Amdanon Ni

Senedd Cymru yw’r corff sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl. Mae’r Senedd, fel y’i gelwir, yn deddfu ar gyfer Cymru, yn cytuno ar drethi yng Nghymru, ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Mae gan Senedd 60 o Aelodau: 40 wedi’u hethol i gynrychioli etholaeth a 20 wedi’u hethol ar draws 5 rhanbarth. Cynhelir etholiadau ar gyfer y 60 o seddau yn y Senedd bob pum mlynedd.