Nid yw pob Anabledd yn Weladwy

Blog gan Ann Jones AS

Unwaith eto rydym yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau a’r thema eleni yw ‘Nid yw pob Anabledd yn Weladwy’. Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn heriol i bob un ohonom, ac er ein bod yn ymdrechu i addasu’r ffordd yr ydym yn byw ac yn gweithio, rhaid inni sicrhau, beth bynnag a ddaw yn y dyfodol, ei fod yn ddyfodol cynhwysol i bawb.

Mae pobl nad yw eu hanableddau yn amlwg ar unwaith yn wynebu rhwystrau ychwanegol ac mae’n rhaid i ni, fel cymdeithas, geisio gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o anableddau o’r fath, a’u heffaith. Efallai bod rhai ohonoch wedi sylwi ar bobl yn defnyddio llinynnau gwddf Blodyn yr Haul mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y pandemig. Mae hon yn ffordd i nodi bod gennych anabledd cudd a bod gennych reswm da dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb neu i nodi bod angen lefel o gefnogaeth neu ddealltwriaeth arnoch. Bydd y math hwn o gynllun, gobeithio, yn cael effaith gadarnhaol ac mae’n gynllun, rwy’n gobeithio, y gallwn ei hyrwyddo ar gyfer y dyfodol.

Yn ystod fy nghyfnod fel gwleidydd etholedig rwyf wastad wedi ceisio hyrwyddo cydraddoldeb, gan fy mod yn credu’n gryf y dylai ein cynrychiolwyr etholedig adlewyrchu ein cymdeithas amrywiol. Fel seneddwr ag anabledd, bum wastad yn barod i godi llais ar faterion sy’n effeithio ar y rhai sydd ag anghenion gwahanol, a byddaf yn parhau i weithio tuag at y nod o sicrhau cymdeithas sy’n wirioneddol gyfartal i bawb.

Rwyf wedi darganfod yn aml y gall tynnu sylw at yr angen am addasiadau syml (ond a anwybyddir yn rhy aml) wneud cymaint o wahaniaeth; pethau fel sicrhau bod rheiliau llaw ar ddwy ochr ramp a / neu risiau gan fod hynny’n gallu rhoi annibyniaeth a hyder i berson ag anabledd. Rwyf hefyd yn awyddus i bwysleisio bod angen i ni’i gyd ystyried defnyddio ein seneddau cynyddol dechnolegol er budd pawb. Mae’r Senedd yn wir yn esiampl i bawb, ond mae rhagor i’w wneud o hyd, a rhaid i ni beidio â llaesu dwylo. 

Yn 2017, cefais yr anrhydedd o fynd i gynhadledd agoriadol ‘Seneddwyr y Gymanwlad ag Anableddau’ (CPwD).  Ein nod yw cefnogi Seneddwyr ag anableddau i fod yn fwy effeithiol yn eu rolau a helpu i wella ymwybyddiaeth o faterion anabledd ymhlith yr holl Seneddwyr a staff seneddol. Yn ychwanegol at hyn rydym yn gobeithio helpu i chwalu’r rhwystrau sy’n atal pobl ag anableddau rhag cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.

Ym mis Medi roeddwn wrth fy modd fy mod wedi cael fy ethol yn un o naw Hyrwyddwr Rhanbarthol i helpu i arwain gwaith y CPwD. Yn ystod fy nghyfnod yn y rôl, byddaf yn ymdrechu i fod yn llais blaenllaw i bobl ag anableddau yng Nghymdeithas Seneddol y Gymanwlad (CPA) ac mewn Seneddau ledled y byd. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf yn rhithwir ar 26 Tachwedd

I nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau eleni, bydd y Senedd yn cynnal trafodaeth banel rithwir y byddaf fi’n ei chadeirio ar 3 Rhagfyr. Dewch i gymryd rhan. Ceir rhagor o wybodaeth am y digwyddiad yma.

Diolch am ddarllen y blog, a Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau (IDPD) hapus i bawb!

Cyflawni ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol: y stori hyd yn hyn

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd yn cynnal ymchwiliad i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r Pwyllgor yn casglu barn ynghylch pa mor dda y gweithredwyd y Ddeddf ers iddi gael ei phasio yn 2015, a sut y gellir ei gweithredu’n well yn y dyfodol.

Rydym am glywed yr hyn y mae pobl ifanc yn ei wybod o ran:

  • ymwybyddiaeth o’r Ddeddf.
  • profiadau pobl ifanc o sut y gweithredwyd y Ddeddf.
  • safbwyntiau ynghylch beth yw’r rhwystrau i weithredu’r Ddeddf.
  • sut y gellir ei gweithredu’n well yn y dyfodol.

Rydym wedi paratoi adnoddau ar gyfer ysgolion a grwpiau ieuenctid i ddarparu gweithgaredd i gasglu barn pobl ifanc.

Gallwch lawrlwytho’r pecyn adnoddau yma.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn cyflwyniadau yw dydd Llun 7 Rhagfyr 2020.

Dysgwch ragor am yr ymchwiliad.

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymchwiliad neu’r pecyn adnoddau.

Diwrnod cenedlaethol ‘dod allan’

Blog gan Charley Oliver-Holland, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru

A minnau’n 13 oed ac yn ansicr am y bywyd o’m cwmpas, roedd bywyd yn anodd. Ar ddiwrnod cenedlaethol ‘dod allan’ yn 2016, penderfynais ddod allan fy hun. Yn fy mhen, roedd yn beth enfawr. Ro’n i’n teimlo fy mod i’n wahanol i bawb o’m cwmpas ac na fyddai unrhyw un yn fy nerbyn i am garu’r rhai o’r un rhyw â fy hun. Rydych chi’n clywed yn ddiddiwedd fel plentyn am ystrydebau gwrywaidd a benywaidd mewn chwedlau tylwyth teg, sy’n gwneud y dewis o ddod allan gryn dipyn yn anoddach. Ond i mi yn bersonol, mae dod allan yn gadael i mi fod yn fi hun ac rwyf nawr yn byw 100% fel fi, waeth beth mae unrhyw un arall yn ei feddwl.  

Charley Oliver-Holland, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru

Gall diwrnod cenedlaethol ‘dod allan’ fod yn gyfle gwych i rai sydd heb ddod allan i fynegi pwy ydyn nhw. Ond peidiwch â gadael i hynny eich gorfodi i ddweud gwybodaeth wrth bobl a allai’ch gwneud chi i deimlo mewn perygl. Mae dod allan yn ddewis personol y dylech ei wneud yn eich amser eich hun. Does dim angen i chi deimlo bod diwrnod penodol o’r flwyddyn yn rheidrwydd i ddweud wrth bawb rywbeth nad ydych chi’n barod i’w ddatgelu. Mae yna nifer o wasanaethau cwnsela ar gael i rai sy’n cael trafferth gyda’r materion hyn, a pheidiwch â bod ofn eu defnyddio, waeth pa mor fawr neu fach yw’ch problem. Mae dod allan yn anodd, mae wynebu gwahaniaethu yn anodd, mae bod yn LHDT+ mewn byd nad yw bob amser yn eich derbyn chi yn anodd.  Rydw i yma i ddweud fy stori bersonol, ond peidiwch byth â gadael i stori person arall ddiffinio eich stori chi. Mae pob un ohonom yn unigryw, ac mae’n straeon ni i gyd yn ddilys.  

Mae syrthio mewn cariad yn beth rhyfedd. Yn eich arddegau, rydych chi’n dechrau archwilio eich hun a dod o hyd i’ch llwybr unigol mewn bywyd. Roeddwn i’n gwybod o oed ifanc fy mod i’n hoffi merched, ond, a minnau’n byw mewn pentref bach ceidwadol, roeddwn i hefyd yn gwybod nad oedd hynny’n iawn. Fel plentyn, cefais fy mwlio, fel sy’n digwydd yn aml i’r rhai sy’n cael eu hystyried yn wahanol yn ystrydebol. Roeddwn i’n swil, dros fy mhwysau ac yn lesbian. Fe ddes i allan yn gyntaf i grŵp bach o ffrindiau, a oedd yn hollol iawn gyda fy rhywioldeb. Yna, daeth yn amser i mi ddweud wrth fy rhieni. Ysgrifennais lythyr emosiynol iawn, rhuthro lawr y grisiau a’i guddio ym mag llaw fy mam. Yr ateb byr ac annwyl a gefais oedd ‘dwi’n gwybod, dwi’n dy garu di’, a oedd yn bwysau enfawr oddi ar fy ysgwyddau. Rwy’n hynod lwcus ac yn ddiolchgar o gael ffrindiau a theulu cefnogol sy’n gadael i mi fod yn fi.

Roedd yr ysgol yn stori wahanol, fe wynebais amser anodd oherwydd fy rhywioldeb, ond roeddwn i’n lwcus i gael pobl yno i mi. Er hynny, nid oedd yna rwydwaith cymorth penodol yn fy ysgol. Roedd hyn yn aml yn gwneud i mi deimlo’n unig ac ynysig. Ond, ni wnaeth y teimladau hynny gael effaith negyddol arnaf, yn hytrach fe wnaeth hynny fy sbarduno i newid pethau. Penderfynais greu clwb cymorth LHDT+ yn fy ysgol, er mwyn i’r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc yn fy ardal deimlo’n dda am eu hunain. O weld y llawenydd a roddodd hyn i grŵp bach o bobl, cefais fy ysgogi i wneud mwy.

Ers hynny, rwyf wedi cadeirio fy nghyngor ieuenctid, wedi siarad yn Senedd Cymru a Senedd y DU, wedi cynrychioli Cymru ar lefel y DU yn brwydro i newid cyfreithiau troseddau cyllyll, wedi ennill gwobrau am wirfoddoli ac yn ddiweddar wedi bod ar y rhestr fer ar gyfer gwobrau amrywiaeth cenedlaethol fel model rôl LHDT+.

Charley yn siarad yn y Senedd

Mae creu newid i bobl eraill yn gwneud i mi deimlo efallai y bydd y genhedlaeth o bobl ifanc yn wynebu llai o galedi. Gobeithio, un diwrnod, na fydd unrhyw un yn teimlo fel y gwnes i fel plentyn 13 oed a oedd ar goll ac yn unig. Gobeithio, gyda’n gilydd, y gallwn ni sicrhau cefnogaeth, rhannu cariad a rhoi addysg. Bydd gwahaniaethu o hyd yn broblem, ond gobeithio bydd fy ngwaith yn eich ysbrydoli i dreulio’ch amser yn creu newid cadarnhaol. Dydw i ddim yn swil nac yn ofni pethau erbyn hyn. Rwy’n hyderus ac yn treulio bob dydd yn rhannu cariad a phositifrwydd i eraill. Weithiau bydd sylwadau creulon yn fy mhoeni i, ond rydw i bob amser yn cofio nad oes unrhyw beth o’i le â phwy ydw i ac nad yw fy rhywioldeb yn fy niffinio i, dim ond rhan o pwy ydw i yw hynny.  

Y brif neges yr hoffwn ei hanfon atoch i gyd yw ei bod hi’n iawn i fod yn wahanol. Hefyd, mae’n beth gwych os ydych chi’n teimlo eich bod yn gallu dod allan, ond os na allwch wneud hynny, nid yw’n eich gwneud chi’n llai anhygoel o gwbl! Os ydych chi’n wynebu gwahaniaethu am fod yn chi eich hun, nid yw hynny bob amser yn gorfod bod yn beth negyddol. Efallai eich bod chi’n sylweddoli o bosibl bod y person hwnnw’n teimlo’n ansicr ei hun ac nad chi yw’r broblem. Yn lle bod yn ddig, ceisiwch ymladd dros yr hyn rydych chi’n ei gredu ynddo a helpu i wneud gwahaniaeth. Boed hynny yn yr ysgol, neu’n rhyngwladol, fel allwch chi sicrhau newid. Rydych chi’n ddilys, yn deilwng, a pheidiwch byth â gadael i unrhyw un ddweud wrthych bod eich rhywioldeb neu hunaniaeth ryw yn eich gwneud chi’n unrhyw beth llai na gwych!  

Gadael neb ar ôl

Blog gan y Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Bob blwyddyn ar 1 Hydref, mae’r byd yn cymryd y cyfle i ddathlu pobl hŷn a’r gwahanol ffyrdd y maen nhw’n cyfrannu at ein bywydau fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn y Cenhedloedd Unedig. Eleni, gyda’r byd o’n cwmpas wedi newid cymaint, mae pethau ychydig yn wahanol, wrth gwrs.

Ond mae heddiw yn gyfle da nid yn unig i oedi a myfyrio ar y ffyrdd y mae Covid-19 yn effeithio ar bobl hŷn ledled y byd, ond hefyd i ystyried yr hyn y mae angen i ni ei wneud i sicrhau nad yw pobl hŷn yn cael eu gadael ar ôl wrth i ni ddechrau symud ymlaen, sef pryder y mae llawer o bobl hŷn wedi sôn wrtha i amdano.

Trwy gydol y pandemig, mae fy nhîm a minnau wedi ymgysylltu â phobl hŷn ledled Cymru i glywed ganddynt am y problemau a’r heriau y maent wedi’u hwynebu, yn ogystal â’r pethau sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w bywydau yn ystod y misoedd diwethaf.

Y lleisiau a’r profiadau hyn sydd wrth wraidd fy adroddiad ‘Gadael neb ar ôl’, a gyhoeddais ym mis Awst. Mae’r adroddiad yn archwilio’r effaith y mae’r pandemig wedi’i chael ar lawer o agweddau ar fywydau pobl hŷn ac yn galw am weithredu ar draws nifer o feysydd allweddol – gan gynnwys gofal cymdeithasol ac iechyd, yr economi, a’n cymunedau – i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar yr help a’r cymorth y gallai fod ei hangen arnynt ac yn gallu cymryd rhan yn llawn pan fydd Cymru’n dechrau ei adferiad ar ôl Covid-19.

Yn yr adroddiad, rwyf wedi nodi camau ymarferol y mae’n rhaid eu cymryd ar unwaith i fynd i’r afael â materion a grëwyd gan y pandemig, yn ogystal â chamau gweithredu tymor hwy a ddyluniwyd i fynd i’r afael â’r materion strwythurol ehangach sy’n effeithio ar bobl hŷn sydd wedi’u gwaethygu gan Covid-19. Mae hyn yn cynnwys:

  • Dirymu adrannau o’r Ddeddf Coronafeirws sydd mewn perygl o gyfyngu ar hawliau pobl hŷn i gael gofal a chymorth.
  • Sefydlu rhaglen adsefydlu ar gyfer pobl hŷn sydd wedi cael eu heffeithio’n gorfforol a/neu’n feddyliol gan Covid-19.
  • Sefydlu rhaglen gymorth bwrpasol i helpu gweithwyr hŷn i barhau mewn gwaith neu i gael eu hailhyfforddi os ydynt yn mynd i gael eu diswyddo.
  • Buddsoddi mewn ymgyrch a chymorth wedi’u targedu i gynyddu’r niferoedd sy’n hawlio Credyd Pensiwn.
  • Darparu cymorth wedi’i deilwra i bobl hŷn i’w helpu i fynd ar-lein, gan gynnwys darparu dyfeisiadau hawdd eu defnyddio gyda mynediad i’r rhyngrwyd.

Rwyf wedi dechrau gweithio gyda Llywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus allweddol a sefydliadau eraill i sicrhau bod profiadau ac anghenion pobl hŷn yn llywio eu cynlluniau wrth iddynt symud ymlaen, a byddaf yn defnyddio’r adroddiad fel sylfaen dystiolaeth bwerus i ysgogi newid i bobl hŷn.

Mae’r pandemig wedi taflu goleuni ar lawer o’r materion sy’n wynebu pobl hŷn ledled Cymru, ac rydym wedi gweld yr effaith anghymesur y mae Covid-19 wedi’i chael ar lawer o grwpiau yn y gymdeithas, sy’n adlewyrchu anghydraddoldebau a gwahaniaethu systematig sy’n bodoli ers amser maith.

Ond trwy gydol y pandemig, rydym hefyd wedi gweld llawer o enghreifftiau o weithredu cymunedol cadarnhaol ledled Cymru sydd wedi darparu cymorth hanfodol i’r rhai sydd ei angen, gan gynnwys llawer o bobl hŷn.

Mae’n hanfodol ein bod yn adeiladu ar y gweithredu cadarnhaol hwn, sydd wedi cyflawni cymaint i gynifer o bobl, ynghyd â chydnabod cyfraniad sylweddol pobl hŷn at ein cymunedau a’n heconomi a hyrwyddo undod rhwng y cenedlaethau.

Gyda’n gilydd gallwn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

Y Fframwaith Cyllidol / Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 – Diweddariad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid

Llyr Gruffydd ydw i, Aelod o’r Senedd a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

Mae gan y Pwyllgor Cyllid gylch gwaith pwysig iawn ac mae’n gyfrifol am ystyried, ac adrodd ar gynigion sy’n cael eu gosod gan Weinidogion Cymru gerbron y Senedd sy’n ymwneud â defnyddio adnoddau.

At hynny, gall y Pwyllgor ystyried a chyflwyno adroddiad ar unrhyw fater arall sy’n ymwneud ag ariannu neu wariant o Gronfa Gyfunol Cymru, neu unrhyw fater sy’n effeithio ar hynny.

Un o swyddogaethau’r Pwyllgor yw craffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru, sydd oddeutu £18 biliwn y flwyddyn. Caiff cyllideb Cymru ei dyrannu gan Lywodraeth y DU ac mae’n cael ei phennu gan yr Adolygiad o Wariant, ac unrhyw addasiadau dilynol trwy fformiwla Barnett.

Er bod Llywodraeth Cymru yn cael ei hariannu’n bennaf trwy grant bloc gan Lywodraeth y DU, yn ystod y pedair blynedd diwethaf mae datganoli pwerau treth – gan gynnwys Cyfraddau Treth Incwm Cymru, Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi – wedi golygu bod tua 20 y cant o wariant Llywodraeth Cymru bellach yn cael ei ariannu trwy drethi.

Datganoli pwerau trethu a benthyca i Gymru

Deddf Cymru 2014 wnaeth ddarparu’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer datganoli pwerau trethu a benthyca i’r Senedd ac i Lywodraeth Cymru. Mae Rhan 2 o Ddeddf 2014 yn ymdrin â datganoli pwerau ariannol.

Er mwyn galluogi rhoi’r pwerau yn Neddf 2014 ar waith, daethpwyd i gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar ffurf y Fframwaith Cyllidol. Roedd hyn yn caniatáu datganoli treth dir y dreth stamp – Treth Trafodiadau Tir, erbyn hyn – yng Nghymru, Treth Tirlenwi – Treth Gwarediadau Tirlenwi, erbyn hyn – a rhoi Cyfraddau Treth Incwm Cymru ar waith.

At hynny, mae’r Fframwaith Cyllidol yn ymdrin â therfynau benthyca Llywodraeth Cymru, offer rheoli cyllideb, ymdrin ag effeithiau gorlifo polisi a threfniadau rhoi ar waith.

O ystyried bod y Ddeddf wedi bod ar waith ers 2014, mae’n teimlo fel amser perthnasol i’r Pwyllgor ystyried y Ddeddf, a gweithrediad ac effeithiolrwydd y Fframwaith Cyllidol. Rydym wedi lansio ein  hymgynghoriad, ac mae gwybodaeth bellach i’w chael ar ein gwefan. Ein bwriad yw dechrau gwrando ar dystiolaeth lafar yn nhymor yr hydref.

Cyllideb Llywodraeth Cymru ac Economi Cymru

Mae economi Cymru wedi profi ansicrwydd sylweddol yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae Deddf 2014 wedi rhoi pwerau i Lywodraeth Cymru amrywio trethi a gwariant yng Nghymru, sydd wedi ei gwneud yn fwy atebol i bobl Cymru. Yn ein hadroddiad ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19, amlygodd y Pwyllgor ei fwriad i gynhyrchu darn o waith ar y parodrwydd ariannol ar gyfer gadael yr UE.

Ar y pryd, Brexit oedd yr ansicrwydd pennaf ar economi Cymru o hyd. Ym mis Medi 2018 gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad. Y llynedd, roedd Etholiad Cyffredinol y DU a Brexit wedi effeithio ar Gyllideb Ddrafft 2020-21 Llywodraeth Cymru. Cyflawnwyd y gyllideb o dan amgylchiadau “eithriadol”, a effeithiodd ar allu Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i gynllunio sut i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Fodd bynnag, bydd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, sydd ar y gweill, hefyd yn cael ei hoedi gan nad oes gan Lywodraeth Cymru arwydd o gyfanswm y cyllid sydd ar gael hyd nes bod Llywodraeth y DU yn cyhoeddi Cyllideb neu Adolygiad o Wariant. Nid ydym wedi cael unrhyw arwydd gan Lywodraeth y DU o ran pryd i ddisgwyl hynny.

Rwyf i, ynghyd â’m cymheiriaid yn Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon, wedi ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, gan bwysleisio pwysigrwydd amseriad cyllideb y DU ar gyllidebau llywodraethau datganoledig, o ystyried bod oedi ar lefel y DU yn effeithio ar y broses graffu.

Mae’r Pwyllgor mewn sefyllfa debyg i’r llynedd, gyda llai o amser ar gyfer cynnal gwaith craffu. Mae’n anochel y bydd pandemig Covid-19 a diwedd cyfnod pontio Brexit yn effeithio ar Gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22, felly mae’n bwysicach fyth i gael cyfle i gynnal gwaith craffu o sylwedd.

Yn gynharach eleni gwnaethom gynnal gweithgaredd ymgysylltu ar-lein i geisio barn ar y meysydd lle dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu ei gwariant, ac fe gafwyd rhychwant diddorol o safbwyntiau. Cafodd iechyd, addysg a’r newid yn yr hinsawdd eu hamlygu fel meysydd blaenoriaeth allweddol gan y cyfranogwyr.

Bydd y Pwyllgor yn ymgynghori ar Gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22 yn nhymor yr hydref. Bydd manylion ar gael ar ein gwefan a byddwn yn eich annog i rannu eich barn ac ymgysylltu’n llawn â’r broses graffu, i’n galluogi i adrodd mewn ffordd gadarn, dryloyw ac effeithiol.

System ddemocrataidd hyblyg sy’n gweithio ar ran pobl Cymru yn ystod pandemig y Coronafeirws

Drwy gydol pandemig y Coronafeirws, mae’r Senedd wedi arwain y ffordd o ran arloesi er mwyn sicrhau bod pobl Cymru yn parhau i gael eu cynrychioli gan eu Haelodau etholedig, a bod y Llywodraeth yn parhau i fod yn destun gwaith craffu cadarn.

Cyfarfod ar-lein cyntaf y Senedd ym mis Ebrill 2020.

Mae Senedd Cymru wedi datblygu datrysiadau newydd i’r heriau digynsail y mae wedi’u hwynebu, gan gynnwys datblygu ap pleidleisio ei hun ar gyfer Aelodau, a chadarnhau ei statws fel y ddeddfwrfa gyntaf yn y DU i gynnal Cyfarfodydd Llawn rhithwir.

Pan roddwyd y cyfyngiadau symud ar waith, llwyddodd y Senedd i addasu yn gyflym. Senedd Cymru oedd Senedd gyntaf y DU i gynnal Cyfarfod Llawn rhithwir, ar 1 Ebrill. Cynhaliwyd ei sesiwn gyntaf i gael ei ffrydio’n fyw wythnos yn ddiweddarach.

Yr her gyntaf oedd ceisio cysylltu Aelodau o bob cwr o’r wlad. Roedd angen meddwl yn ofalus am sut y byddai modd cynnal trafodion di-dor, a hynny gan roi cyfle i bob Aelod siarad yn eu dewis iaith.

Cynhaliwyd profion trylwyr ar lwyfannau a chymwysiadau amrywiol er mwyn datblygu system i gefnogi ffrwd sain ddwyieithog, yn Saesneg ac yn Gymraeg, a hynny er mwyn caniatáu i Aelodau gyfrannu yn eu dewis iaith, ac i wylwyr wylio yn yr un modd, ac er mwyn caniatáu i gyfranwyr symud yn hwylus o un iaith i’r llall heb darfu ar lif y trafodion.

Yn sgil hynny, ysgogwyd nifer o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat i ofyn i Gomisiwn y Senedd am gyngor a chanllawiau ynghylch sut i gynnal eu cyfarfodydd dwyieithog eu hunain.

Defnyddiwyd yr un dechnoleg ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau’r Senedd, ac ar gyfer y cyfarfod a gynhaliwyd rhwng Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru â Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru, a Gweinidogion Llywodraeth Cymru.

Cyfarfod Senedd Ieuenctid Cymru â’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio, cyflwynwyd model hybrid ar gyfer y Cyfarfod Llawn. O dan y drefn honno, caniatawyd i 20 o Aelodau gwrdd yn ddiogel yn Siambr y Senedd, ac roedd cyfle i’r 40 Aelod a oedd yn weddill ymuno â’r cyfarfod ar-lein. Yn gychwynnol, defnyddiwyd pleidlais floc ar gyfer yr Aelodau. Fodd bynnag, cyflwynwyd technoleg newydd er mwyn caniatáu i bob Aelod bleidleisio’n unigol ar ddeddfwriaeth a rheoliadau pwysig.

Datblygwyd ap pleidleisio unigryw gan staff TG arbenigol y Senedd, gan ddefnyddio meddalwedd  a gafodd ei dylunio gan y tîm datblygu apiau mewnol. Ar ôl cyfnod helaeth o brofi, gan gynnwys cynnal  miloedd o bleidleisiau ffug, defnyddiwyd yr ap am y tro cyntaf yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 8 Gorffennaf.

Ers mabwysiadu’r datblygiadau newydd hyn, mae’r Senedd wedi bod yn rhannu ei phrofiadau a’i gwybodaeth â deddfwrfeydd eraill, gan gynnwys Senedd y DU a Senedd yr Alban, a deddfwrfeydd mewn lleoedd mor bell i ffwrdd ag Awstralia, Seland Newydd a Chanada.

Dywedodd  Elin Jones AS, Llywydd y Senedd:

Mae’r Senedd bob amser wedi datblygu a mabwysiadu technoleg newydd sy’n cyd-fynd â disgwyliadau cymdeithas fodern, a hynny er mwyn sicrhau bod pobl yn deall y gwaith sy’n cael ei wneud ar eu rhan ac yn gallu ei lywio.

Rwy’n falch o’r hyn y mae ein tîm TGCh mewnol a’n partneriaid wedi’i gyflawni o dan amgylchiadau anodd iawn, gan alluogi’r Senedd i barhau i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar y penderfyniadau y mae Gweinidogion wedi’u cymryd yn ystod y pandemig hwn.

Yn wyneb yr her newydd o gyfuno elfennau rhithwir a phresenoldeb corfforol Aelodau o dan reolau pellhau cymdeithasol llym yn ystod y Cyfarfod Llawn hybrid, roedd gofyn datblygu dulliau newydd a oedd yn integreiddio dwy system dechnolegol ar wahân er mwyn cynnal trefn y trafodion.

Dywedodd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd:

Ar bob cam, rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau uniondeb trafodion y Senedd, fel y gall yr Aelodau a phobl Cymru fod yn siŵr bod pob cam sy’n cael ei gymryd yn cydymffurfio â’n safonau uchel, ynghyd â’r gwerthoedd a’r egwyddorion sy’n llywio’r sefydliad hwn.

Roedd angen system arnom y gallai Aelodau gael mynediad ati’n hwylus, a system a oedd yn ddibynadwy ac yn ddiogel ac a oedd yn caniatáu i drafodion gael eu cynnal mewn modd mor ddidrafferth â phosibl.

Mae’r adborth a gawsom gan yr Aelodau a’r cyhoedd wedi bod yn gadarnhaol dros ben, ac mae llawer y gallwn ei ddysgu o’r profiadau hyn a all ein helpu i lunio sut y gall y Senedd hon, a Seneddau eraill, weithredu yn y dyfodol.

Roedd y cam o ddatblygu ap pleidleisio arbennig yn gam pwysig, gan ei fod yn caniatáu i Aelodau daro pleidlais unigol electronig o unrhyw fan ar faterion pwysig, gan gynnwys deddfwriaeth, newidiadau i reoliadau a dadleuon.

Dywedodd Mark Neilson, Pennaeth TGCh a Darlledu:

Fel nifer o sefydliadau ledled y byd, rydym wedi wynebu nifer o heriau i’w goresgyn yn sgil cyfyngiadau symud y Coronafeirws. Fodd bynnag, mae’r sefyllfa hon hefyd wedi cyflymu’r broses o brofi ac arbrofi mewn perthynas â systemau ac offer a allai fod wedi cymryd blynyddoedd i ddwyn ffrwyth o dan amgylchiadau arferol.

Mae wedi bod yn her inni geisio datblygu gwasanaethau addas i alluogi’r Senedd i gynnal cyfarfodydd rhithwir yn y man cyntaf, ac yna i gynnal cyfarfodydd hybrid, ac i sicrhau bod y cyfarfodydd hyn yn bodloni ein safonau uchel o ran dibynadwyedd a diogelwch.

Dibynadwyedd a diogelwch oedd yr ystyriaethau pwysicaf wrth ddatblygu’r ap pleidleisio, a dyna pam y buom yn gweithio gyda Chanolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol y DU yn gynnar yn y broses er mwyn lliniaru’r posibilrwydd o ymyrraeth allanol â thrafodion y Senedd.

Bydd y Senedd yn parhau i gynnal cyfarfodydd hybrid, gan asesu’n barhaus y posibilrwydd o lacio’r cyfyngiadau symud, yn unol â’r cyngor a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau partner eraill.

Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd – y wybodaeth ddiweddaraf gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Ar ôl datgan argyfwng iechyd cyhoeddus COVID-19, newidiodd pwyllgorau’r Senedd bwyslais eu gwaith i ganolbwyntio ar ymateb i’r argyfwng, fel cynifer o sefydliadau eraill. O ran y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, ystyr hyn yw oedi o ran rhywfaint o’n gwaith a gynlluniwyd, wrth inni ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio.

Mae’r deg wythnos ddiwethaf wedi rhoi cyfle inni addasu ein harferion gwaith yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, a diwygio ein rhaglen waith i adlewyrchu’r sefyllfa ehangach.

Er mai ymateb i’r pandemig yw prif flaenoriaeth y Llywodraeth o hyd, rhaid inni beidio ag anghofio bod y DU mewn cyfnod o bontio wrth ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, ac fel y mae pethau ar hyn o bryd, byddwn wedi gadael gyda chytundeb neu â dim cytundeb masnach ar 1 Ionawr 2021. Am y rheswm hwn, mae’r Pwyllgor yn parhau i ganolbwyntio ar ei gylch gwaith o ran edrych yn fanwl ar oblygiadau ymadawiad y DU â’r UE i Gymru.

Er mwyn cyflawni hyn, cyfarfu’r Pwyllgor o bell ac yn anffurfiol ym mis Ebrill i gytuno ar ei gamau nesaf, ac ers hynny mae wedi cynnal dau gyfarfod ffurfiol o bell i drafod ei feysydd gwaith parhaus fel Bil Masnach y DU, y trafodaethau o ran perthynas y DU a’r UE yn y dyfodol, a’r rhaglen parhad masnach.

Mae Bil Masnach 2019-21 yn gwneud cynnydd drwy Senedd y DU, ac mae’r Pwyllgor yn paratoi ar gyfer adrodd ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol sy’n gysylltiedig â’r Bil ddechrau mis Gorffennaf, gan ddatblygu ei waith ar yr adroddiadau blaenorol ar y Bil Masnach ym mis Mawrth 2018 a mis Mawrth 2019.

Cynhaliwyd ein cyfarfod darlledu rhithwir cyntaf ar 2 Mehefin 2020 lle gwnaethom holi’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd am rôl Llywodraeth Cymru yn y trafodaethau ar y berthynas â’r UE yn y dyfodol, a sut mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio. (Os gwnaethoch fethu’r cyfarfod, gallwch wylio recordiad ar Senedd.tv. neu ddarllen y trawsgrifiad).

Ar 16 Mehefin 2020, bydd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yn ymddangos gerbron y Pwyllgor i drafod ymwneud Llywodraeth Cymru â rhaglen cytundebau masnach rydd arfaethedig Llywodraeth y DU, yn benodol y rheini ag Unol Daleithiau America a chyda Japan.

Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal drwy gynhadledd fideo a bydd ar gael i’w wylio ar senedd.tv yn fyw ac ar ôl y digwyddiad.

Yn ogystal â’n rôl o graffu ar Lywodraeth Cymru, ni allwn anghofio effaith y trafodaethau hyn ar Gymru yn ehangach. Er mwyn deall yn llawn y goblygiadau i Gymru o ymadawiad y DU â’r UE, rhaid inni ddeall sut mae busnesau a sefydliadau Cymru yn paratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio, yn enwedig yng ngoleuni effaith y coronafeirws.

Mae cadw pellter cymdeithasol a chyfyngiadau ar deithio yn golygu na allwn bellach gynnal y cyfarfod ar ffurf cynhadledd gyda rhanddeiliaid fel yr oeddem wedi’i gynllunio, ond gobeithiwn edrych ar ffyrdd eraill o ymgysylltu yn yr wythnosau nesaf.

Bydd rhagor o wybodaeth am hyn a’n holl feysydd gwaith ar gael ar ein gwefan.

Hyrwyddo cydraddoldeb yn y Cynulliad

Aelodau Cynulliad yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol y Menywod – diwrnod i ddathlu llwyddiannau menywod ym meysydd cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol. Mae’r diwrnod hefyd yn annog camau breision i sicrhau cydraddoldeb i fenywod.

Eleni, y thema yw #PawbDrosGydraddoldeb, neu #EachforEqual yn Saesneg. Mae’r ymgyrch yn codi ymwybyddiaeth o sut y gall ein holl weithredoedd, sgyrsiau, ymddygiadau ac agweddau gael effaith ar gymdeithas. Gyda’n gilydd, gall pob un ohonom helpu i greu byd sy’n sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Cydraddoldeb yn greiddiol inni

Y Senedd

Rydym yn falch o fod yn hyrwyddwyr cydraddoldeb yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Ers iddo gael ei sefydlu ym 1999, mae’r egwyddor o gyfleoedd cyfartal wedi bod yn greiddiol i’r Cynulliad.

Mae’r deddfau a’r rheolau sy’n llywodraethu gwaith y Cynulliad yn cynnwys gofynion penodol y dylid gwneud ein gwaith gan roi sylw dyledus i’r egwyddor ein bod yn sicrhau cyfleoedd cyfartal i bawb.

Arwain y ffordd

Fel deddfwrfa, rydym wedi arwain y ffordd o ran cydraddoldeb. Yn 2003, ni oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau, gyda 30 o fenywod a 30 o ddynion yn Aelodau’r Cynulliad. Ar hyn o bryd, mae 47 y cant o Aelodau’r Cynulliad yn fenywod. Nid yw’r gyfran erioed wedi gostwng o dan 40 y cant.

Yn fyd-eang, canran gyfartalog y menywod mewn seneddau cenedlaethol yw 24 y cant. Mae’r Cynulliad bob amser wedi bod â chyfran uwch o Aelodau sy’n fenywod na Thŷ’r Cyffredin, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon.

Menywod sydd â rhai o’r rolau mwyaf blaenllaw yn y Cynulliad. Ein Llywydd yw Elin Jones. Mae’r rôl hon yn debyg i rôl Llefarwyr a Llywyddion mewn seneddau ledled y byd, er bod y cyfrifoldebau’n amrywio o wlad i wlad. Ann Jones AC yw’r Dirprwy Lywydd.

Manon Antoniazzi yw Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad. Mae 60 y cant o uwch reolwyr y Cynulliad yn fenywod.

Rhoi llwyfan i bobl ifanc

Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn rhoi llwyfan i bobl ifanc ddweud eu dweud a thrafod materion pwysig. Mae cydraddoldeb a chynwysoldeb yn greiddiol i’r Senedd Ieuenctid. Cafodd 60 o bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed eu hethol yn Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru, ac roedd 58 y cant ohonynt yn fenywod ifanc.

Senedd Ieuenctid Cymru gyda’r Llywydd

Ein gwaith

Rydym yn ymchwilio i faterion sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb rhwng y rhywiau, gan gynnwys rhianta a gwaith; trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol; a sicrhau amrywiaeth o ran cynrychiolaeth mewn llywodraeth leol.

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Cynulliad ar gael drwy ein cyfrifon Instagram, Twitter a Facebook. Gallwch hefyd ymweld â ni.

Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Blog gan Ann Jones AC.

Ann Jones AC a’r panel

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal digwyddiad blynyddol bob mis Mawrth i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Thema eleni yw #EachforEqual, ac rwy’n teimlo’n falch iawn ein bod wedi ymrwymo i gymryd cydraddoldeb o ddifrif yn y Cynulliad ers ei sefydlu 20 mlynedd yn ôl.

Rwy’n un o’r Aelodau Cynulliad gwreiddiol a etholwyd am y tro cyntaf ym 1999. Mae hyn wedi rhoi trosolwg da i mi o’r Cynulliad a’r ffordd y mae’n gweithio. Gallaf wir ddweud ei fod yn ymrwymo i egwyddorion #EachforEqual. Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i hyrwyddo cydraddoldeb ac mae wedi dod yn rhan annatod o’n diwylliant i wneud hynny, nid oherwydd bod yn rhaid i ni wneud hynny, ond am ein bod am wneud hynny.

Cydnabyddiaeth ryngwladol

Yn 2003, enillodd y Cynulliad gydnabyddiaeth ryngwladol am fod y ddeddfwrfa gyntaf ledled y byd i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac am fod y gyntaf i gael mwy o fenywod na dynion yn 2006. Ar hyn o bryd mae gennym 47 y cant o Aelodau benywaidd ac rydym yn parhau i ymdrechu i sicrhau cydbwysedd cyfartal.

Pan gefais fy ethol gan fy nghymheiriaid ar gyfer rôl y Dirprwy Lywydd yn 2016, gwelais gyfle i ddangos y gwaith a wneir gan fenywod. Mae cynnal digwyddiadau fel ein dathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a chlywed gan fenywod mor ysbrydoledig bob amser yn fy atgoffa pam fy mod i mor angerddol am hyrwyddo a chefnogi menywod mewn gwleidyddiaeth. Nid yw bob amser yn hawdd, ac mae thema #EachforEqual eleni yn pwysleisio pwysigrwydd cydraddoldeb ledled ein cymdeithas.

Siaradwyr ysbrydoledig

Roedd hi’n bleser clywed siaradwyr mor ysbrydoledig yn ein digwyddiad. Ein siaradwyr oedd Charlie Morgan, cyd-sylfaenydd Warrior Women Events; Angel Ezeadum, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru a Sophie Rae, sylfaenydd Ripple Living.

Charlie Morgan, cyd-sylfaenydd Warrior Women Events
Angel Ezeadum, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru
Sophie Rae, sylfaenydd Ripple Living

Roedd eu geiriau nhw’n ddiddorol iawn ac yn hynod rymusol, ac rwy’n ddiolchgar iddyn nhw am rannu eu straeon gyda ni. Roeddwn i’n falch o groesawu Betsan Powys i gadeirio’r digwyddiad hefyd.

Gwnaethom ni groesawu amrywiaeth o bobl i’r Pierhead ac roedd yn gyfle da i siarad â phobl efallai nad oedden nhw wedi ymgysylltu â ni o’r blaen. Rwy’n eich annog i gadw mewn cysylltiad. Siaradwch â’ch Aelodau Cynulliad am y materion sy’n bwysig i chi. Dewch i ymweld â ni yn y Senedd a dilynwch ni ar Twitter, Facebook ac Instagram

Beth sydd nesaf?

Wrth i ni ddathlu 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru, mae’n anhygoel gweld pa mor bell yr ydym wedi dod. Wrth i etholiadau nesaf y Cynulliad gael eu cynnal yn 2021, byddwn yn gweld yr hawl i bleidleisio’n cael ei hestyn am y tro cyntaf i bobl 16 a 17 oed fel rhan o’r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). Rydw i mor gyffrous am ganiatáu i hyd yn oed mwy o bobl Cymru gael lleisio eu barn. Byddwn hefyd yn newid ein henw o Gynulliad Cenedlaethol Cymru i Senedd Cymru, neu Welsh Parliament, wrth i ni adlewyrchu ei chyfrifoldebau sy’n datblygu drwy’r amser.

Dathlu Dydd Miwsig Cymru 2020

Mae’n Ddydd Miwsig Cymru heddiw, sef digwyddiad blynyddol sy’n cael ei ddathlu ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth Gymraeg.

Eleni, mae aelodau staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bachu ar y cyfle i ymuno â Dydd Miwsig Cymru, fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i hyrwyddo’r Gymraeg ar draws y sefydliad.

Rydyn ni wedi bod yn tynnu hunluniau, yn creu rhestrau chwarae ac yn chwarae cerddoriaeth Gymraeg yn uchel ar draws yr ystad.

Dyma gipolwg ar y pethau rydyn ni wedi bod yn ei wneud:

Hunluniau Dydd Miwsig Cymru

Diolch i’r staff a’r Aelodau sydd wedi dweud wrthym beth yw eu hoff ganeuon Cymraeg a gwenu ar gyfer y camera – mae cerddoriaeth Gymraeg yn boblogaidd iawn yma!

Rhestrau chwarae – pa un yw eich ffefryn?

Diolch yn fawr i Senedd Ieuenctid Cymru, ein dysgwyr a Chadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Bethan Sayed AC, am gyflwyno eu rhestrau chwarae yn cynnwys eu hoff ganeuon Cymraeg.

Rydyn ni hefyd wedi cynnwys rhestr chwarae’r Llywydd o 2018, sy’n cynnwys rhai o’i hoff draciau!

Senedd Ieuenctid Cymru

Bethan Sayed AC, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

Caneuon i Ddysgwyr

Y Llywydd