Author: chrisblogassembly

System ddemocrataidd hyblyg sy’n gweithio ar ran pobl Cymru yn ystod pandemig y Coronafeirws

Drwy gydol pandemig y Coronafeirws, mae’r Senedd wedi arwain y ffordd o ran arloesi er mwyn sicrhau bod pobl Cymru yn parhau i gael eu cynrychioli gan eu Haelodau etholedig, a bod y Llywodraeth yn parhau i fod yn destun gwaith craffu cadarn.

Cyfarfod ar-lein cyntaf y Senedd ym mis Ebrill 2020.

Mae Senedd Cymru wedi datblygu datrysiadau newydd i’r heriau digynsail y mae wedi’u hwynebu, gan gynnwys datblygu ap pleidleisio ei hun ar gyfer Aelodau, a chadarnhau ei statws fel y ddeddfwrfa gyntaf yn y DU i gynnal Cyfarfodydd Llawn rhithwir.

Pan roddwyd y cyfyngiadau symud ar waith, llwyddodd y Senedd i addasu yn gyflym. Senedd Cymru oedd Senedd gyntaf y DU i gynnal Cyfarfod Llawn rhithwir, ar 1 Ebrill. Cynhaliwyd ei sesiwn gyntaf i gael ei ffrydio’n fyw wythnos yn ddiweddarach.

Yr her gyntaf oedd ceisio cysylltu Aelodau o bob cwr o’r wlad. Roedd angen meddwl yn ofalus am sut y byddai modd cynnal trafodion di-dor, a hynny gan roi cyfle i bob Aelod siarad yn eu dewis iaith.

Cynhaliwyd profion trylwyr ar lwyfannau a chymwysiadau amrywiol er mwyn datblygu system i gefnogi ffrwd sain ddwyieithog, yn Saesneg ac yn Gymraeg, a hynny er mwyn caniatáu i Aelodau gyfrannu yn eu dewis iaith, ac i wylwyr wylio yn yr un modd, ac er mwyn caniatáu i gyfranwyr symud yn hwylus o un iaith i’r llall heb darfu ar lif y trafodion.

Yn sgil hynny, ysgogwyd nifer o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat i ofyn i Gomisiwn y Senedd am gyngor a chanllawiau ynghylch sut i gynnal eu cyfarfodydd dwyieithog eu hunain.

Defnyddiwyd yr un dechnoleg ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau’r Senedd, ac ar gyfer y cyfarfod a gynhaliwyd rhwng Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru â Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru, a Gweinidogion Llywodraeth Cymru.

Cyfarfod Senedd Ieuenctid Cymru â’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio, cyflwynwyd model hybrid ar gyfer y Cyfarfod Llawn. O dan y drefn honno, caniatawyd i 20 o Aelodau gwrdd yn ddiogel yn Siambr y Senedd, ac roedd cyfle i’r 40 Aelod a oedd yn weddill ymuno â’r cyfarfod ar-lein. Yn gychwynnol, defnyddiwyd pleidlais floc ar gyfer yr Aelodau. Fodd bynnag, cyflwynwyd technoleg newydd er mwyn caniatáu i bob Aelod bleidleisio’n unigol ar ddeddfwriaeth a rheoliadau pwysig.

Datblygwyd ap pleidleisio unigryw gan staff TG arbenigol y Senedd, gan ddefnyddio meddalwedd  a gafodd ei dylunio gan y tîm datblygu apiau mewnol. Ar ôl cyfnod helaeth o brofi, gan gynnwys cynnal  miloedd o bleidleisiau ffug, defnyddiwyd yr ap am y tro cyntaf yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 8 Gorffennaf.

Ers mabwysiadu’r datblygiadau newydd hyn, mae’r Senedd wedi bod yn rhannu ei phrofiadau a’i gwybodaeth â deddfwrfeydd eraill, gan gynnwys Senedd y DU a Senedd yr Alban, a deddfwrfeydd mewn lleoedd mor bell i ffwrdd ag Awstralia, Seland Newydd a Chanada.

Dywedodd  Elin Jones AS, Llywydd y Senedd:

Mae’r Senedd bob amser wedi datblygu a mabwysiadu technoleg newydd sy’n cyd-fynd â disgwyliadau cymdeithas fodern, a hynny er mwyn sicrhau bod pobl yn deall y gwaith sy’n cael ei wneud ar eu rhan ac yn gallu ei lywio.

Rwy’n falch o’r hyn y mae ein tîm TGCh mewnol a’n partneriaid wedi’i gyflawni o dan amgylchiadau anodd iawn, gan alluogi’r Senedd i barhau i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar y penderfyniadau y mae Gweinidogion wedi’u cymryd yn ystod y pandemig hwn.

Yn wyneb yr her newydd o gyfuno elfennau rhithwir a phresenoldeb corfforol Aelodau o dan reolau pellhau cymdeithasol llym yn ystod y Cyfarfod Llawn hybrid, roedd gofyn datblygu dulliau newydd a oedd yn integreiddio dwy system dechnolegol ar wahân er mwyn cynnal trefn y trafodion.

Dywedodd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd:

Ar bob cam, rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau uniondeb trafodion y Senedd, fel y gall yr Aelodau a phobl Cymru fod yn siŵr bod pob cam sy’n cael ei gymryd yn cydymffurfio â’n safonau uchel, ynghyd â’r gwerthoedd a’r egwyddorion sy’n llywio’r sefydliad hwn.

Roedd angen system arnom y gallai Aelodau gael mynediad ati’n hwylus, a system a oedd yn ddibynadwy ac yn ddiogel ac a oedd yn caniatáu i drafodion gael eu cynnal mewn modd mor ddidrafferth â phosibl.

Mae’r adborth a gawsom gan yr Aelodau a’r cyhoedd wedi bod yn gadarnhaol dros ben, ac mae llawer y gallwn ei ddysgu o’r profiadau hyn a all ein helpu i lunio sut y gall y Senedd hon, a Seneddau eraill, weithredu yn y dyfodol.

Roedd y cam o ddatblygu ap pleidleisio arbennig yn gam pwysig, gan ei fod yn caniatáu i Aelodau daro pleidlais unigol electronig o unrhyw fan ar faterion pwysig, gan gynnwys deddfwriaeth, newidiadau i reoliadau a dadleuon.

Dywedodd Mark Neilson, Pennaeth TGCh a Darlledu:

Fel nifer o sefydliadau ledled y byd, rydym wedi wynebu nifer o heriau i’w goresgyn yn sgil cyfyngiadau symud y Coronafeirws. Fodd bynnag, mae’r sefyllfa hon hefyd wedi cyflymu’r broses o brofi ac arbrofi mewn perthynas â systemau ac offer a allai fod wedi cymryd blynyddoedd i ddwyn ffrwyth o dan amgylchiadau arferol.

Mae wedi bod yn her inni geisio datblygu gwasanaethau addas i alluogi’r Senedd i gynnal cyfarfodydd rhithwir yn y man cyntaf, ac yna i gynnal cyfarfodydd hybrid, ac i sicrhau bod y cyfarfodydd hyn yn bodloni ein safonau uchel o ran dibynadwyedd a diogelwch.

Dibynadwyedd a diogelwch oedd yr ystyriaethau pwysicaf wrth ddatblygu’r ap pleidleisio, a dyna pam y buom yn gweithio gyda Chanolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol y DU yn gynnar yn y broses er mwyn lliniaru’r posibilrwydd o ymyrraeth allanol â thrafodion y Senedd.

Bydd y Senedd yn parhau i gynnal cyfarfodydd hybrid, gan asesu’n barhaus y posibilrwydd o lacio’r cyfyngiadau symud, yn unol â’r cyngor a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau partner eraill.

Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd – y wybodaeth ddiweddaraf gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Ar ôl datgan argyfwng iechyd cyhoeddus COVID-19, newidiodd pwyllgorau’r Senedd bwyslais eu gwaith i ganolbwyntio ar ymateb i’r argyfwng, fel cynifer o sefydliadau eraill. O ran y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, ystyr hyn yw oedi o ran rhywfaint o’n gwaith a gynlluniwyd, wrth inni ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio.

Mae’r deg wythnos ddiwethaf wedi rhoi cyfle inni addasu ein harferion gwaith yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, a diwygio ein rhaglen waith i adlewyrchu’r sefyllfa ehangach.

Er mai ymateb i’r pandemig yw prif flaenoriaeth y Llywodraeth o hyd, rhaid inni beidio ag anghofio bod y DU mewn cyfnod o bontio wrth ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, ac fel y mae pethau ar hyn o bryd, byddwn wedi gadael gyda chytundeb neu â dim cytundeb masnach ar 1 Ionawr 2021. Am y rheswm hwn, mae’r Pwyllgor yn parhau i ganolbwyntio ar ei gylch gwaith o ran edrych yn fanwl ar oblygiadau ymadawiad y DU â’r UE i Gymru.

Er mwyn cyflawni hyn, cyfarfu’r Pwyllgor o bell ac yn anffurfiol ym mis Ebrill i gytuno ar ei gamau nesaf, ac ers hynny mae wedi cynnal dau gyfarfod ffurfiol o bell i drafod ei feysydd gwaith parhaus fel Bil Masnach y DU, y trafodaethau o ran perthynas y DU a’r UE yn y dyfodol, a’r rhaglen parhad masnach.

Mae Bil Masnach 2019-21 yn gwneud cynnydd drwy Senedd y DU, ac mae’r Pwyllgor yn paratoi ar gyfer adrodd ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol sy’n gysylltiedig â’r Bil ddechrau mis Gorffennaf, gan ddatblygu ei waith ar yr adroddiadau blaenorol ar y Bil Masnach ym mis Mawrth 2018 a mis Mawrth 2019.

Cynhaliwyd ein cyfarfod darlledu rhithwir cyntaf ar 2 Mehefin 2020 lle gwnaethom holi’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd am rôl Llywodraeth Cymru yn y trafodaethau ar y berthynas â’r UE yn y dyfodol, a sut mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio. (Os gwnaethoch fethu’r cyfarfod, gallwch wylio recordiad ar Senedd.tv. neu ddarllen y trawsgrifiad).

Ar 16 Mehefin 2020, bydd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yn ymddangos gerbron y Pwyllgor i drafod ymwneud Llywodraeth Cymru â rhaglen cytundebau masnach rydd arfaethedig Llywodraeth y DU, yn benodol y rheini ag Unol Daleithiau America a chyda Japan.

Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal drwy gynhadledd fideo a bydd ar gael i’w wylio ar senedd.tv yn fyw ac ar ôl y digwyddiad.

Yn ogystal â’n rôl o graffu ar Lywodraeth Cymru, ni allwn anghofio effaith y trafodaethau hyn ar Gymru yn ehangach. Er mwyn deall yn llawn y goblygiadau i Gymru o ymadawiad y DU â’r UE, rhaid inni ddeall sut mae busnesau a sefydliadau Cymru yn paratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio, yn enwedig yng ngoleuni effaith y coronafeirws.

Mae cadw pellter cymdeithasol a chyfyngiadau ar deithio yn golygu na allwn bellach gynnal y cyfarfod ar ffurf cynhadledd gyda rhanddeiliaid fel yr oeddem wedi’i gynllunio, ond gobeithiwn edrych ar ffyrdd eraill o ymgysylltu yn yr wythnosau nesaf.

Bydd rhagor o wybodaeth am hyn a’n holl feysydd gwaith ar gael ar ein gwefan.

Mynediad at fancio yng Nghymru [Infographic]

Ydych chi wedi sylwi ei bod yn mynd yn anoddach dod o hyd i fanc neu beiriant codi arian pan fyddwch chi angen un?

I ddechrau, collodd Cymru 43% o’i changhennau band rhwng mis Ionawr 2015 a mis Awst 2019.

Cyfanswm o 239 at ei gilydd.

Ar ben hynny, mae 10% o’n peiriannau codi arian am ddim wedi diflannu yn y flwyddyn ddiwethaf.

Nid yw mynediad at fancio a pheiriannau codi arian am ddim yng Nghymru yn bryder newydd, ond mae’n peri pryder mawr pa mor gyflym y mae gwasanaethau’n diflannu.

Fe wnaethoch chi ddweud wrthym mewn arolwg diweddar sut mae colli eich cangen banc neu’ch peiriant codi arian yn effeithio arnoch chi, eich cymuned a busnesau lleol.

Mae peth o adborth yr arolwg i’w weld yn y ffeithlun isod.

Angen gweithredu ar fyrder

Mae casgliadau ymchwiliad i fynediad at fancio yng Nghymru wedi’u cyhoeddi. Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys i amddiffyn ein rhwydwaith bancio gwerthfawr a chefnogi defnyddwyr o Gymru ar lefel y DU.

Os hoffech ddarllen yr adroddiad llawn am fynediad at fancio yng Nghymru, mae ar gael yma.


Sicrhau bod gennym lais mewn cytundebau rhyngwladol

Erthygl wadd gan David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol – Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

“Felly, beth sy’n digwydd pan aiff pethau i’r gwellt? Pan aiff hi’n draed moch? ”

“Beth ydych chi’n ei feddwl, ‘yn draed moch’? ‘

“Pan fydd hi’n mynd yn argyfwng arnoch chi yn y broses Brexit, a phethau’n dechrau torri i lawr, os yw’n digwydd, mae’n rhaid ichi allu edrych yn y drych a dweud ‘Fe wnes i bopeth o fewn fy ngallu.’

Dyna fyrdwn trafodaeth a gefais yn 2016, wrth baratoi pwyllgor Brexit trawsbleidiol y Cynulliad ar gyfer y dasg o wneud popeth o fewn ei allu i amddiffyn buddiannau Cymru wrth i’r broses o adael yr UE fynd rhagddi.

Dros ddwy flynedd a hanner yn ddiweddarach, rwy’n dal i ofyn yr un cwestiynau i fi fy hun. A yw hi’n argyfwng arnom ni eto, ac a wnaethom ni bopeth o fewn ein gallu?

O nodi’r materion sydd yn y fantol i Gymru, i’w cynrychioli ym Mrwsel, Llundain, Caeredin, Belfast, Dulyn a Chaerdydd, rydym wedi gweithio’n ddiflino i nodi’r materion a fydd yn effeithio ar bobl Cymru fwyaf a gweithredu ynghylch y materion hynny.

Bu’n rhaid inni fod yn hyblyg, gan addasu i newidiadau yn y trafodaethau a’r cynigion ddaeth i’r amlwg ar gyfer y DU yn dilyn Brexit.

Yn ystod y mis diwethaf, bu’n rhaid inni fynd i’r afael ag agwedd newydd ar y broses, sef craffu ar gytundebau rhyngwladol.

Wrth i’r DU ymadael â’r UE, bydd hefyd yn gadael nifer o gytundebau rhyngwladol.

Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol i geisio ail-greu effeithiau’r cytundebau presennol.

O safbwynt Llywodraeth y DU, mae materion rhyngwladol, a masnach yn benodol, yn aml yn cael eu hystyried yn faterion a gedwir yn ôl.

Mae gennym safbwynt gwahanol.

Ym mron pob achos, mae’r cytundebau hyn yn cynnwys meysydd polisi sydd wedi’u datganoli i Gymru, megis amaethyddiaeth, trafnidiaeth a hawliau dinasyddion.

Mae ganddynt y potensial i ail-lunio’r setliad datganoli ac, os nad yw materion sydd o bwys i Gymru yn cael eu hystyried, mae potensial y bydd sectorau yn economi Cymru o dan anfantais.

Nid yw hyn yn anochel, a gallai Cymru fod ar ei hennill pe bai cytundebau rhyngwladol y DU yn cynnwys gwerthoedd a blaenoriaethau Cymru.

Ond mae angen inni sicrhau mai felly y bydd hi; fel arall, sut y gallwn ni fod yn sicr y gwnaethpwyd popeth o fewn ein gallu i ddiogelu buddiannau Cymru?

I wneud hyn, rydym yn astudio’r cytundebau dan sylw yn ofalus ynghyd â’r ffordd y byddant yn effeithio ar Gymru, gyda ffocws ar y cytundebau hynny lle mae pethau yn y fantol fwyaf.

Ein nod yw deall sut yr ymdrinnir â meysydd datganoledig, a pha oblygiadau a allai fod i bolisi yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys dadansoddi beth sydd wedi newid o gymharu â’r cytundebau gwreiddiol, a pha effaith y gallai’r newidiadau hyn ei chael.

Lle y nodir materion gennym, rydym yn gwneud argymhellion i godi ymwybyddiaeth o bryderon Cymru, fel eu bod yn cael ystyriaeth lawn, gan sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed wrth i’r cytundebau hyn gael eu llunio.

Beth a ganfuwyd gennym hyd yn hyn?

Er i Lywodraeth Cymru wneud ei gorau glas, gwelsom nad ymgynghorwyd â hi yn briodol ynghylch rhai o’r cytundebau rhyngwladol a lofnodwyd gan Lywodraeth y DU.

Mae ein gwaith eisoes wedi cyfrannu at welliannau o ran y mynediad sydd gan Lywodraeth Cymru erbyn hyn.

Hefyd, gwnaethom adrodd ar natur anghyflawn rhai o’r cytundebau parhad masnach, sef mater sydd wedi cael sylw yn y wasg yn ddiweddar.

Gan ddychwelyd at fy nghwestiynau, a ydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu? Ar yr agwedd hon ar ein gwaith, ar hyn o bryd, rwy’n teimlo ein bod ni.

A oes rhagor i’w wneud? Oes, heb os. Ac mae’n teimlo fel bod gennym bellter i fynd cyn cwblhau’r gwaith a osodwyd gennym yn 2016.



David Rees
yw’r Aelod Cynulliad dros Aberafan a Chadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru – ‘Pwyllgor Brexit’ y Cynulliad


 

Diwrnod Mynediad i’r Anabl – Cynulliad Cenedlaethol Cymru, lleoliad hygyrch i ymwelwyr a staff

View this post in English

Awdur ein blog gwadd yw Catrin Greaves, ac mae Catrin newydd ddechrau gweithio gyda thîm y Gwasanaethau Ymwelwyr a Lleoliadau Seneddol. Mae hi’n trafod hynt a helynt bywyd gwaith i rywun sy’n byw gyda’r cyflwr niwrolegol dyspracsia, a sut brofiad yw gweithio yn y Cynulliad i rywun fel hi wrth i ni nodi Diwrnod Mynediad i’r Anabl ar 16 Mawrth.

Beth yw Dyspracsia?

Mae dyspracsia neu Anhwylder Cydlynu Datblygiadol yn gyflwr cyffredin sy’n para am oes ac sy’n effeithio ar sut mae’r ymennydd a’r corff yn cyfathrebu â’i gilydd.

Nid oes unrhyw achos y gwyddys amdano i  ddyspracsia, er, fel yn fy achos i, gall fod yn gysylltiedig â chael eich geni’n gynamserol.  Gall rhywun sy’n byw gyda dyspracsia brofi amrywiaeth o symptomau, gan gynnwys anhawster gyda sgiliau echddygol, anhawster i ddeall a dilyn cyfarwyddiadau a chyfeiriadau, problemau cof tymor byr, anhawster wrth gynllunio a chydlynu gweithgareddau dyddiol, a materion synhwyraidd, lle gall person fod yn or-sensitif neu’n ansensitif i ysgogiad fel sain, cyffyrddiad, arogl neu dymheredd.

Mae gan bobl â dyspracsia eu heriau unigryw eu hunain a dylid trin pawb fel unigolyn gyda’u hanghenion penodol eu hunain. Fel y bydda i’n hoffi dweud, os ydych wedi cwrdd â rhywun â dyspracsia, rydych wedi cwrdd ag un person yn unig â dyspracsia.

             ‘Hi yw un o’r bobl mwyaf clyfar rwy’n eu nabod, ond ni all ddefnyddio llungopïwr…’

Dywedwyd hyn amdanaf unwaith gan gyn reolwr! Mae’n amlygu’n berffaith nad yw dyspracsia yn effeithio ar ddeallusrwydd rhywun, ond gall effeithio ar lawer o dasgau bob dydd.

I gael gwybod rhagor am ddyspracsia, ewch i wefan y Sefydliad Dyspracsia.

Beth yw bywyd gwaith i rywun sydd â’r cyflwr niwrolegol dyspracsia?

Gall dyspracsia achosi llawer o heriau yn y gweithle, a phosibilrwydd i ddigwyddiadau y byddaf fi’n eu galw yn ‘dyspracsidents’! Gall y digwyddiadau gynnwys: baglu; anghofio pethau; mynd ar goll dro ar ôl tro; teimlo panig pan fydd y ffôn yn canu, neu pan mae cydweithiwr yn ceisio siarad â chi a bydd cloch y Cyfarfod Llawn yn canu ar yr un pryd, ac ati.

Mae rhai o’r pethau rwy’n ei chael yn anodd yn cynnwys:

  • Gorlwytho synhwyraidd, yn enwedig mewn perthynas â sŵn sy’n gwrthdaro.
  • Problemau cof tymor byr.
  • Anhawster dysgu dilyniannau newydd er mwyn cwblhau tasgau ymarferol.
  • Anawsterau o ran rheoli amser a chynllunio.
  • Anhawster gyda chyfarwyddiadau a rhifau (nid Mathemateg oedd fy hoff bwnc yn yr ysgol!).

Fodd bynnag, gyda pheth dealltwriaeth ac ychydig o addasiadau syml, rwy’n gweld fy nyspracsia fel ased. Mae pobl â dyspracsia yn tueddu i fedru dangos llawer o empathi, sy’n ddefnyddiol iawn i mi yn fy rôl o ymgysylltu ag ymwelwyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd ac sydd â gofynion gwahanol.

Gall staff sydd â gwahaniaethau niwrolegol amrywiol gyflwyno ffordd wahanol o feddwl i sefydliad, a dod â chyfres unigryw o sgiliau a chryfderau.

Fy Swyddogaeth – Gweithio yn y Cynulliad â dyspracsia

A minnau’n gweithio fel Cynorthwy-ydd Ymgysylltu ag Ymwelwyr, mae fy rôl yn amrywiol a diddorol. Rwy’n gweithio ar draws yr holl leoliadau ar ystâd y Cynulliad, gan gynnwys y Senedd ac adeilad hanesyddol y Pierhead.

Rwy’n helpu’r cyhoedd i gael eu hysbrydoli gan waith y Cynulliad ac i ddysgu amdano. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o bobl, gan gynnwys twristiaid a phobl leol, myfyrwyr a grwpiau teuluol. Rwy’n cynnal teithiau o amgylch yr adeilad, gan ymgysylltu ag ymwelwyr ar lawer o bynciau, gan gynnwys yr amgylchedd, diwylliant Cymru ac wrth gwrs, y gwaith gwleidyddol sy’n digwydd yn yr adeilad.

Rwyf hefyd yn cyfrannu at redeg busnes y Cynulliad yn ddidrafferth, gan sicrhau bod y bobl iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn. Tydi hon ddim yn dasg hawdd bob amser i berson â dyspracsia!

Oherwydd fy mod yn cynnal teithiau o amgylch yr adeilad, rwyf wedi perffeithio fy ngwybodaeth am ba mor hygyrch yw’r adeilad ar gyfer ymwelwyr, ac rwy’n falch o ddweud ein bod yn lleoliad hygyrch. Mae ein cyfleusterau’n cynnwys:

  • Rampiau a lifftiau.
  • Labelu sy’n gyfeillgar i awtistiaeth.
  • Systemau dolenni clyw.
  • Llogi cadeiriau olwyn.
  • Amrywiaeth o wahanol gyfleusterau toiled gan gynnwys toiledau niwtral o ran rhywedd, toiledau hygyrch, toiled â chymhorthion gan gynnwys cyfarpar codi ar gyfer oedolion, a thoiledau i bobl â phroblemau symudedd.
  • Mannau parcio i’r anabl.
  • Ystafell dawel ar gyfer gweddi, lleddfu straen, myfyrdod a lle tawel i ymwelwyr gofidus.
  • Tudalen benodol ar y we i ‘Ymwelwyr ag Awtistiaeth’.

Mae rhagor o wybodaeth am y gwelliannau sydd wedi’u cynnwys yn nyluniad ein hystâd, i sicrhau bod yr adeilad yn cyrraedd ei darged o fod yn esiampl o ran hygyrchedd yn y sector cyhoeddus, ar gael ar ein ‘gwefan ‘Mynediad’.

Lleoliad hygyrch i ymwelwyr a staff

Yn ogystal â chael amrywiaeth o gyfleusterau ar y safle sy’n sicrhau ein bod yn sefydliad hygyrch, mae’r Cynulliad hefyd yn hyrwyddo hygyrchedd i’w weithwyr. Gan fy mod i’n treulio mwy na deng awr ar hugain yn ein hadeiladau bob wythnos, rwy’n falch o ddweud bod y Cynulliad yn wir yn rhoi ystyriaeth i lesiant y bobl sy’n gweithio yma:

“Rwy’n credu ei bod yn bwysig bod y Cynulliad yn arwain y ffordd o ran hyrwyddo diwylliant sefydliadol cynhwysol, a’i fod yn gorff seneddol modern a hygyrch y gall pobl o ystod amrywiol o gefndiroedd ryngweithio yn hawdd ac yn ystyrlon ag ef. Mae’n ddyletswydd arnom ni yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i arwain yn hyn o beth, i rannu ein profiadau, ac i sicrhau bod gwerthoedd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu parchu a’u harfer gan bawb.”

Elin Jones AC, Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn unol â’i werthoedd, mae gan y Cynulliad amrywiaeth o gyfleusterau sydd wedi’i gwneud yn haws i weithwyr fel fi, ac i sbectrwm eang o weithwyr sydd ag anghenion penodol i’w hystyried, gyflawni ein rôl. Gall yr anghenion hyn fod yn anableddau, yn ymrwymiadau teuluol neu yn rhwymedigaethau crefyddol.

Yn benodol, rwy’n manteisio ar ein:

  • Hystafelloedd Tawel, y gellir eu defnyddio am sawl rheswm gwahanol, gan gynnwys gweddïo, myfyrio tawel, neu seibiant i bobl sy’n cael trafferth gyda gorlwytho synhwyraidd. Bydda i’n defnyddio’r stafell yn aml pan fydd fy ymennydd yn teimlo’n rhy llawn o wahanol olygfeydd a synau yn yr adeilad Cynulliad prysur hwn.
  • Rhwydwaith Anabledd i staff, sy’n helpu pobl i gysylltu â’i gilydd, i rannu eu heriau unigryw ac i hyrwyddo materion  sydd o ddiddordeb arbennig iddynt ar draws y sefydliad.
  • Rhwydwaith MINDFUL, sy’n hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol. Mae hyn yn bwysig i mi oherwydd gall dyspracsia effeithio’n andwyol ar iechyd meddwl, gan fod pobl dyspracsig yn fwy tueddol o ddioddef pryder ac iselder.

Mae rhagor o wybodaeth am ein rhwydweithiau ar gael ar y wefan amrywiaeth.

Addasiad rhesymol arall sy’n fy helpu i yw bod fy rheolwr cyfeillgar weithiau’n cynnig ysgogiadau ysgafn i wneud yn siŵr fy mod ar y trywydd iawn gyda fy ngwaith.

Mae hyn yn ddefnyddiol iawn oherwydd gall fy symptomau dyspracsia amrywio, a byddaf yn cael diwrnodiau da a diwrnodiau dim cystal, pan fyddaf yn gallu teimlo mod i wedi fy llethu, neu fod gen i fwy o gymhelliant. Caniateir i mi hefyd weithio’n llai aml yn ein safle yn Nhŷ Hywel, lle mae swyddfeydd y gwleidyddion, oherwydd gall y fan hon fynd yn arbennig o brysur a swnllyd ar adegau.

Mae fy nhîm wedi fy helpu i wneud yn fawr o’m cryfderau, ac mae eu hagwedd gadarnhaol wedi fy helpu i deimlo sicrwydd eu bod yn fy nghefnogi a fy mod yn aelod gwerthfawr o’r staff.

Mae ymrwymiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i fod yn sefydliad cynhwysol, wedi sicrhau nifer o wobrau mawreddog iddo dros y blynyddoedd, o ran ei ymrwymiad i gynhwysiant ac amrywiaeth. Mae’r rhain yn cynnwys cael ei gydnabod fel:

  • Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau’r DU
  • Deiliad Gwobr ‘Awtistiaeth Gyfeillgar’ Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth.
  • Y cyflogwr gorau ar gyfer teuluoedd sy’n gweithio.
  • Hyrwyddwr Cyflogwr Oedran
  • Deiliad nod siarter ‘Mwy na Geiriau’ Action on Hearing Loss, a deiliad Gwobr Rhagoriaeth Gwasanaeth.
  • Cyflogwr sy’n cynnal ei Safon Aur Buddsoddwyr mewn Pobl, sef y dyfarniad rhyngwladol ar gyfer rhagoriaeth fyd-eang.

I gael rhagor o wybodaeth am weithio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ewch i’n tudalennau Recriwtio. Mae rhagor o wybodaeth am ein hymrwymiad i Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gael yn ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 2016-21.

Wythnos Iechyd Meddwl Plant

Blog gwadd gan Lynne Neagle AC. Wnaeth yr erthygl yma dangos cyntaf yn y Western Mail

View this post in English

Ym mis Ebrill bydd yn flwyddyn ers i Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi ei adroddiad ar Gadernid Meddwl, a oedd yn galw am newid sylweddol o ran y cymorth a gynigir i blant sydd â phroblemau emosiynol ac iechyd meddwl yng Nghymru.

Roedd y canfyddiadau yn syndod mawr.

Mae hanner yr holl broblemau iechyd meddwl yn dechrau erbyn 14 mlwydd oed.

Mae tri chwarter yr holl broblemau iechyd meddwl wedi dechrau erbyn canol ugeiniau person ifanc.
Bydd un o bob deg o’n pobl ifanc yn cael problem iechyd meddwl.

Yn seiliedig ar y ffigurau hyn, a’r doreth o dystiolaeth arbenigol a gawsom, daethom i’r casgliad, pe na byddem wedi rhoi pobl ifanc wrth wraidd ein strategaeth, byddai problemau iechyd meddwl yn parhau i waethygu.

Er mwyn atal y cynnydd, daethom i’r casgliad bod angen newid sylweddol o ran y ffordd rydym yn ymdrin ag iechyd emosiynol ac iechyd meddwl yng Nghymru. Mae angen sicrhau bod gan ein plant a’n pobl ifanc y sgiliau, yr hyder a’r dulliau i fod yn emosiynol wydn. Mae angen strategaeth arnom sy’n golygu ein bod yn ymyrryd yn llawer cynharach, gan ymateb i’r hadau sy’n peri gofid cyn iddynt ymwreiddio.

Roeddem yn siomedig iawn gydag ymateb cyntaf Llywodraeth Cymru i’n hargymhellion. Fel Pwyllgor, gwnaethom gymryd cam hollol newydd drwy wrthod yr ymateb, a galw ar y Gweinidogion i ailystyried eu safbwynt.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru drwy sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol – a gadeiriwyd ar y cyd gan y Gweinidogion Iechyd ac Addysg – i ailystyried y dystiolaeth gadarn a chynhwysfawr a gyflwynwyd gennym a’r argymhellion y gwnaethom roi ystyriaeth drwyadl a manwl iddynt.

Rwy’n eistedd ar y Grŵp hwnnw fel sylwedydd annibynnol gyda hawliau llawn i gymryd rhan. Rwy’n bwriadu rhoi adborth ar waith y Grŵp hyd yn hyn, a mynd ar drywydd cynnydd sy’n bodloni dyheadau a disgwyliadau’r Pwyllgor yn y maes hwn.

Yn fwy diweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £7.1 miliwn ychwanegol i fynd i’r afael yn benodol â’r materion a godwyd yn ein hadroddiad ar Gadernid Meddwl.

Wrth gwrs, mae’r arian ychwanegol i’w groesawu’n fawr ac rydym yn edrych ymlaen at weld sut y caiff ei fuddsoddi’n union. Wrth inni agosáu at flwyddyn ers cyhoeddi’r adroddiad, credaf fod yr amser wedi dod i gyflymu rhywfaint ar y gwaith o sefydlu’r adnoddau a’r cymorth sydd eu hangen i gefnogi pob un ohonom i weithredu a chyflawni’r newid hwn.

Credaf hefyd bod angen i ni fod yn wyliadwrus rhag ofn inni ddilyn yr un llwybrau a’r gorffennol. Yr hyn sy’n glir yw nad yw’r dull presennol yn ddigon effeithiol. Felly nid ailgynllunio nac atgyfnerthu’r gwasanaethau sydd eisoes ar waith yw’r ateb. Mae angen dull newydd arnom.

Ni fydd yn syndod, felly, yn ystod wythnos Iechyd Meddwl Plant, ein bod am bwysleisio nad yw’r Pwyllgor yn bwriadu terfynu ar y gwaith eto. Os rydym am roi pobl ifanc wrth wraidd ein strategaeth gyffredinol ar gyfer iechyd meddwl, mae angen i ni barhau â’n hymgyrch i sicrhau bod arferion gorau yn cael eu rhannu, bod newid ac arloesi yn cael eu cyflawni, a bod ein ffocws yn cael ei symud o fod yn ymatebol, i fod yn ataliol.

Ar y sail honno, rydym wedi gofyn am ymateb newydd i bob un o’n hargymhellion gan Lywodraeth Cymru erbyn mis nesaf. Nid ydym yn bwriadu cymryd ein troed oddi ar y sbardun ac rydym wedi ymrwymo i fynd ar drywydd y pwyslais a roddir ar ein plant a’n pobl ifanc mewn perthynas â strategaethau, dulliau a buddsoddiadau sy’n ymwneud â phroblemau emosiynol ac iechyd meddwl yn y dyfodol, gan gadw golwg agos a chraff.

Yn ystod ein hymchwiliad y llynedd, buom yn siarad â llawer o blant a phobl ifanc am eu profiadau. Roedd rhai ohonynt yn hynod annifyr. Dangosodd rai ohonynt wrthym hefyd, pan fydd y gwasanaethau priodol yn effeithiol ac wedi’u sefydlu, gallant fod o gymorth mawr i bobl sy’n cael trafferth â’u hiechyd emosiynol neu iechyd meddwl. Thomas oedd un o’r bobl ifanc y gwnaethom siarad â hwy. Fel y mae pobl ifanc yn aml yn llwyddo i’w wneud, disgrifiodd ein hymchwiliad mewn un frawddeg.

“Os byddwn i wedi cael sylw i’r materion hyn lawer yn gynharach, ni fyddent wedi bod mor ddifrifol yn y pen draw.”

Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb – a’r gallu – i weithredu’r newidiadau a fydd yn galluogi pobl ifanc fel Thomas i gael y cymorth y mae arnynt ei angen yn gynharach er mwyn rhwystro problemau rhag mynd yn ddifrifol lle bynnag y bo modd. Ac nid yn unig i’n plant a’n pobl ifanc y mae’r newidiadau hynny, byddant yn parhau i effeithio arnynt fel oedolion yn y dyfodol, a’r plant y byddant yn eu magu. Mae’n ddyletswydd arnom i fuddsoddi i achub, i atal yn hytrach nag ymateb, ac i weithredu’r newid sylweddol y mae angen brys amdano er mwyn adeiladu poblogaeth o bobl emosiynol wydn ac iach yn feddyliol yng Nghymru.

Os ydym am gael gwasanaethau cynaliadwy, poblogaeth iach, ac – yn bwysicaf oll – llai o unigolion a theuluoedd sy’n profi heriau a chaledi hirdymor oherwydd salwch meddwl, mae’n rhaid i bobl ifanc fod wrth wraidd y strategaeth. Gadewch i ni gofio geiriau Thomas – pe byddem wedi rhoi sylw i’r materion hyn lawer yn gynharach, ni fyddent wedi bod mor ddifrifol yn y pen draw.

Bwyd, diod a Brexit ar y fwydlen ar gyfer craffu ar y Prif Weinidog

Mae’r diwydiant bwyd a diod yn rhan bwysig o economi Cymru ac mae’r gadwyn gyflenwi bwyd yn un o sectorau mwyaf Cymru, yn cyflogi mwy na 240,000 o bobl gyda throsiant blynyddol o dros £19 biliwn.

Yn ogystal â bod yn gyflogwr pwysig ynddo’i hun, mae cynhyrchu bwyd hefyd yn cefnogi nifer o ddiwydiannau eraill fel twristiaeth a lletygarwch.
I graffu ar waith y Prif Weinidog o ran cefnogaeth Llywodraeth Cymru i fwyd a diod, a materion cyfredol sy’n wynebu’r diwydiant yng Nghymru, ymwelodd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog â’r Drenewydd ar 16 Chwefror.

Gan fod ansicrwydd o hyd ynghylch dyfodol y DU ar ôl Brexit, roedd y Pwyllgor yn awyddus i holi’r Prif Weinidog ynghylch trefniadau masnach ryngwladol bosibl a’r goblygiadau i’r diwydiant. Yn 2016, er enghraifft, aeth 92.7 y cant o’r allforion cig o Gymru a adawodd y DU i’r UE.

Ymweliad â chynhyrchwyr bwyd lleol

I ddeall pryderon busnesau lleol, ymwelodd Aelodau’r Pwyllgor â Hilltop Honey, sef cynhyrchydd bwyd lleol, a chynnal trafodaeth gyffredinol â chynrychiolwyr o’r cwmni a dau fusnes lleol arall, sef Cultivate a Monty’s Brewery.

Aeth y Pwyllgor o amgylch cyfleusterau Hilltop Honey a thrafod nifer o faterion sy’n wynebu’r diwydiant bwyd a diod, gan gynnwys twristiaeth, masnach, brandio a hyrwyddo.

Yn benodol, pwysleisiodd y cyfranogwyr yr angen i hyrwyddo ansawdd ac ystod cynhyrchion Cymreig mewn ffordd sy’n fwy cydlynol ac uchel ei phroffil.

Mewn perthynas â’r Drenewydd a chanolbarth Cymru, clywodd y Pwyllgor farn bod “diffyg neges farchnata gydlynol i Bowys” a “dim digon o gymorth i ddatblygu’r diwydiant twristiaeth yn yr ardal.”
Trafodwyd pwysigrwydd cyd-gefnogaeth rhwng busnesau yng Nghymru, gyda’r awgrym bod “angen i gwmnïau Cymreig weithio’n well gyda chwmnïau Cymreig” er budd pawb.

Mynegodd y busnesau a oedd yn bresennol bryderon hefyd am effaith debygol Brexit, gan gynnwys colli mynediad at gronfeydd yr UE ac ansicrwydd parhaus am drefniadau masnachu ag Ewrop a thu hwnt yn y dyfodol.

Atebodd y Prif Weinidog bryderon busnesau lleol

Codwyd nifer o awgrymiadau penodol a gynigiwyd yn ystod y drafodaeth yn Hilltop Honey yn uniongyrchol â’r Prif Weinidog yn ystod cyfarfod ffurfiol y Pwyllgor.

Holodd y Pwyllgor y Prif Weinidog ynghylch a allai’r Llywodraeth ystyried y gallai cwmni fynd ar daith fasnach y tro cyntaf am ddim, ar ôl clywed y gallai’r costau rwystro busnesau bach rhag cymryd rhan.

Er bod y gefnogaeth sydd eisoes ar gael gan Lywodraeth Cymru yn cael ei hystyried yn gefnogaeth gadarnhaol, awgrymwyd y gallai mwy o gwmnïau gymryd rhan pe gallent brofi taith fasnach am y tro cyntaf gyda llai o fuddsoddiad.

O ystyried y pwyslais y mae busnesau wedi ei roi ar yr angen i hyrwyddo diwydiant bwyd a diod Cymru a chynnyrch Cymreig, argymhellodd yr Aelodau y dylai Llywodraeth Cymru ystyried ei bod yn rhoi thema hyrwyddo blwyddyn dwristiaeth yn y dyfodol yn ymwneud â ‘Cymru fel cartref i fwyd a diod’.

Cytunodd y Prif Weinidog i ystyried y ddau awgrym ymhellach, a bydd y Pwyllgor yn ysgrifennu i gael gwybod am unrhyw ystyriaethau pellach.

Brexit a masnach ryngwladol yn y dyfodol

Roedd Brexit a threfniadau masnach ryngwladol yn y dyfodol yn themâu allweddol wrth holi’r Prif Weinidog.

Clywodd y Pwyllgor am bryderon mawr ynghylch yr effaith bosibl ar gynhyrchwyr bwyd a diod pe bai tariffau’n cael eu rhoi ar gynhyrchion a gaiff eu hallforio o Gymru i’r UE. Dywedodd y Prif Weinidog:

“…90 per cent of our exports go to the single market. Meat, for example, can carry, in extreme circumstances, a subsidy of 104 per cent…Now, it’s obvious what the effect would be on our sheep meat exports if that were to happen, and there are a number of tariffs in other areas as well. So, tariff barriers are the ones that are most obviously talked about, because they would make our goods more expensive in our most important market.”

Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch effaith rhwystrau eraill, fel prosesau tollau arafach yn effeithio ar nwyddau darfodus a’r angen i barhau i alinio safonau bwyd rhwng Cymru a’r UE yn dilyn Brexit.

Yn absenoldeb cefnogaeth yr UE i’r diwydiant ffermio yn y dyfodol, galwodd y Prif Weinidog ar Lywodraeth y DU i ddarparu’r cyllid angenrheidiol fel y byddai Llywodraeth Cymru yn gallu gwarantu taliadau i ffermwyr.

Dywedodd y Prif Weinidog na ddylai’r arian hwn fod yn rhan o’r grant bloc cyffredinol i Gymru ac y dylid ei neilltuo oddi wrth nawdd ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus eraill.

Y diweddaraf:

Gellir cael y diweddaraf am y cyfarfod ar Senedd TV.
Neu darllenwch y trawsgrifiad llawn.

Cryfhau ansawdd ein democratiaeth Gymreig

Post gwestai gan Dr Elin Royles, Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r ymgynghoriad ar Greu Senedd i Gymru yn gosod y trywydd ar gyfer cam nesaf llwybr datganoli i Gymru.

Dyma wrthbwynt pwysig i’r bygythiad cryf bod Llywodraeth San Steffan am ganoli pwerau yn hytrach na throsglwyddo pwerau datganoledig nôl i’r Cynulliad Cenedlaethol yn y Bil Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, Yn wir, gan sefyll uwchlaw’r diffyg parch a’r tanseilio datganoli, mae’r ymgynghoriad yn adeiladu ar ganlyniad refferendwm 2011.

Dyma baratoi’r ffordd ar gyfer gwybod sut mae pobl Cymru am weld gweithredu ar rymoedd yn Neddf Cymru 2017. Ac mae na gyfle i ni i gyd i gyfrannu i’r broses.

Mae sylfeini cadarn ar gyfer yr ymgynghoriad gan fod Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol a sefydlwyd gan Gomisiwn y Cynulliad wedi pwyso a mesur ystod o faterion a chynnig argymhellion cadarn ar gyfer diwygio etholiadol i Gymru.

I mi, yr hyn sy’n allweddol am yr ymgynghoriad yw ei fod yn cynnig cyfle i bobl Cymru roi barn ar sut i sicrhau bod y Cynulliad yn gweithio mewn ffordd mwy effeithiol gan felly daclo materion sydd wedi bod yn heriol i’r Cynulliad ers ei ddyddiau cynnar, megis niferoedd Aelodau Cynulliad, a hefyd ddylanwadu ar sut y gellir cryfhau ansawdd democratiaeth yng Nghymru i’r dyfodol.

Hyd yn oed yn 1999 pan taw corff newydd gyda grymoedd cyfyngedig oedd y Cynulliad, daeth goblygiadau nifer cyfyngedig o 60 AC i’r fei yn ddigon cyflym.

O Gomisiwn Richard, i Gonfensiwn Cymru Gyfan, i Gomisiwn Silk, mae ymchwiliadau annibynnol wedi galw am gynyddu niferoedd aelodau. Ymhob achos, gan wybod yn iawn nad yw ethol mwy o wleidyddion yn beth poblogaidd, argymhellwyd cynyddu’r nifer o aelodau er mwyn hogi’r gallu i graffu ar waith y Llywodraeth ac ar ddeddfwriaeth.

Yn wir, awgrymodd Comisiwn Silk bod bygythiadau gwirioneddol i’r modd mae Cymru’n cael ei lywodraethu heb gynyddu’r niferoedd o AC oherwydd y pwysau trwm a’r cyfyngiadau ar eu gallu i graffu a chwblhau eu dyletswyddau deddfwriaethol yn effeithiol.

Yn sgil y pwysau cynyddol, dydi hi ddim yn syndod felly bod y Panel Arbenigol yn argymell cynyddu maint y Cynulliad i o leiaf 80 aelod. Da o beth fyddai lleihad cyfochrog yn nifer aelodau etholedig Cymru ar lefelau eraill o lywodraeth.

Wrth edrych i gryfhau democratiaeth yng Nghymru i’r dyfodol, mae argymhellion y Panel i ostwng yr oedran pleidleisio isaf yn etholiadau’r Cynulliad i 16 oed yn gam pwysig ymlaen i gynyddu ymwybyddiaeth wleidyddol a chyfranogi ymysg pobl ifanc.


Creu Senedd i Gymru

Dyma ddechrau cyfnod newydd o ddatganoli a dyma’ch cyfle chi i ddweud wrthym sut rydych chi am i’ch Cynulliad Cenedlaethol fod.

Dechrau’r arolwg >


Mae ein gwaith ymchwil ar Iaith, Addysg a Hunaniaeth fel rhan o Ganolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil WISERD wedi bod yn cyfweld disgyblion 16+ oed mewn ysgolion a cholegau addysg bellach ar draws Cymru gan gynnwys eu holi ynghylch eu hagweddau tuag at wleidyddiaeth a phleidleisio.

Rydyn ni wedi gweld nifer ohonynt yn mynegi dyhead clir i gael y gallu i bleidleisio o 16 oed. Codwyd disgwyliadau ymysg pobl ifanc gan y cyfle i bleidleisio a estynnwyd rai 16 oed yn Refferendwm Annibynniaeth yr Alban.

Yn ein hymchwil ni, mae nifer wedi mynegi siom (a weithiau deimladau cryfach) nad oedd cyfle iddynt bleidleisio yn y Refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ar yr un pryd, mae’n hymchwil yn cadarnhau lefel uwch o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ymysg rhai pobl ifanc na fyddai’r disgwyl ond eu bod yn tueddu i fod yn ansicr ac â diffyg hyder am eu lefel dealltwriaeth o’r broses wleidyddol.

O’r herwydd, law yn llaw â gosod 16 fel yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau Cynulliad, mae gofyn cynyddu a ffurfioli’r addysg wleidyddol a dinasyddiaeth i’n pobl ifanc. Er bod trefniadau penodol Cymreig mewn lle o ran addysg bersonol a chymdeithasol a’r Fagloriaeth Gymreig, mae’r ymchwil yn awgrymu bod angen diwygio i arfogi pobl ifanc yn well.

Addysg sydd nid yn unig yn darparu mwy o wybodaeth i bobl ifanc ond hefyd yn sicrhau addysg dinasyddiaeth a democratiaeth o ansawdd gan gynnwys rhoi’r cyfle iddynt drafod pynciau gwleidyddol ymysg ei gilydd.

Dyma gamau allweddol i gryfhau ansawdd democratiaeth yng Nghymru yn y dyfodol.

Ymunwch yn y trafod.


Gwybodaeth am Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru – WISERD@Aberystwyth

Canolfan ymchwil ryngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Canolfan Wleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru – WISERD@Aberystwyth, gyda’r nod o ddatblygu ein dealltwriaeth o wleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes yng Nghymru yng nghyd-destun byd cydgysylltiedig, gan gefnogi a chyflawni gwaith ymchwil o safon byd-eang yn y gwyddorau cymdeithasol, a chyfrannu at wybodaeth gyhoeddus a datblygiad polisi yng Nghymru.

Rydyn ni yng Nghanolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru yn hynod o falch o fod yn cydweithio gyda Chomisiwn y Cynulliad ar y digwyddiad ar ymgynghoriad ‘Creu Senedd’ i Gymru yn Aberystwyth ar 15 Mawrth.

Cynhelir y digwyddiad ar nos Iau, 15 Mawrth am 6.00 yng Nghanolfan Arad Goch, Stryd y Baddon, Aberystwyth.

 

Creu Senedd i Gymru

Cryfhau ein democratiaeth: eich cyfle i ddweud eich dweud

Post gwestai gan Helen Mary Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Academi Morgan

Fe ddylwn i ddatgan buddiant ar lefel bersonol.

Roeddwn i’n aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol am 12 mlynedd rhwng 1999 a 2011, felly mae gen i farn gref am sut y mae ein Cynulliad yn gweithio, a sut y gallai fod yn fwy effeithiol.

Ond nid fy marn i sy’n cyfrif yma. Mae 12 Mawrth yn un o amryw gyfleoedd i bawb yng Nghymru edrych ar y newidiadau sy’n cael eu rhoi gerbron a rhannu eu barn.

Mae tipyn o sylw wedi bod yn y cyfryngau i rai o gynigion y Panel Arbenigol, gan gynnwys cynyddu nifer yr Aelodau, newid y ffordd yr ydym yn eu hethol, newid ffiniau etholaethau i wella cynrychiolaeth, a gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed.

Mae’r rhain yn faterion pwysig iawn, ond hoffwn dynnu sylw at ddau fater arall y mae’r ymgynghoriad yn ymdrin â nhw.

Yn etholiad cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol ym 1999, defnyddiodd Llafur a Phlaid Cymru, y ddwy blaid fwyaf a etholwyd, weithdrefnau gweithredu cadarnhaol gwahanol i sicrhau y cafodd menywod eu dethol mewn seddi enilladwy.

Nid oedd yn hawdd i’r naill blaid wneud hyn.

O ganlyniad, etholwyd cyfran fawr o fenywod, ac yn 2003, cafwyd y senedd gyntaf yn y byd gorllewinol â chydbwysedd o fenywod a dynion.

Yn y senedd gytbwys hon – a fu’n destun astudiaethau academaidd niferus – roedd awyrgylch gwleidyddol tra gwahanol, gydag ymgais i weithio mwy drwy gonsensws, a rhoi sylw dyledus i faterion sy’n aml yn mynd ar goll, fel hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau plant.

Ers hynny, rydym wedi gweld dirywiad yng nghanran y menywod sy’n cael eu hethol i’r Cynulliad. Mae’r Panel Arbenigol yn awgrymu mesurau i atal y dirywiad hwn, gan gynnwys deddfu ar gyfer cwotâu cydraddoldeb a chaniatáu i bobl gael eu hethol drwy rannu swydd. Rwy’n credu bod angen ystyried hyn. Beth yw’ch barn chi?

Yna, mae’r mater o bwy a ddylai fod yn gymwys i bleidleisio.

Mae cryn drafodaeth wedi bod am y cynnig i ostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed. Mae cynnig diddorol arall wedi cael llai o sylw. Ar hyn o bryd, gall dinasyddion y DU, dinasyddion y Gymanwlad a dinasyddion aelod-wladwriaethau eraill yr UE sy’n byw yng Nghymru bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad. Wrth gwrs, nid ydym yn gwybod beth fydd statws dinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd ar ôl ymadael â’r UE.

Un ffordd syml o ddatrys yr holl gymhlethdodau a allai godi yw caniatáu i bawb sy’n preswylio’n gyfreithlon yng Nghymru gael pleidleisio, yn unol â chynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer etholiadau cynghorau lleol. Mae hyn i’w weld yn deg i mi. Mae gan bawb sy’n byw yma, ni waeth beth yw ei statws technegol o ran dinasyddiaeth, ran yn yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru. Felly nid oes bosib y dylent gael dweud eu dweud am bwy sy’n rhedeg Cymru? Beth yw’ch barn chi?

Hoffwn annog pawb i feddwl am y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn eu codi.

Fe all dadl gyfansoddiadol o’r fath ymddangos yn go ddiflas. Ond yn ei hanfod, mae’n fater o sut rydym yn cael y bobl iawn i wneud y penderfyniadau iawn am faterion sy’n effeithio ar bawb, a chraffu ar y materion hyn: ein gwasanaeth iechyd, yr hyn y mae ein plant yn ei astudio yn yr ysgol, a’n hamgylchedd.

Dyma’ch cyfle chi i gyfrannu at y ddadl ynghylch creu Senedd Cymru sy’n wirioneddol yn cynrychioli pob un ohonom ac yn gweithio ar ran pob un ohonom.
Dewch i’r digwyddiad ar 12 Mawrth, dewch i un o’r cyfarfodydd eraill, neu ewch ar-lein i ymateb i’r ymgynghoriad yno.

Mae’n gyfle i chi godi eich llais.


Mae Academi Morgan yn uned materion cyhoeddus a sefydlwyd gan Brifysgol Abertawe.

Ein nod yw defnyddio ymchwil o’r radd flaenaf i lywio’r gwaith o ddatblygu polisi i fynd i’r afael â’r materion mwyaf heriol y mae Cymru a’r byd yn eu hwynebu heddiw. Rydym yn falch iawn o’r bartneriaeth rydym yn ei datblygu â Chynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn falch o fod yn cynnal y digwyddiad pwysig hwn ar 12 Mawrth i alluogi dinasyddion Abertawe a’r rhanbarth i ddweud eu dweud am y cynigion cyffrous y mae Panel Arbenigol y Cynulliad Cenedlaethol wedi’u cyflwyno i dyfu a chryfhau ein democratiaeth yma yng Nghymru.

 

Creu Senedd i Gymru

Teithio Llesol. Beth nesaf?

Yn yr wythnosau diwethaf, gofynnodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, yr wyf yn ei gadeirio, i bobl beth yw eu rhesymau dros gerdded a beicio a’u rhesymau dros beidio â gwneud. Cysylltodd dros 2,500 o bobl â ni i rannu eu profiadau.

Yn gyntaf, diolch i bawb a gymerodd amser yn llenwi’r arolwg neu’n cymryd rhan mewn sesiwn grŵp ffocws. Mae’n bwysig iawn i bob un o aelodau’r pwyllgor ein bod yn deall yr heriau rydych chi’n eu hwynebu wrth ddewis teithio’n llesol.

Dywedodd 60% ohonoch sydd eisoes yn deithwyr llesol nad yw beicio’n ddiogel, a dywedodd 67% fod nifer y llwybrau beicio’n wael. Fe wnaeth yr ystadegyn hwn ein synnu.

Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn siarad ag awdurdodau lleol, grwpiau ymgyrchu, ac arbenigwyr ym meysydd yr amgylchedd adeiledig, iechyd ac anabledd. Byddwn yn rhannu eich barn chi â nhw ac yn gofyn cwestiynau  ynghylch sut y gallai Llywodraeth Cymru wneud i Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ddarparu llwybrau cerdded a beicio gwell i bobl Cymru.

Ar 21 Mawrth, byddwn yn trafod y mater gyda Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet.  Caiff ein hadroddiad a’n hargymhellion eu cyhoeddi’n fuan wedi hynny. Rwy’n edrych ymlaen at eu rhannu gyda chi.

 

Russell George AC
Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau