ffôn yn canu, neu pan mae cydweithiwr yn ceisio siarad â chi a bydd cloch y Cyfarfod Llawn yn canu ar yr un pryd, ac ati.

Mae rhai o’r pethau rwy’n ei chael yn anodd yn cynnwys:

  • Gorlwytho synhwyraidd, yn enwedig mewn perthynas â sŵn sy’n gwrthdaro.
  • Problemau cof tymor byr.
  • Anhawster dysgu dilyniannau newydd er mwyn cwblhau tasgau ymarferol.
  • Anawsterau o ran rheoli amser a chynllunio.
  • Anhawster gyda chyfarwyddiadau a rhifau (nid Mathemateg oedd fy hoff bwnc yn yr ysgol!).

Fodd bynnag, gyda pheth dealltwriaeth ac ychydig o addasiadau syml, rwy’n gweld fy nyspracsia fel ased. Mae pobl â dyspracsia yn tueddu i fedru dangos llawer o empathi, sy’n ddefnyddiol iawn i mi yn fy rôl o ymgysylltu ag ymwelwyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd ac sydd â gofynion gwahanol.

Gall staff sydd â gwahaniaethau niwrolegol amrywiol gyflwyno ffordd wahanol o feddwl i sefydliad, a dod â chyfres unigryw o sgiliau a chryfderau.

Fy Swyddogaeth – Gweithio yn y Cynulliad â dyspracsia

A minnau’n gweithio fel Cynorthwy-ydd Ymgysylltu ag Ymwelwyr, mae fy rôl yn amrywiol a diddorol. Rwy’n gweithio ar draws yr holl leoliadau ar ystâd y Cynulliad, gan gynnwys y Senedd ac adeilad hanesyddol y Pierhead.

Rwy’n helpu’r cyhoedd i gael eu hysbrydoli gan waith y Cynulliad ac i ddysgu amdano. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o bobl, gan gynnwys twristiaid a phobl leol, myfyrwyr a grwpiau teuluol. Rwy’n cynnal teithiau o amgylch yr adeilad, gan ymgysylltu ag ymwelwyr ar lawer o bynciau, gan gynnwys yr amgylchedd, diwylliant Cymru ac wrth gwrs, y gwaith gwleidyddol sy’n digwydd yn yr adeilad.

Rwyf hefyd yn cyfrannu at redeg busnes y Cynulliad yn ddidrafferth, gan sicrhau bod y bobl iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn. Tydi hon ddim yn dasg hawdd bob amser i berson â dyspracsia!

Oherwydd fy mod yn cynnal teithiau o amgylch yr adeilad, rwyf wedi perffeithio fy ngwybodaeth am ba mor hygyrch yw’r adeilad ar gyfer ymwelwyr, ac rwy’n falch o ddweud ein bod yn lleoliad hygyrch. Mae ein cyfleusterau’n cynnwys:

  • Rampiau a lifftiau.
  • Labelu sy’n gyfeillgar i awtistiaeth.
  • Systemau dolenni clyw.
  • Llogi cadeiriau olwyn.
  • Amrywiaeth o wahanol gyfleusterau toiled gan gynnwys toiledau niwtral o ran rhywedd, toiledau hygyrch, toiled â chymhorthion gan gynnwys cyfarpar codi ar gyfer oedolion, a thoiledau i bobl â phroblemau symudedd.
  • Mannau parcio i’r anabl.
  • Ystafell dawel ar gyfer gweddi, lleddfu straen, myfyrdod a lle tawel i ymwelwyr gofidus.
  • Tudalen benodol ar y we i ‘Ymwelwyr ag Awtistiaeth’.

Mae rhagor o wybodaeth am y gwelliannau sydd wedi’u cynnwys yn nyluniad ein hystâd, i sicrhau bod yr adeilad yn cyrraedd ei darged o fod yn esiampl o ran hygyrchedd yn y sector cyhoeddus, ar gael ar ein ‘gwefan ‘Mynediad’.

Lleoliad hygyrch i ymwelwyr a staff

Yn ogystal â chael amrywiaeth o gyfleusterau ar y safle sy’n sicrhau ein bod yn sefydliad hygyrch, mae’r Cynulliad hefyd yn hyrwyddo hygyrchedd i’w weithwyr. Gan fy mod i’n treulio mwy na deng awr ar hugain yn ein hadeiladau bob wythnos, rwy’n falch o ddweud bod y Cynulliad yn wir yn rhoi ystyriaeth i lesiant y bobl sy’n gweithio yma:

“Rwy’n credu ei bod yn bwysig bod y Cynulliad yn arwain y ffordd o ran hyrwyddo diwylliant sefydliadol cynhwysol, a’i fod yn gorff seneddol modern a hygyrch y gall pobl o ystod amrywiol o gefndiroedd ryngweithio yn hawdd ac yn ystyrlon ag ef. Mae’n ddyletswydd arnom ni yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i arwain yn hyn o beth, i rannu ein profiadau, ac i sicrhau bod gwerthoedd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu parchu a’u harfer gan bawb.”

Elin Jones AC, Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn unol â’i werthoedd, mae gan y Cynulliad amrywiaeth o gyfleusterau sydd wedi’i gwneud yn haws i weithwyr fel fi, ac i sbectrwm eang o weithwyr sydd ag anghenion penodol i’w hystyried, gyflawni ein rôl. Gall yr anghenion hyn fod yn anableddau, yn ymrwymiadau teuluol neu yn rhwymedigaethau crefyddol.

Yn benodol, rwy’n manteisio ar ein:

  • Hystafelloedd Tawel, y gellir eu defnyddio am sawl rheswm gwahanol, gan gynnwys gweddïo, myfyrio tawel, neu seibiant i bobl sy’n cael trafferth gyda gorlwytho synhwyraidd. Bydda i’n defnyddio’r stafell yn aml pan fydd fy ymennydd yn teimlo’n rhy llawn o wahanol olygfeydd a synau yn yr adeilad Cynulliad prysur hwn.
  • Rhwydwaith Anabledd i staff, sy’n helpu pobl i gysylltu â’i gilydd, i rannu eu heriau unigryw ac i hyrwyddo materion  sydd o ddiddordeb arbennig iddynt ar draws y sefydliad.
  • Rhwydwaith MINDFUL, sy’n hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol. Mae hyn yn bwysig i mi oherwydd gall dyspracsia effeithio’n andwyol ar iechyd meddwl, gan fod pobl dyspracsig yn fwy tueddol o ddioddef pryder ac iselder.

Mae rhagor o wybodaeth am ein rhwydweithiau ar gael ar y wefan amrywiaeth.

Addasiad rhesymol arall sy’n fy helpu i yw bod fy rheolwr cyfeillgar weithiau’n cynnig ysgogiadau ysgafn i wneud yn siŵr fy mod ar y trywydd iawn gyda fy ngwaith.

Mae hyn yn ddefnyddiol iawn oherwydd gall fy symptomau dyspracsia amrywio, a byddaf yn cael diwrnodiau da a diwrnodiau dim cystal, pan fyddaf yn gallu teimlo mod i wedi fy llethu, neu fod gen i fwy o gymhelliant. Caniateir i mi hefyd weithio’n llai aml yn ein safle yn Nhŷ Hywel, lle mae swyddfeydd y gwleidyddion, oherwydd gall y fan hon fynd yn arbennig o brysur a swnllyd ar adegau.

Mae fy nhîm wedi fy helpu i wneud yn fawr o’m cryfderau, ac mae eu hagwedd gadarnhaol wedi fy helpu i deimlo sicrwydd eu bod yn fy nghefnogi a fy mod yn aelod gwerthfawr o’r staff.

Mae ymrwymiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i fod yn sefydliad cynhwysol, wedi sicrhau nifer o wobrau mawreddog iddo dros y blynyddoedd, o ran ei ymrwymiad i gynhwysiant ac amrywiaeth. Mae’r rhain yn cynnwys cael ei gydnabod fel:

  • Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau’r DU
  • Deiliad Gwobr ‘Awtistiaeth Gyfeillgar’ Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth.
  • Y cyflogwr gorau ar gyfer teuluoedd sy’n gweithio.
  • Hyrwyddwr Cyflogwr Oedran
  • Deiliad nod siarter ‘Mwy na Geiriau’ Action on Hearing Loss, a deiliad Gwobr Rhagoriaeth Gwasanaeth.
  • Cyflogwr sy’n cynnal ei Safon Aur Buddsoddwyr mewn Pobl, sef y dyfarniad rhyngwladol ar gyfer rhagoriaeth fyd-eang.

I gael rhagor o wybodaeth am weithio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ewch i’n tudalennau Recriwtio. Mae rhagor o wybodaeth am ein hymrwymiad i Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gael yn ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 2016-21.

Cael gwared o’r rhwystrau i annog cynulleidfa amrywiol a chynrychioliadol i fywyd cyhoeddus

Daw ein herthygl blog gwadd gan y Dirprwy Lywydd, Ann Jones AC wrth inni nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau ar 3 Rhagfyr.

A minnau wedi bod yn wleidydd ers nifer o flynyddoedd, rwyf wedi gorfod wynebu nifer o rwystrau. Mae rhai ohonynt yn sgil fy anabledd ac rwyf wedi gweithio’n galed i oresgyn y rhwystrau hyn. Rwyf wedi bod yn ddigon lwcus i gael llawer o gefnogaeth gan fy nheulu, cydweithwyr ac yn y gweithlu, sydd wedi cael effaith fawr ar fy mywyd.Rwy’n gwybod o fy mhrofiad fy hun bod y rhwystrau sy’n wynebu pobl anabl yn gallu bod yn annymunol a gall rhwystro pobl rhag cymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddiaeth. Mae’n rhaid i ni gael gwared ar y rhwystrau hyn er mwyn annog cynulleidfa amrywiol a chynrychioliadol i fywyd cyhoeddus.

Gall y rhwystrau y mae pobl anabl ddod ar eu traws gynnwys:

  • Canfyddiadol – yn seiliedig ar safbwynt hygyrchedd neu safbwynt pobl o bobl anabl;
  • Amgylcheddol – yn seiliedig ar hygyrchedd ofod corfforol; neu
  • Gweithdrefnol – yn seiliedig ar y polisïau a gweithdrefnau ar waith.

Fy mam oedd fy ysbrydoliaeth i mi, ac fe wnaeth hi’n siŵr fy mod i’n cael yr holl gyfleoedd ag yr oedd pobl heb anabledd yn eu cael. Dyma beth sydd angen i ni ei wneud ar gyfer y cyhoedd ehangach, drwy gael gwared ar y rhwystrau hyn.

Ymrwymiad i hyrwyddo amrywiaeth

Rwy’n teimlo hi’n fraint fawr cael bod yn Ddirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Rwy’n awyddus i ddefnyddio fy rôl i dynnu sylw at faterion o bwys. Y ddwy thema rwyf wedi bod yn canolbwyntio arnynt hyd yma yw ‘Menywod mewn Gwleidyddiaeth’ a ‘Hyrwyddo Cynulliad Hygyrch’. Dros y blynyddoedd, mae’r Cynulliad wedi ennill nifer o wobrau nodedig am ei ymrwymiad i gynhwysiant ac amrywiaeth.

Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol, ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt:

  • Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall, lle mae’r Cynulliad wedi’i gydnabod fel y Cyflogwr Gorau yn y DU yn 2018 ac mae wedi bod yn un o Gyflogwyr Gorau’r DU ar gyfer pobl LGBT bob blwyddyn ers 2009
  • Gwobr Awtistiaeth Gyfeillgar y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol
  • Mae’n un o deg cyflogwr gorau’r DU, wedi’i achredu gan y sefydliad Cyflogwyr Gorau i Deuluoedd sy’n Gweithio
  • Statws Cyflogwr sy’n Gadarnhaol am Heneiddio
  • Marc siarter ‘Yn Uwch na Geiriau’ Action on Hearing Loss, a Gwobrau Rhagoriaeth Gwasanaeth.

Mae’r Cynulliad wedi ymrwymo i hyrwyddo amrywiaeth, cynhwysiant a chyfle cyfartal i staff a phobl Cymru. Mae tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant ymroddedig yng Nghomisiwn y Cynulliad ynghyd â Phwyllgor yn y Cynulliad (y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau) sy’n mynd i’r afael â’r materion hyn o bob dydd. Yn ychwanegol at hyn, mae adroddiad wedi’i gomisiynu gan Fwrdd Taliadau’r Cynulliad i nodi rhwystrau a chymhellion i bobl anabl sefyll mewn etholiad.

Rydym yn falch bod gennym adeilad hygyrch a’r polisïau, gweithdrefnau a hyfforddiant ar waith i sicrhau y gall pobl anabl gymryd rhan lawn yn ein democratiaeth. Boed yn Aelod Cynulliad, aelod o staff neu’n ymwelydd.

Ond mae wedi bod yn dipyn o daith. Rydym wedi gweithio’n galed dros nifer o flynyddoedd i barhau i wella hygyrchedd ein hadeiladau a’r cymorth sydd gennym i bobl anabl.

Dylunio cartref cynhwysol o’r tu mewn i’r tu allan

Pan roedd pensaer y Senedd yn rhoi ei gynlluniau ar waith, sylwais nad oedd rhai o’r nodweddion dylunio yn ystyried anableddau. Roedd y waliau gwydr mawr yn gwbl dryloyw, gan ei gwneud hi’n anodd iawn i berson â nam ar y golwg weld. Cyflwynais fy syniad i gynnwys cymhorthion gweledol fel dotiau mawr ar yr arwyneb gwydr. Roedd yn rhaid i mi wthio’r syniad nifer o weithiau cyn y cytunwyd arno. Wedi’r cyfan, os yw’n iawn i berson ag anabledd, mae’n iawn i bawb. Dyma’r newidiadau bach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr.

Yn 2017, roeddwn i’n ddigon ffodus i fynd i gynhadledd agoriadol i seneddwyr ag anableddau Cymdeithasol Seneddol y Gymanwlad yn Nova Scotia, Canada. Roedd yn ysbrydoliaeth gweld y brwydrau a’r llwyddiannau roedd pobl o bob rhan o’r Gymanwlad wedi’u profi. Roeddwn i’n falch iawn o roi sylw i Gymru a dangos ein hadeilad Seneddol gwych. Mae hwn wedi’i sefydlu bellach fel rhwydwaith annibynnol yn enw Seneddwyr y Gymanwlad ag Anableddau (CPwD). Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn ysgogi newid cadarnhaol drwy’r Gymanwlad ac yn wir, yn y byd, mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus i gyd.

Ann Jones gyda Kevin Murphy, llefarydd Cynulliad Nova Scotia yng Nghanada
Ann Jones AC gyda Kevin Murphy, MLA, llefarydd Cynulliad Nova Scotia yng Nghanada

Byddwn yn annog pob person anabl sy’n darllen y blog hwn i ystyried pa rôl y gallwch ei chwarae mewn bywyd cyhoeddus, p’un a ydych chi’n gwirfoddoli yn eich cymuned, gwneud cais am rôl gyhoeddus neu drwy sefyll fel Aelod Cynulliad.

Mae’n bwysig, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anabledd, ein bod ni’n cofio bod gan bobl anabl lais sydd angen ei glywed, ac y dylid herio a chael gwared ar unrhyw rwystrau rhag cymryd rhan. Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae i helpu i nodi rhwystrau i bobl anabl a chael gwared arnynt.

Mae gan Aelodau etholedig rôl bwysig i’w chwarae, p’un a ydynt yn anabl neu beidio, i roi llais i anghenion pobl anabl.  Mae cael ymgyrchwyr ac eiriolwyr yn bwysig iawn hefyd ond mae gwerth cael cynrychiolwyr etholedig sydd wedi profi anawsterau ac wedi’u trechu yn amhrisiadwy. Dyna pam bod angen gwneud mwy, i ymdrechu ar gyfer cydraddoldeb a chynhwysiant ym mhob agwedd ar fywyd.