Yno ac yn ôl: taith annisgwyl…

Mae Zoe Kelland, 20, o’r Rhws yn gyn brentis yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Ar ôl graddio o’r cynllun prentisiaeth agoriadol, mae Zoe bellach yn gweithio i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac yn ddiweddar, aeth i Wobrau Prentisiaeth Cymru 2014 i gynrychioli a dathlu cynllun prentisiaeth y Cynulliad. Dyma ei stori… #apprenticeshipawardscymru

Apprenticeshipawardscymru1

Chwith i’r dde: Cynrychiolwyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru 2014: Carolyn Owen (Rheolwr Secondiadau), Lowri Williams (Pennaeth Adnoddau Dynol), Ross Davies (Rheolwr Cydraddoldeb) a Zoe Kelland (Cymorth tîm Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chyn-brentis).

Zoe ydw i, ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ond cyn hynny, roeddwn yn brentis yn y Cynulliad. Enillais Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Busnes a Gweinyddu tra’n gweithio gyda’r tîm Cyswllt ag Ymwelwyr a’r Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi. Cwblheais y cynllun prentisiaeth ar ôl blwyddyn a phan gododd cyfle i weithio yng Ngwasanaeth y Pwyllgorau, llwyddais i gael swydd. Rwyf wedi bod yn gweithio i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ers 8 mis bellach ac rwy’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd.

Er nad wyf bellach yn brentis, pan gyrhaeddodd y Cynulliad restr Gwobrau Prentisiaeth Cymru 2014, roedd yn gyfle gwych i mi gynrychioli’r prentisiaid presennol a blaenorol yng ngwesty mawreddog y Celtic Manor.

Yn ôl Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), ‘mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr sy’n ymwneud â darparu prentisiaethau safonol trwy Gymru.

Ar 31 Hydref, 2014 cyrhaeddodd y Cynulliad restr fer categori ‘Cyflogwr Mawr y Flwyddyn’, ynghyd ag ymgeiswyr eraill:

  • Gwasanaethau Eiddo ac Adeiladau Corfforaethol Dinas a Sir Abertawe;
  • Dunbia (Cymru), Llanybydder;
  • GE Aviation Cymru, Nantgarw.

“Let’s all celebrate and have a good time!!” (Celebration, Kool & the Gang) Ar ôl treulio oriau’n paratoi ac ymbincio, cyrhaeddon ni’r Celtic Manor mewn steil… mewn tacsi!! Ar ôl cofrestru, aethon i gael tynnu ein llun, cyn mynd ymlaen i dderbynfa’r seremoni wobrwyo, lle dechreuon ni drydar trwy ffynhonnell @CynulliadCymru.

Apprenticeshipawardscymru2

Tra’n aros i fynd i’r prif neuadd ar gyfer y seremoni wobrwyo, cawsom siampên a chael ein diddanu gan gonsuriwr dawnus tu hwnt. Cyn pen dim, roedd y derbyniad yn llawn: Prentisiaid, cyflogwyr, consurwyr a wynebau cyfarwydd Aelodau’r Cynulliad. Agorodd y drysau ac aethom i gyd i chwilio am ein byrddau.

Ymunodd Picasso (Griffiths) â’n bwrdd ni, a llwyddodd i dynnu lluniau gwych oedd yn ymdebygu’n fawr i rai enwogion cyfarwydd (gweler isod):

Apprenticeshipawardscymru3.png

Chwith uchaf i dde: Carol Smiley a David Baddiel. Gwaelod chwith i dde Claudia Winkleman a Tess Daley

Roedd y seremoni wobrwyo yn anhygoel!! Cawsom fwyd ardderchog; roedd yr adloniant a’r gwaith trefnu heb ei ail. Roedd hefyd yn ddiddorol gweld prentisiaid gwahanol o ddiwydiannau gwahanol, a gweld sut mae sefydliadau’n darparu cyfleoedd i bobl ifanc ledled Cymru. Roedd ystod eang o sgiliau i’w gweld: o gigyddiaeth i weinyddu; trin gwallt i beirianneg; roedd hyd yn oed y pryd bwyd gawson ni wedi ei baratoi gan brentisiaid sy’n gweithio yn y Celtic Manor.

Yn anffodus, wnaeth y Cynulliad ddim ennill y wobr, ond roeddem wrth ein bodd ein bod wedi ein henwebu, yn enwedig o gofio mai hon oedd y flwyddyn gyntaf i ni ymgeisio. Enillydd ein categori ni oedd GE Aviation Cymru, Nantgarw, a gellir gweld rhestr lawn o’r enillwyr ar wefan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Daeth y noson i ben gyda pherfformiad gan Sophie Evans, ddaeth yn enwog am bortreadu Dorothy yn fersiwn y West End o’r Wizard of Oz. Roedd y seremoni yn wirioneddol ddifyr ac roedden ni gyd yn falch o gael cynrychioli’r Cynulliad. Atgoffodd y noson fi hefyd o ba mor bell rwyf wedi dod ers dechrau ar fy nghynllun prentisiaeth, a faint o ffordd sydd ar ôl gen i ar y daith ar hyd llwybr aur y Cynulliad…

Gobeithio y gall y Cynulliad barhau i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc, a phwy a ŵyr, efallai yr enillwn ni’r wobr gyntaf y flwyddyn nesaf? Croesi bysedd!!

 

Leave a comment

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.